Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Swyddfa’r Llywydd, 4ydd llawr - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Aled Elwyn Jones 

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Cyflwyniadau, ymddiheuriadau a dirprwyon

2.

Cofnodion y cyfarfod blaenorol

Cofnodion:

Cytunodd y Pwyllgor ar gofnodion y cyfarfod ar gyfer eu cyhoeddi.

 

3.

Trefn busnes

3.1

Busnes yr wythnos hon

Cofnodion:

Dydd Mawrth

 

  • Cynhelir y Cyfnod Pleidleisio cyn trafodion Cyfnod 3.
  • Bydd egwyl o 5 munud cyn dechrau trafodion Cyfnod 3.

 

 

Dydd Mercher

 

  • Bydd y bleidlais ar y ddadl ar y cyd â Senedd Ieuenctid Cymru yn digwydd yn syth ar ôl yr eitem honno, a bydd y cyfnod pleidleisio ar bob eitem arall o fusnes y Cynulliad yn digwydd cyn y Ddadl Fer.

 

3.2

Amserlen Busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor Busnes amserlen busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf.

 

3.3

Amserlen Busnes y Cynulliad ar gyfer y tair wythnos nesaf

Cofnodion:

Penderfynodd y Pwyllgor Busnes ar drefn busnes y Cynulliad a chytunodd i gynnwys yr eitemau o fusnes a ganlyn ar yr amserlen:

Dydd Mercher 3 Gorffennaf 2019 -

 

·         Dadl Fer Dawn Bowden (Merthyr Tudful a Rhymni) (30 munud) - symudwyd i 26 Mehefin

·         Dadl Fer Jack Sargeant (Alun a Glannau Dyfrdwy) (30 munud) - wedi'i gohirio o 26 Mehefin

 

Dydd Mercher 17 Gorffennaf 2019 -

 

·         Cynnig i nodi'r adroddiad blynyddol ar Gynllun Ieithoedd Swyddogol Comisiwn y Cynulliad ar gyfer 2018 - 19 (30 munud)

·         Dadl ar yr adroddiad ar y cyd rhwng y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg; y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau; a'r Pwyllgor Cyllid: Asesu effaith penderfyniadau cyllidebol (60 munud)

·         Amser a neilltuwyd i'r Ceidwadwyr Cymreig (60 munud)

 

 

 

4.2

Eitem fusnes ar y cyd â Senedd Ieuenctid Cymru - trefniadau manwl

Cofnodion:

Trafododd y Rheolwyr Busnes y papur a daethant i'r casgliad mai eu dewis oedd cael pleidlais ar y cynnig, yn hytrach nag iddo gael ei dderbyn heb bleidleisio arno. Siaradwyr y grwpiau ar gyfer yr eitem fydd Arweinwyr y Pleidiau, ac eithrio Plaid Cymru lle y bydd Rhun ap Iorwerth yn siarad. Gofynnodd y Llywydd i Reolwyr Busnes annog eu Haelodau i fod yn bresennol ar gyfer y ddadl.

 

 

3.5

Dadl ar Gynigion Deddfwriaethol Aelodau - dethol cynnig ar gyfer dadl

Cofnodion:

·         Dewisodd y Pwyllgor Busnes y cynnig a ganlyn ar gyfer dadl ar 3 Gorffennaf:

NNDM7102 Helen Mary Jones, (Canolbarth a Gorllewin Cymru)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn nodi cynnig ar gyfer Bil ar reoli'r gwasanaeth iechyd.

2. Yn nodi mai diben y Bil fyddai:

a) sefydlu corff proffesiynol i reolwyr y GIG yng Nghymru i bennu cymwyseddau proffesiynol craidd ar gyfer rheolwyr ar bob lefel, sicrhau bod rhaglenni hyfforddiant cychwynnol priodol a rhaglenni datblygiad proffesiynol parhaus yn cael eu datblygu, a gyda'r pŵer i gymryd sancsiynau yn erbyn rheolwyr am berfformiad gwael neu anniogel;

b) sicrhau gwir annibyniaeth Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru;

c) sefydlu dyletswydd gonestrwydd cyfreithiol i fod yn berthnasol i bob gweithiwr iechyd proffesiynol gan gynnwys rheolwyr; a

d) sefydlu system gwynion ddilys, gadarn a thryloyw sy'n cefnogi rhieni a theuluoedd.

Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011

Cymraeg 2050: Strategaeth ar gyfer y Gymraeg

 

 

4.

Deddfwriaeth

4.1

Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar gyfer y Bil Ardrethu Annomestig (Rhestrau)

Cofnodion:

Cytunodd y Rheolwyr Busnes i gyfeirio'r Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol at Bwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau ar gyfer craffu gan y pwyllgor, gyda dyddiad cau ar gyfer adrodd yn ôl ar 4 Gorffennaf.

 

 

4.2

Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar Fil Gemau'r Gymanwlad yn Birmingham

Cofnodion:

Cytunodd y Rheolwyr Busnes i gyfeirio'r Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol at Bwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau ar gyfer craffu gan y pwyllgor, gyda dyddiad cau ar gyfer adrodd yn ôl ar 3 Hydref.

 

 

Unrhyw Fater Arall

Yn amodol ar gadarnhad gan grŵp Ceidwadwyr Cymru ei fod yn fodlon, cytunwyd y dylid gostwng nifer aelodau'r Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol i 4 Aelod. Cytunodd y Rheolwyr Busnes i gyflwyno'r cynnig i ddileu Dawn Bowden o'r Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol cyn gynted ag y ceir cadarnhad.