Cofnodion

Lleoliad arfaethedig: Swyddfa’r Llywydd, 4ydd llawr - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Aled Elwyn Jones 

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Cyflwyniadau, ymddiheuriadau a dirprwyon

2.

Cofnodion y cyfarfod blaenorol

Cofnodion:

Cytunodd y Pwyllgor ar gofnodion y cyfarfod ar gyfer eu cyhoeddi.

 

3.

Trefn busnes

3.1

Busnes yr wythnos hon

Cofnodion:

Ychwanegodd y Llywodraeth ddau ddatganiad:

 

·         Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth: Morlyn Llanw Bae Abertawe (45 munud)

·         Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth: Cyhoeddiad Diweddar Grŵp Airbus (45 munud)

Er mwyn cynnwys y datganiadau ychwanegol, bydd Datganiad Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg: Addysg Gychwynnol Athrawon (45 munud) yn cael ei gyhoeddi fel Datganiad Ysgrifenedig.

 

Penderfynodd Rheolwyr Busnes y dylai'r Cynnig Heb Ddyddiad Trafod a gyflwynwyd gan Rhun ap Iorwerth gael ei gynnwys i'w drafod yfory, yn ogystal â chynnig i atal Rheolau Sefydlog 11.16, 12.20(i) a 12.22(ii) i ganiatáu i'r ddadl ddigwydd.  Gofynnodd Paul Davies am i'w wrthwynebiad i'r ddau benderfyniad gael ei gofnodi.  Hysbysodd y Llywydd y Pwyllgor mai'r dyddiad cau ar gyfer cyflwyno gwelliannau i'r cynnig fydd 18.00 heddiw.

 

NNDM6753 Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn):

 

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

 

1. Yn datgan nad oes ganddo bellach hyder yn Ysgrifennydd Gwladol Cymru i gyflawni prosiectau seilwaith mawr, yn dilyn penderfyniad Llywodraeth San Steffan i beidio â chefnogi morlyn llanw Bae Abertawe.

 

2. Yn datgan nad oes ganddo hyder yn swydd Ysgrifennydd Gwladol Cymru ac yn credu y dylai’r swydd gael ei dileu a’i disodli gan Gyngor Gweinidogion y DU, wedi’i gyfansoddi’n briodol gyda phwerau cyfartal i wneud penderfyniadau ar y cyd.

 

Dydd Mawrth

 

·         Ni fydd Cyfnod Pleidleisio.

 

Dydd Mercher

 

 

·         Cynhelir y Cyfnod Pleidleisio cyn y Ddadl Fer.

 

3.2

Amserlen Busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor Busnes amserlen busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf.

 

3.3

Amserlen Busnes y Cynulliad ar gyfer y tair wythnos nesaf

Cofnodion:

Penderfynodd y Pwyllgor Busnes ar drefn busnes y Cynulliad a chytunodd i gynnwys yr eitemau o fusnes a ganlyn ar yr amserlen:

 

Dydd Mercher 18 Gorffennaf 2018 –

·         Cwestiynau i Gomisiwn y Cynulliad (30 munud)

·         Datganiad: Cyflwyno Bil arfaethedig Aelod - Bil Awtistiaeth (Cymru) (30 munud)

·         Datganiad gan Gadeirydd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus ar ymadawiad Archwilydd Cyffredinol Cymru (30 munud)

·         Cynnig i nodi'r adroddiad blynyddol ar y Cynllun Ieithoedd Swyddogol ar gyfer 2017 - 18 (30 munud)

·         Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau: Gwneud i'r economi weithio i'r rheiny sydd ag incwm isel (60 munud)

 

 

4.

Pwyllgorau

4.1

Aelodaeth o'r Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol

Cofnodion:

Penderfynodd Rheolwyr Busnes trwy bleidlais fwyafrif i godi aelodaeth y pwyllgor i chwe Aelod, a'i wneud yn fwy gwleidyddol gytbwys trwy ychwanegu dau Aelod Llafur i'r aelodaeth gyfredol, cyn iddi ddod yn bwyllgor sifftio o dan Fil yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael). Gofynnodd Paul Davies am i'w wrthwynebiad gael ei gofnodi. 

 

Cytunodd Rheolwyr Busnes y dylid amseru'r newid i’r aelodaeth fel y bydd yn digwydd yr un pryd â newidiadau i'r Rheolau Sefydlog ar gyfer pwyllgor sifftio.

 

5.

Y Cyfarfod Llawn

5.1

Arweinwyr Plaid yn cymryd rhan yn y balot ar gyfer cwestiynau i'r Prif Weinidog

Cofnodion:

Cefnogwyd y cynnig gan fwyafrif y Rheolwyr Busnes, ac felly dywedodd y Llywydd y bydd y canllawiau'n cael eu newid i'w gwneud yn glir nad yw Arweinwyr Plaid yn gallu ymuno â'r balot ar gyfer cwestiynau i'r Prif Weinidog.

 

6.

Amserlen y Cynulliad

6.1

Dyddiadau toriadau'r Cynulliad

Cofnodion:

Trafododd Rheolwyr Busnes gynnig y Llywydd i ychwanegu wythnos at dymor yr haf, a chytunwyd yn unfrydol i gadw at y patrwm presennol ar gyfer toriad yr haf.

 

Cadarnhaodd y Rheolwyr Busnes y dyddiadau ar gyfer toriad hanner tymor y gwanwyn a thoriad y Pasg 2019, a chytunwyd ar y dyddiadau dros dro ar gyfer hanner tymor y Sulgwyn a thoriad yr haf 2019, fel a ganlyn:

 

Toriad

Dyddiadau

Hanner Tymor yr Hydref 2018

(1 wythnos)

Dydd Llun 29 Hydref 2018 – dydd Sul 4 Tachwedd 2018

 Toriad y Nadolig 2018

(3 wythnos)

Dydd Llun 17 Rhagfyr 2018 - dydd Sul 6 Ionawr 2019

Hanner Tymor y Gwanwyn 2019 (1 wythnos)

Dydd Llun 25 Chwefror 2019 - dydd Sul 3 Mawrth 2019

 

Toriad y Pasg 2019 (3 wythnos)

Dydd Llun 8 Ebrill 2019 - dydd Sul 28 Ebrill 2019

 

*Hanner tymor y Sulgwyn 2019 (1 wythnos)

 

Dydd Llun 27 Mai 2019 – dydd Sul 2 Mehefin 2019

*Toriad yr Haf 2019 (8 wythnos)

 

Dydd Llun 22 Gorffennaf 2019 – dydd Sul 15 Medi 2019

* Dyddiadau dros dro i'w cadarnhau gan y Pwyllgor Busnes.