Cofnodion

Lleoliad arfaethedig: Swyddfa’r Llywydd, 4ydd llawr - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Aled Elwyn Jones 

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon

Cofnodion:

Cafwyd ymddiheuriadau gan y Dirprwy Lywydd.

 

2.

Cofnodion y Cyfarfod Blaenorol

Cofnodion:

Cytunodd y Pwyllgor ar y cofnodion ar gyfer eu cyhoeddi.

 

3.

Trefn Busnes

3.1

Busnes yr wythnos hon

Cofnodion:

Busnes yr wythnos hon

 

O ran cynnig y Ceidwadwyr Cymreig ar gyfer dadl ddydd Mercher ar ‘adroddiad ymchwiliad yr Ysgrifennydd Parhaol’, darllenodd Arweinydd y Tŷ y datganiad a ganlyn:

 

Rydym yn ceisio datrys mater cyfansoddiadol ynghylch cwmpas y pŵer a nodir yn adran 37 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006.  Mae hwn yn darparu i'r Cynulliad y pŵer i orfodi tystion a thystiolaeth mewn perthynas â gwahanol faterion sy'n berthnasol i swyddogaethau Gweinidogion Cymru. O ystyried y safbwyntiau gwahanol a fabwysiadwyd gan Gomisiwn y Cynulliad a Llywodraeth Cymru, rhaid i'r Prif Weinidog weithredu i egluro'r gyfraith yn y maes hwn.

 

Mae Llywodraeth Cymru yn gwrthwynebu cynnig y Blaid Geidwadol am y rhesymau canlynol:

 

(a)      Yn gyntaf, oherwydd bod y cynnig y tu hwnt i gwmpas pwerau'r Cynulliad o dan adran 37 ac, yn yr un modd, ultra vires fyddai unrhyw hysbysiad dilynol o dan adran 38.  Mae hyn oherwydd nad yw adran 37 ond yn cwmpasu materion sy'n berthnasol i arfer swyddogaethau Gweinidogion Cymru, yn wahanol i swyddogaethau sy'n arferadwy gan y Prif Weinidog yn unig.  Mae mwyafrif helaeth o'r swyddogaethau sy'n berthnasol i'r ffordd y mae Llywodraeth ddatganoledig yng Nghymru yn gweithredu yn arferadwy gan y Prif Weinidog a chan Weinidogion Cymru ar y cyd. Fodd bynnag, comisiynwyd yr adroddiad ar y datgelu a'i gynnal yn unol â swyddogaethau sy'n arferadwy gan y Prif Weinidog yn unig.

(b)      Yn ail, mae'r cynnig yn codi amheuaeth ynghylch cynnal busnes y Cynulliad yn briodol.  Mae'n arfer hir sefydlog gan bob Llywodraeth yn y DU beidio â datguddio adroddiadau ymchwiliad i achosion o ddatgelu, a hynny oherwydd y risg o wneud niwed i ymddygiad a chyfrinachedd ymchwiliadau yn y dyfodol.  Fel yr eglurwyd yn llythyr yr Ysgrifennydd Parhaol dyddiedig 16 Mawrth 2018, mae fframwaith safonol ar gyfer ymchwiliadau i achosion o ddatgelu.  Y perygl yw y byddai darparu manylion penodol am y fframwaith yn tanseilio effeithiolrwydd ymchwiliadau yn y dyfodol.  Hefyd, mae risg glir na fyddai unigolion yn barod i gynnig gwybodaeth o'u gwirfodd na chydweithio gydag ymchwiliadau yn y dyfodol pe bai'n rhaid rhannu adroddiadau ar achosion o ddatgelu â'r Cynulliad.

(c)      O ystyried yr ymchwiliadau cyfredol sy'n ymdrin â gwybodaeth sensitif a chyfrinachol, mae'n hanfodol ein bod yn ceisio sicrhau eglurder ynghylch cwmpas y ddarpariaeth hon ar hyn o bryd.

 

Ni fyddai'n briodol i'r cynnig uchod fynd rhagddo cyn i'r cwestiwn cyfreithiol a chyfansoddiadol pwysig hwn gael ei ddatrys. 

 

Dywedodd y Llywydd i'r llythyr ddod i'w llaw neithiwr, ei bod yn gofyn cyngor, ac y bydd yn ymateb maes o law. Efallai y bydd angen i'r Pwyllgor Busnes ailymgynnull rywbryd.  Dywedodd y Llywydd wrth y Rheolwyr Busnes nad oedd modd iddi rannu'r llythyr â hwy am ei fod wedi'i nodi'n 'gyfrinachol'.

 

Dywedodd Paul Davies ei fod o'r farn bod cynnig y Ceidwadwyr ar "Adroddiad Ymchwiliad yr Ysgrifennydd Parhaol" mewn trefn, yn seiliedig ar y cyngor cyfreithiol a gafodd y grŵp a oedd, yn ei farn ef, yn gywir.

 

Dydd Mawrth

 

·         Caiff y Cyfnod Pleidleisio ei gynnal ar ôl yr eitem olaf o fusnes.

 

Dydd Mercher

 

·         Caiff y Cyfnod Pleidleisio ei gynnal cyn y Ddadl Fer.

 

 

3.2

Busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor Busnes amserlen busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf.

 

3.3

Amserlen busnes y Cynulliad ar gyfer y tair wythnos nesaf

Cofnodion:

Penderfynodd y Pwyllgor Busnes ar drefn busnes y Cynulliad a chytunodd i gynnwys yr eitemau o fusnes a ganlyn ar yr amserlen:

 

Dydd Mercher 25 Ebrill 2018 –

·         Datganiad gan Gadeirydd y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol: Bil yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) - penderfyniad y Cynulliad Cenedlaethol mewn perthynas â gweithdrefnau is-ddeddfwriaeth (30 munud)

·         Amser a neilltuwyd i Blaid Cymru (60 munud) – gohiriwyd tan 2 Mai

 

Dydd Mercher 2 Mai 2018 -

·         Amser a neilltuwyd i Blaid Cymru (60 munud)

·         Dadl Fer - Rhianon Passmore (Islwyn) (30 munud) - gohiriwyd o 21 Mawrth

·         Dadl Fer - Nick Ramsay (Mynwy) - gohiriwyd i 23 Mai

 

Dydd Mercher 9 Mai 2018 -

·         Dadl ar adroddiad Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau: Prentisiaethau yng Nghymru (60 munud)

·         Amser a neilltuwyd i’r Ceidwadwyr Cymreig (60 munud)

·         Amser a neilltuwyd i Blaid Cymru (60 munud)

 

4.

Cyfarfod Llawn

4.1

Cais i amserlennu Cynnig Heb Ddyddiad Trafod ar gyfer dadl

Cofnodion:

Cytunodd Rheolwyr Busnes i beidio ag amserlennu'r cynnig ar gyfer dadl, gan eu bod o'r farn iddo gael ei ddisodli gan gynnig y Ceidwadwyr Cymru a drefnwyd ar gyfer dydd Mercher.  Nododd Arweinydd y Tŷ fod gan Lywodraeth Cymru yr un anawsterau â'r cynnig hwn â'r rhai a nodwyd ganddi ynghylch cynnig y Ceidwadwyr Cymreig ar gyfer dydd Mercher.

 

5.

Deddfwriaeth

5.1

Llythyr gan y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol: Bil Deddfwriaeth (Cymru) Drafft

Cofnodion:

Nododd y Rheolwyr Busnes y llythyr.

 

5.2

Llythyr gan y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg: Bil Cyllido Gofal Plant (Cymru)

Cofnodion:

Cadarnhaodd y Rheolwyr Busnes eu penderfyniad, mewn egwyddor, ar 13 Mawrth i gyfeirio'r Bil Cyllido Gofal Plant (Cymru) at y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg ar gyfer ei ystyried yng Nghyfnod 1, a chytunwyd mai'r dyddiad terfyn i'r Pwyllgor adrodd ar y Bil yng Nghyfnod 1 fyddai 6 Gorffennaf 2018, a'r dyddiad terfyn ar gyfer cwblhau trafodion y Pwyllgor yng Nghyfnod 2 fyddai 12 Hydref 2018.

 

5.3

Atodiad i bapur 6, papur Llywodraeth: Bil Cyllido Gofal Plant (Cymru)

6.

Rheolau Sefydlog

6.1

Llythyrau gan y Pwyllgor Cyllid a chan y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol: Gorchmynion yn y Cyfrin Gyngor o dan Adran 116C

Cofnodion:

Dywedodd Arweinydd y Tŷ nad oedd y Llywodraeth am gael Rheol Sefydlog annibynnol ac y dylid cynnwys y darpariaethau yn Rheol Sefydlog 27.  Dywedodd Paul Davies ei fod yn credu y byddai Gorchymyn Sefydlog annibynnol yn briodol, fel yr argymhellwyd gan y pwyllgorau. 

 

Cadarnhaodd yr Ysgrifenyddiaeth y byddant yn dod â phapur i gyfarfod yn y dyfodol yn cynnwys y ddwy opsiwn.

 

6.2

Llythyr gan y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol: Gorchmynion yn y Cyfrin Gyngor o dan Adran 116C

6.3

Atodiad i bapurau 8 a 9, papur ar Ddiwygio Rheolau Sefydlog o dan Adran 116C

7.

Pwyllgorau

7.1

Cais gan y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol i ymestyn amser ei gyfarfod

Cofnodion:

Nododd y Rheolwyr Busnes y materion a godwyd a chytuno i ysgrifennu at y Pwyllgor yn ei hysbysu y byddai ceisiadau i gwrdd y tu hwnt i'w amser yn cael eu hystyried fesul achos.