Cofnodion

Lleoliad arfaethedig: Swyddfa’r Llywydd, 4ydd llawr - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Aled Elwyn Jones 

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon

2.

Cofnodion y Cyfarfod Blaenorol

Cofnodion:

Cytunodd y Pwyllgor ar gofnodion y cyfarfod ar gyfer eu cyhoeddi.

 

3.

Trefn Busnes

3.1

Busnes yr wythnos hon

Cofnodion:

Trafododd Rheolwyr Busnes welliant Letwin ar ddiogelu'r amgylchedd i Fil yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael), sydd ar ei daith drwy Senedd y DU ar hyn o bryd, gan ofyn a oedd angen cynnig cydsyniad deddfwriaethol atodol. Cytunodd y Rheolwyr Busnes na fyddai cynnig cydsyniad deddfwriaethol atodol yn cael unrhyw effaith ymarferol ar daith y Bil ar hyn o bryd, gan fod y gwelliant bellach wedi'i gadarnhau, i bob pwrpas. Mae Llywodraeth y DU wedi rhoi sicrwydd ar gofnod yn Senedd y DU y bydd y gwelliant ond yn berthnasol i Loegr a materion a gedwir yn ôl, er ei fod wedi'i ddrafftio mewn modd sydd ychydig yn aneglur.

 

Gofynnodd y Rheolwyr Busnes am bapur briffio ar effeithiau'r gwelliant.

 

Dydd Mawrth

 

·         Cynhelir y Cyfnod Pleidleisio fel yr eitem olaf o fusnes.

 

Dydd Mercher

 

 

·         Cynhelir y Cyfnod Pleidleisio cyn y Ddadl Fer.

 

3.2

Busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor Busnes amserlen busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf.

 

3.3

Amserlen busnes y Cynulliad ar gyfer y tair wythnos nesaf

Cofnodion:

Penderfynodd y Pwyllgor Busnes ar drefn busnes y Cynulliad a chytunodd i gynnwys yr eitemau o fusnes a ganlyn ar yr amserlen:

 

Dydd Mercher 4 Gorffennaf 2018 –

·         Dadl ar adroddiad Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau: Ardaloedd Menter: Mynd Ymhell? (60 munud) – gohiriwyd tan 11 Gorffennaf

·         Amser a neilltuwyd i Blaid Annibyniaeth y Deyrnas Unedig (60 munud)

 

Dydd Mercher 11 Gorffennaf 2018 –

·         Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus ar gyllid cychwynnol Llywodraeth Cymru ar gyfer prosiect Cylchffordd Cymru (60 munud)

·         Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon: Y defnydd o feddyginiaeth wrthseicotig mewn cartrefi gofal (60 munud)

·         Dadl ar adroddiad Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau: Ardaloedd Menter: Mynd Ymhell? (60 munud) – gohiriwyd ers 11 Gorffennaf

 

5.2

Dadl ar Gynigion Deddfwriaethol Aelodau.

Cofnodion:

·         Cytunodd y Rheolwr Busnes i gynnal dadl ar y cynnig a ganlyn ar 27 Mehefin 2018

NNDM6671 Mick Antoniw (Pontypridd)

 

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

 

1. Yn nodi cynnig ar gyfer Bil i:

 

a) rhoi terfyn ar adeiladu tai lesddaliad preswyl yng Nghymru; a

 

b) gwella ymwybyddiaeth defnyddwyr o oblygiadau ddeiliadaeth lesddaliad.

 

2. Yn nodi mai diben y Bil fyddai:

 

a) gosod dyletswydd ar awdurdodau lleol yng Nghymru i wrthod pob cais cynllunio ar gyfer datblygiadau tai lesddaliad preswyl; a

 

b) gosod dyletswydd ar asiantwyr gwerthu a rheoli i ddarparu gwybodaeth am oblygiadau cytundebau lesddaliad i ddarpar brynwyr eiddo lesddaliad sy'n bodoli eisoes.

 

4.

Cyfarfod Llawn

4.1

Arweinwyr Plaid yn cymryd rhan yn y balot ar gyfer cwestiynau i'r Prif Weinidog

Cofnodion:

Trafododd y Rheolwyr Busnes y papur, gan gytuno i ddychwelyd at y mater yng nghyfarfod yr wythnos nesaf.

 

5.

Rheolau Sefydlog

5.1

Deddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) – Swyddog Cyfrifyddu, Archwilydd Cyffredinol Cymru

Cofnodion:

Cytunodd y Rheolwyr Busnes mewn egwyddor i'r newid i Reol Sefydlog a nodwyd yn y papur.