Cofnodion
Lleoliad arfaethedig: Swyddfa’r Llywydd, 4ydd llawr - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Aled Elwyn Jones
Rhif | Eitem |
---|---|
Cyflwyniadau, ymddiheuriadau a dirprwyon |
|
Cofnodion o'r cyfarfod blaenorol Cofnodion: Cytunodd y Pwyllgor ar gofnodion y cyfarfod ar gyfer eu cyhoeddi. |
|
Trefn busnes |
|
Busnes yr wythnos hon Cofnodion: Dydd Mawrth ·
Ychwanegodd y
Llywodraeth ddatganiad at agenda Cyfarfod Llawn dydd Mawrth: Datganiad gan
Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg: Diogelu'r Hawl i Addysg Addas i bob Plentyn
(45 munud) ·
Cynhelir y
Cyfnod Pleidleisio ar ôl yr eitem olaf o fusnes. Dydd Mercher ·
Cynhelir y
Cyfnod Pleidleisio cyn y Ddadl Fer. |
|
Amserlen Busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf Cofnodion: Nododd y
Pwyllgor Busnes amserlen busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf. Cododd Rhun ap
Iorwerth y ffaith bod y Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a
Gwasanaethau Cymdeithasol ar Bwysau'r Gaeaf (45 munud) wedi cael ei ychwanegu
at agenda'r Cyfarfod Llawn ar gyfer dydd Mawrth 13 Chwefror. Teimlai y dylai'r pwnc fod yn destun dadl yn
hytrach na datganiad, er mwyn i wrthbleidiau allu cyflwyno gwelliannau. Dywedodd Arweinydd y Tŷ y byddai'n
rhoi'r adborth i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau
Cymdeithasol, ond nododd iddi addo datganiad ar y mater yn ystod cwestiynau'r
wythnos ddiwethaf ynghylch y Datganiad a Chyhoeddiad Busnes. |
|
Amserlen Busnes y Cynulliad ar gyfer y tair wythnos nesaf Cofnodion: Penderfynodd y Pwyllgor Busnes ar drefn busnes y Cynulliad a chytunodd i
gynnwys yr eitemau o fusnes a ganlyn ar yr amserlen: Dydd Mercher
28 Chwefror 2018 ·
Cwestiynau i
Gomisiwn y Cynulliad (30 munud) ·
Amser a neilltuwyd
i'r Ceidwadwyr Cymreig (60 munud) ·
Amser a
neilltuwyd i Blaid Cymru (60 munud) ·
Amser a
neilltuwyd i Blaid Cymru (60 munud) |
|
Pwyllgorau |
|
Cais am Ddadl Pwyllgor Cofnodion: Cytunodd y Rheolwyr Busnes i gais ar
gyfer Dadl ar y ddeiseb yn galw ar Lywodraeth Cymru i wahardd yr arfer o
ddefnyddio anifeiliaid gwyllt mewn syrcasau yng Nghymru, a gafodd 6,398 o
lofnodion. |
|
Y Pwyllgor Busnes |
|
Cwestiynau Llafar y Cynulliad Cofnodion: Cytunodd y Rheolwyr Busnes i drafod y meysydd arfaethedig i'w diwygio
gyda'u grwpiau. O ran y cynnig am adolygiad ehangach o'r Rheolau Sefydlog, gofynnodd y
Llywydd i'r Rheolwyr Busnes barhau i drafod y tu allan i'r pwyllgor. |
|
Deddfwriaeth |
|
Papur i'w nodi - Amserlen ddiwygiedig ar gyfer ystyried Bil Iechyd y Cyhoedd (Isafbris am Alcohol) (Cymru) Cofnodion: Nododd y Rheolwyr Busnes y papur. |
|
Unrhyw fater arall Cytunodd y Rheolwyr Busnes i ddychwelyd at y mater o ddefnyddio fformiwla
d'Hondt ar gyfer aelodaeth pwyllgorau yn ogystal â datganiadau/dadleuon ar
Raglen Ddeddfwriaethol Llywodraeth Cymru mewn pythefnos fel materion Rheolau
Sefydlog sydd angen eu datrys yn y tymor byr. Soniodd Arweinydd y Tŷ wrth y Rheolwyr Busnes yn dilyn ad-drefnu'r
Cabinet yn ddiweddar fod ambell fater o orgyffwrdd neu anghysondeb rhwng
portffolios y Gweinidogion a chylch gwaith y Pwyllgorau, fel y dangoswyd wrth
graffu ar y gyllideb. Gofynnodd y Llywydd i'r ysgrifenyddiaeth archwilio unrhyw
feysydd amlwg y gellid eu halinio'n hawdd, cyn cynnal trafodaeth yn Fforwm y
Cadeiryddion o bosibl ar 7 Chwefror. |