Cofnodion

Lleoliad arfaethedig: Swyddfa’r Llywydd, 4ydd llawr - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Aled Elwyn Jones 

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Cyflwyniadau, ymddiheuriadau a dirprwyon

2.

Cofnodion o'r cyfarfod blaenorol

Cofnodion:

Cytunodd y Pwyllgor ar gofnodion y cyfarfod ar gyfer eu cyhoeddi.

 

3.

Trefn busnes

3.1

Busnes yr wythnos hon

Cofnodion:

Dydd Mawrth

 

·         Cynhelir y Cyfnod Pleidleisio ar ôl yr eitem olaf o fusnes.

 

Dydd Mercher

 

·         Cynhelir y Cyfnod Pleidleisio cyn y Ddadl Fer.

 

3.2

Amserlen Busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor Busnes amserlen busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf.

 

3.3

Amserlen Busnes y Cynulliad ar gyfer y tair wythnos nesaf

Cofnodion:

Penderfynodd y Pwyllgor Busnes ar drefn busnes y Cynulliad a chytunodd i gynnwys yr eitemau o fusnes a ganlyn ar yr amserlen:

 

Dydd Mercher 7 Chwefror 2018

·         Dadl ar Gynnig Deddfwriaethol gan Aelod (30 munud)

·         Amser a neilltuwyd i Blaid Cymru (60 munud)

·         Amser a neilltuwyd i Blaid Annibyniaeth y Deyrnas Unedig (60 munud)

 

4.

Rheolau Sefydlog

4.1

Adran 116C - Pŵer i ychwanegu trethi datganoledig newydd

Cofnodion:

Cytunodd y Rheolwyr Busnes i ohirio trafodaethau ar y papur tra bod Llywodraeth Cymru yn parhau â'i thrafodaethau gyda Thrysorlys y DU.  Cytunodd Arweinydd y Tŷ y byddai Llywodraeth Cymru yn sicrhau bod digon o amser i ymgynghori â'r Pwyllgor Cyllid a'r Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol cyn dod i benderfyniad ar y weithdrefn.

 

5.

Y Pwyllgor Busnes

5.1

Adolygiad o Gwestiynau Llafar y Cynulliad - ymateb gan y Grŵp Llafur

Cofnodion:

Trafododd y Rheolwyr Busnes y papur a gofynnwyd i'r Ysgrifenyddiaeth lunio nodyn o drafodaethau a meysydd posibl i gytuno arnynt erbyn yr wythnos nesaf. 

Cytunodd y Rheolwyr Busnes i drafod adolygiad ehangach gyda'u grwpiau.

 

5.2

Papur i'w nodi - Cwestiynau Llafar y Cynulliad

Cofnodion:

Nododd y Rheolwyr Busnes y papur, yng nghyd-destun trafodaethau ar eitem 5.1.

 

Unrhyw fater arall

Mandy Jones

Cytunodd y Rheolwyr Busnes y byddai Mandy Jones yn cael cynnig lle ar y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol, a bod cynnig i'r perwyl hwnnw yn cael ei ychwanegu at agenda'r Cyfarfod Llawn ddydd Mercher.