Cofnodion

Lleoliad arfaethedig: Swyddfa’r Llywydd, 4ydd llawr - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Aled Elwyn JOnes 

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Cyflwyniadau, ymddiheuriadau a dirprwyon

2.

Cofnodion y cyfarfod blaenorol

Cofnodion:

Cytunodd y Pwyllgor ar y cofnodion ar gyfer eu cyhoeddi.

 

3.

Trefn busnes

3.1

Busnes yr wythnos hon

Cofnodion:

Dydd Mawrth

·         Caiff y Cyfnod Pleidleisio ei gynnal ar ôl yr eitem olaf o fusnes.

 

·         Ychwanegodd y Llywodraeth ddau ddatganiad at agenda dydd Mawrth:

-     Datganiad gan Gweinidog Plant a Gofal Cymdeithasol: Ymgynghoriad ar ddeddfwriaeth i ddileu'r amddiffyniad o gosb resymol (45 munud)

-     Datganiad gan y Cwnsler Cyffredinol: Cod Erlyn Llywodraeth Cymru (45 munud)

Dydd Mercher

 

·         Caiff y Cyfnod Pleidleisio ei gynnal cyn y Ddadl Fer.

 

 

 

3.2

Amserlen Busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor Busnes amserlen busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf.

 

3.3

Amserlen Busnes y Cynulliad ar gyfer y tair wythnos nesaf

Cofnodion:

Penderfynodd y Pwyllgor Busnes ar drefn busnes y Cynulliad a chytunodd i gynnwys yr eitemau o fusnes a ganlyn ar yr amserlen:

 

Dydd Mercher 31 Ionawr 2018 -

·         Dadl gan Aelod o dan Reol Sefydlog 11.21(iv) (60 munud)

·         Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Deisebau ar Fynediad at Drafnidiaeth Gyhoeddus ar gyfer Pobl Anabl (60 munud)

·         Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg ar ei adroddiad ar Iechyd Meddwl Amenedigol yng Nghymru (60 munud)

 

Unrhyw fater arall

Dywedodd y Llywydd wrth y Rheolwyr Busnes y byddai'n croesawu Mandy Jones, yr Aelod Cynulliad newydd ar gyfer Gogledd Cymru, ar ddechrau Cyfarfod Llawn dydd Mawrth.

 

Cytunodd y Rheolwyr Busnes i ystyried yn y cyfarfod nesaf y cwestiwn ynghylch aelodaeth y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol yn dilyn ymddiswyddiad Nathan Gill.