Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Swyddfa’r Llywydd, 4ydd llawr - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Sian Wilkins
Rhif | Eitem |
---|---|
Cyflwyniadau, ymddiheuriadau a dirprwyon |
|
Cofnodion y cyfarfod blaenorol Cofnodion: Cytunodd y Pwyllgor ar gofnodion y cyfarfod
ar gyfer eu cyhoeddi. |
|
Trefn busnes |
|
Busnes yr wythnos hon Cofnodion: Dydd
Mawrth ·
Ychwanegodd y Llywodraeth ddatganiad gan y
Prif Weinidog at agenda'r Cyfarfod Llawn heddiw: Y datblygiadau diweddaraf yn
negodiadau Brexit Llywodraeth y DU ·
Cynhelir y Cyfnod Pleidleisio ar ôl yr eitem
olaf o fusnes. Dydd
Mercher ·
Tynnodd y Llywydd sylw'r Rheolwyr Busnes at y
ffaith bod Aelod Annibynnol wedi cyflwyno dau welliant i adroddiad y Pwyllgor
Iechyd a Gofal Cymdeithasol. Nododd y Llywydd nad oedd eto wedi penderfynu a
ddylid dewis y gwelliannau, ond nad oedd, yn hanesyddol wedi gwneud hynny. ·
Cynhelir y Cyfnod Pleidleisio cyn y Ddadl
Fer. |
|
Amserlen Busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf Cofnodion: Nododd y Pwyllgor Busnes amserlen busnes y
Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf. |
|
Amserlen Busnes y Cynulliad ar gyfer y tair wythnos nesaf Cofnodion: Cynnig i
amrywio'r drefn ystyried ar gyfer gwelliannau Cyfnod 3 y Bil Ombwdswmon
Gwasanaethau Cyhoeddus (Cymru). Dywedodd y
Llywydd wrth y Rheolwyr Busnes, bod angen i'r cynnig hwn, yn unol â Rheol
Sefydlog 26.36, gael ei gyflwyno gan y Pwyllgor Busnes ac y byddai'n cael ei
gyflwyno yn ei henw hi. Busnes
wedi'i drefnu ddydd Mercher 13 Mawrth Dywedodd y
Llywydd wrth y Rheolwyr Busnes, er bod bron i 5 awr o Fusnes y Cynulliad wedi'i
drefnu ar gyfer y diwrnod hwnnw, ei bod yn disgwyl y byddai, yn ymarferol, yn
para llai na hynny. Dadl ar
Ddeiseb P-05-849 Dylai pob dyn yng Nghymru gael mynediad drwy'r GIG at y
profion diagnostig gorau posibl ar gyfer canser y prostad Cytunodd y
Rheolwyr Busnes i gais gan y Trefnydd i symud dadl y Pwyllgor Deisebau ar
Ganser y Prostad ar 6 Mawrth i'r eitem olaf o fusnes cyn y cyfnod pleidleisio
gan fod gan y Gweinidog apwyntiad ysgol i rieni ganol y prynhawn ac yr hoffai
ddychwelyd ar gyfer y ddadl. Dywedodd y Rheolwyr Busnes, er eu bod yn fodlon
cytuno i'r cais penodol hwn, nad oeddent yn dymuno gosod cynsail ar gyfer
ceisiadau o'r math hwn yn aml. Penderfynodd
y Pwyllgor Busnes ar drefn busnes y Cynulliad a chytunodd i gynnwys yr eitemau
o fusnes a ganlyn ar yr amserlen: Dydd Mercher 13 Mawrth 2019 – ·
Datganiad
gan Gadeirydd y Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu ar effaith Brexit
ar y celfyddydau, y diwydiannau creadigol, treftadaeth a'r Gymraeg (30 munud) Dydd
Mercher 20 Mawrth 2019 – ·
Dadl: Cyfnod
4 y Bil Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus (Cymru) (15 munud) ·
Dadl ar
adroddiad Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau: Y Wybodaeth Ddiweddaraf am
y Cynllun Gweithredu ar Ffonau Symudol (60 munud) ·
Dadl ar
adroddiad y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg: Gradd ar Wahân? Effaith
Brexit ar Addysg Uwch ac Addysg Bellach (60 munud)
Yn ymwneud
â chais Cadeirydd y Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu am ddatganiad
yn y Cyfarfod Llawn, gwnaeth y Rheolwyr Busnes gais y dylid darparu rhagor o
wybodaeth am gynnwys a chyd-destun datganiadau o'r fath yn y dyfodol er mwyn
helpu i lywio penderfyniadau amserlennu. |
|
Deddfwriaeth |
|
Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol atodol diwygiedig ar y Bil Masnach Cofnodion: Memorandwm
Cydsyniad Deddfwriaethol atodol diwygiedig ar y Bil Masnach Cytunodd y
Rheolwyr Busnes i gyfeirio'r Memorandwm atodol i'r Pwyllgor Materion
Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol a'r Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth
Ychwanegol, gyda dyddiad cau ar gyfer cyflwyno adroddiad ar 11 Mawrth (y
diwrnod cyn y ddadl yn y Cyfarfod Llawn) i ganiatáu'r amser hiraf posibl ar
gyfer craffu. |
|
Pwyllgorau |
|
Cais gan y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus i gyfarfod y tu allan i'w amser cyfarfod penodedig Cofnodion: Cais gan y
Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus i gyfarfod y tu allan i'w amser cyfarfod penodedig Cytunodd y
Rheolwyr Busnes i'r cais. |
|
Cais gan y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol i gyfarfod y tu allan i'w amser cyfarfod penodedig Cofnodion: Cais gan y
Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol i gyfarfod y tu allan i'w
amser cyfarfod penodedig Cytunodd y
Rheolwyr Busnes i'r cais. |
|
Unrhyw Fater Arall Newid
aelodaeth pwyllgorau Dywedodd y
Llywydd wrth y Rheolwyr Busnes y bydd cynnig i ethol Dai Lloyd i'r Pwyllgor
Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Materion Gwledig yn lle Helen Mary Jones yn
cael ei ychwanegu at agenda'r Cyfarfod Llawn yfory. Memorandwm
Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol ar y Bil Gofal Iechyd (Trefniadau Rhyngwladol) Nododd y
Trefnydd bod y Llywodraeth yn dal i ddisgwyl y bydd amserlen dynn rhwng gosod y
Memorandwm atodol hwn a dadl yn y Cyfarfod Llawn, o ganlyniad i amserlenni
Senedd y DU. Mae
Llywodraeth Cymru yn dal i drafod gyda Llywodraeth y DU ond yn disgwyl y bydd
manylion unrhyw newidiadau ar gael i'r Aelodau cyn gynted â phosibl. Mae'r
Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi ysgrifennu at y ddau bwyllgor
a oedd yn ystyried y Memorandwm gwreiddiol (y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol
a Chwaraeon a'r Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol) gyda'r wybodaeth berthnasol
ar hyn o bryd. Marwolaeth
Paul Flynn AS Yn dilyn
ymholiad gan y Trefnydd am ffordd briodol i nodi marwolaeth Paul Flynn AS,
dywedodd y Llywydd wrth y Rheolwyr Busnes y byddai'n gwneud datganiad ar
ddechrau'r Cyfarfod Llawn heddiw. |