Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Swyddfa’r Llywydd, 4ydd llawr - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Aled Elwyn Jones
Rhif | Eitem |
---|---|
Cyflwyniadau, ymddiheuriadau a dirprwyon Cofnodion: Roedd Sian Gwenllian yn driprwyo ar ran Rhun
ap Iorwerth, a disgwylir iddi ymuno'n ffurfiol â'r Pwyllgor Busnes cyn y
cyfarfod nesaf. Diolchodd y Llywydd i Rhun ap Iorwerth am ei gyfraniad fel
aelod o'r pwyllgor. |
|
Cofnodion y cyfarfod blaenorol Cofnodion: Cytunodd y Pwyllgor ar
gofnodion y cyfarfod ar gyfer eu cyhoeddi. |
|
Trefn busnes |
|
Busnes yr wythnos hon Cofnodion: Gofynnodd
Caroline Jones a fydd datganiad gan y llywodraeth ar y coronafirws. Dywedodd y
Trefnydd wrthi fod y llywodraeth eisoes wedi cyhoeddi datganiad ysgrifenedig,
ac y bydd yn diweddaru'r Cynulliad pe bai unrhyw newidiadau. Dydd
Mawrth ·
Cynhelir y Cyfnod Pleidleisio fel yr eitem
olaf o fusnes. Dydd Mercher ·
Cynhelir y Cyfnod Pleidleisio cyn y Ddadl
Fer. |
|
Amserlen Busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf Cofnodion: Dydd
Mawrth 4 Chwefror 2020 ·
Datganiad gan y Gweinidog Iechyd a
Gwasanaethau Cymdeithasol: Y wybodaeth ddiweddaraf am waith y Grŵp
Rhyng-Weinidogol ar Dalu am Ofal Cymdeithasol (45 munud) ·
Dadl: Adroddiad y Comisiwn ar Gyfiawnder yng
Nghymru (60 munud) |
|
Amserlen Busnes y Cynulliad ar gyfer y tair wythnos nesaf Cofnodion: Penderfynodd
y Pwyllgor Busnes ar drefn busnes y Cynulliad a chytunodd i gynnwys yr eitemau
o fusnes a ganlyn ar yr amserlen: Dydd Mercher 26 Chwefror 2020 - ·
Amser a neilltuwyd i'r Ceidwadwyr Cymreig (60
munud) ·
Amser a neilltuwyd i Blaid Cymru (60 munud) ·
Amser a neilltuwyd i Blaid Brexit (60 munud) |
|
Dadl ar Gynigion Deddfwriaethol Aelodau - dethol cynnig ar gyfer dadl Cofnodion: Cytunodd y
Pwyllgor Busnes i ddethol y cynnig a ganlyn ar gyfer dadl ar 5 Chwefror: NNDM7239 David Melding Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru: 1. Yn nodi cynnig ar
gyfer Bil sy'n ei gwneud yn ofynnol i bob cartref newydd a gaiff ei adeiladu
gael ei osod ag o leiaf un pwynt gwefru ceir trydan. 2. Yn nodi mai diben y
Bil hwn fyddai sicrhau bod gan: a) bob adeilad preswyl
newydd sydd â lle parcio cysylltiedig fan gwefru trydan wedi'i osod; b) bob adeilad preswyl
newydd neu sy'n cael ei adnewyddu'n sylweddol, gyda mwy na 10 o leoedd parcio,
lwybrau ceblau ar gyfer pwyntiau gwefru cerbydau trydan mewn o leiaf 50 y cant
o gyfanswm y lleoedd parcio. Cefnogir
gan: Angela
Burns Dai Lloyd David J
Rowlands Huw
Irranca-Davies Jenny
Rathbone Mark
Isherwood Mohammad
Asghar Rhun ap
Iorwerth Russell
George Vikki
Howells |
|
Deddfwriaeth |
|
Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar Fil Gemau'r Gymanwlad Birmingham. Cofnodion: Cytunodd
Rheolwyr Busnes i gyfeirio'r Cynnig at Bwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau
a'r Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol, gyda dyddiad cau ar
gyfer adrodd ddydd Iau 12 Mawrth. |
|
Pwyllgorau |
|
Adroddiad Drafft ar y newid i enw a chylch gwaith y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol Cofnodion: Cytunodd y
Rheolwyr Busnes ar yr adroddiad drafft. |
|
Aelodaeth, cadeiryddion a chydbwysedd gwleidyddol pwyllgorau, gan gynnwys d'Hondt Cofnodion: Trafododd
y Rheolwyr Busnes y papur a chytunwyd y dylai'r darpariaethau yn Neddf
Llywodraeth Cymru 2006 sy'n nodi fformiwla d'Hondt ar gyfer dyrannu lleoedd
pwyllgor pe na bai'r Cynulliad yn gallu cytuno ar gynnig ar aelodaeth gan
fwyafrif o ddwy ran o dair, gael ei integreiddio yn y Rheolau Sefydlog. Byddai
hyn yn caniatáu parhau i ddefnyddio fformiwla d'Hondt fel dull wrth gefn. Trafododd
y Rheolwyr Busnes ystod o faterion yn ymwneud â chydbwysedd gwleidyddol ar
bwyllgorau a chadeiryddion pwyllgorau, yn enwedig gweithdrefnau ynghylch sut
mae unrhyw newidiadau i'r cydbwysedd rhwng grwpiau yn ystod Cynulliad yn cael
eu hadlewyrchu yng nghyfansoddiad pwyllgorau a chydbwysedd cadeiriau a
gofynnwyd i'r Ysgrifenyddiaeth gyflwyno papur yn ystyried y materion hyn yn fwy
manwl. |
|
Unrhyw Fater Arall Aelodaeth
Plaid Cymru ar Bwyllgorau Dywedodd y
Llywydd wrth y Rheolwr Busnes y bydd Sian Gwenllian yn ymddiswyddo fel aelod o
Gomisiwn y Cynulliad ac yn cymryd lle Rhun ap Iorwerth fel aelod o'r Pwyllgor
Busnes. Bydd Rhun ap Iorwerth yn ei dro yn cael ei enwebu'n Gomisiynydd. Mae
hyn yn rhan o ad-drefnu ehangach o fewn Plaid Cymru, sy'n cynnwys newidiadau
i'w lleoedd ar bwyllgorau. Cytunodd y Rheolwyr Busnes i gymryd y cynigion angenrheidiol
i wneud y newidiadau hyn brynhawn dydd Mawrth. Cwestiynau
wedi'u grwpio Cafodd y
Rheolwyr Busnes eu hatgoffa gan y Llywydd mai eu cyfrifoldeb hwy yw sicrhau bod
unrhyw Aelodau sy'n gofyn cwestiynau atodol yn cael eu gwneud yn ymwybodol pan
fydd cwestiynau'n cael eu grwpio. |