Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Swyddfa’r Llywydd, 4ydd llawr - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Aled Elwyn Jones
Rhif | Eitem |
---|---|
Cyflwyniadau, ymddiheuriadau a dirprwyon Cofnodion: Croesawodd y Llywydd Julian Luke, Pennaeth
Gwasanaeth y Pwyllgorau Polisi a Deddfwriaeth a'i gyflwyno i'r Aelodau |
|
Cofnodion y cyfarfod blaenorol Cofnodion: ·
Cytunodd y
Pwyllgor ar gofnodion y cyfarfod ar gyfer eu cyhoeddi. |
|
Trefn busnes |
|
Busnes yr wythnos hon Cofnodion: Dydd
Mawrth
Dydd
Mercher
|
|
Amserlen Busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf Cofnodion: Nododd y
Pwyllgor Busnes amserlen busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf. |
|
Amserlen Busnes y Cynulliad ar gyfer y tair wythnos nesaf Cofnodion: Nododd y
Rheolwyr Busnes gais David Melding am ddadl ar y Cynnig i ddirymu Rheoliadau
Rhentu Cartrefi (Ffioedd etc.) (Gwybodaeth Benodedig) (Cymru) 2019, a chytunwyd
i drefnu'r ddadl ar gyfer 11 Rhagfyr 2019. Penderfynodd
y Pwyllgor Busnes ar drefn busnes y Cynulliad a chytunodd i gynnwys yr eitemau
o fusnes a ganlyn ar yr amserlen: Dydd Mercher 11 Rhagfyr 2019 ·
Cynnig i
ddirymu Rheoliadau Rhentu Cartrefi (Ffioedd etc.) (Gwybodaeth Benodedig)
(Cymru) 2019 (15 munud) Dydd
Mercher 8 Ionawr 2020
|
|
Deddfwriaeth |
|
Amserlen ar gyfer y Bil Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) Cofnodion: Trafododd
y Rheolwyr Busnes ymateb y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau
i'r amserlen arfaethedig ar gyfer y Bil, a'r cyfaddawd arfaethedig a ddaeth i'r
amlwg ar ôl y cyfarfod yr wythnos diwethaf ar gyfer ymestyn Cyfnod 1 trwy gael
Cyfnod 2 byrrach. Mynegodd
Darren Millar, Rhun ap Iorwerth a Caroline Jones gefnogaeth i safbwynt y
pwyllgor, gan bwysleisio pwysigrwydd tystiolaeth dda ar gyfer deddfwriaeth dda.
Fe wnaethant nodi y dylid cael isafswm o 12 wythnos ar gyfer Cyfnod 1, yn
hytrach na chyfnod safonol neu uchaf, yn enwedig ar gyfer Bil mor sylweddol. Gwrthwynebodd
y Trefnydd unrhyw newid i'r amserlen arfaethedig, gan bwysleisio bod yr
amserlen eisoes yn dynn ar gyfer ei gweithredu a bod angen ffenestr lawn ar
gyfer Cyfnod 2 er mwyn caniatáu ar gyfer cyflwyno gwelliannau, gan gynnwys
amser i weithredu argymhellion disgwyliedig y pwyllgor. Gan fod
mwyafrif ar gyfer amserlen arfaethedig y llywodraeth o dan system bleidleisio
wedi'i phwysoli'r Pwyllgor Busnes, cytunwyd ar yr amserlen a gynigiwyd gan y
llywodraeth. Cytunodd y Rheolwyr Busnes i ysgrifennu at y Pwyllgor
Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau i'w hysbysu o'u barn. Cytunodd y
Pwyllgor i edrych ar amserlennu gwaith craffu ar ddeddfwriaeth fel rhan o'i
baratoadau ar gyfer y Chweched Cynulliad. |
|
Busnes y Cynulliad |
|
Trefniadau Cyflwyno Cofnodion: Cadarnhaodd
y Rheolwyr Busnes y trefniadau ar gyfer cyflwyno busnes y cyfarfod llawn a
gwelliannau yn ystod cyfnod toriad y Nadolig a chytunwyd ar y trefniadau ar
gyfer cyflwyno cwestiynau ysgrifenedig y Cynulliad. |