Cofnodion

Lleoliad arfaethedig: Swyddfa’r Llywydd, 4ydd llawr - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Aled Elwyn Jones 

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Cyflwyniadau, ymddiheuriadau a dirprwyon

Cofnodion:

Anfonodd Rhun ap Iorwerth ei ymddiheuriadau.

 

2.

Cofnodion y cyfarfod blaenorol

Cofnodion:

Cytunwyd ar y cofnodion ar gyfer y cyfarfod gan y Pwyllgor i'w cyhoeddi.

 

3.

Trefn Busnes

3.1

Busnes yr wythnos hon

Cofnodion:

Dydd Mawrth

 

·         Bydd y Cyfnod Pleidleisio ar ôl yr eitem olaf o fusnes.

 

·         Ychwanegodd y Llywodraeth ddatganiad at agenda Cyfarfod Llawn Dydd Mawrth: Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith: Y Cynllun Gweithredu Economaidd (45 munud)

 

Dydd Mercher

 

·         Bydd y Cyfnod Pleidleisio cyn y Ddadl Fer.

 

3.2

Amserlen Busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor Busnes Amserlen Busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf.

 

3.3

Amserlen Busnes y Cynulliad ar gyfer y tair wythnos nesaf

Cofnodion:

Penderfynodd y Pwyllgor Busnes ar drefn busnes y Cynulliad a chytunodd i aildrefnu'r eitemau a ganlyn:

 

Dydd Mercher 24 Ionawr 2018 -

·         Cwestiynau i Gomisiwn y Cynulliad (30 munud)

·         Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Cyllid: Ymchwiliad i'r amcangyfrifon ariannol sy'n cyd-fynd â deddfwriaeth:

·         Dadl ar adroddiad Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau: Bargeinion Dinesig ac Economïau Rhanbarthol Cymru (munud)

·         Amser a neilltuwyd i'r Ceidwadwyr Cymreig (60 munud)

 

4.

Deddfwriaeth

4.1

Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol: Bil Ymosodiadau ar Weithwyr Argyfwng (Troseddau)

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor Busnes bapur gan y llywodraeth ynghylch Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol mewn perthynas â'r Bil Ymosodiadau ar Weithwyr Argyfwng (Troseddau).

 

Cytunodd y Rheolwyr Busnes i gyfeirio'r Memorandwm at Bwyllgorau IGCCh a CLlLCh er mwyn iddynt graffu arno. Cytunodd Rheolwyr Busnes hefyd y dylai'r Pwyllgorau adrodd ar y Memorandwm erbyn 22 Chwefror, a nododd y byddai'r Memorandwm yn cael ei drafod yn y Cyfarfod Llawn ar 27 Chwefror 2018.

 

4.2

Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol: Bil Masnach

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor Busnes bapur gan y llywodraeth ynghylch Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol mewn perthynas â'r Bil Masnach.

 

Cytunodd y Rheolwyr Busnes i gyfeirio'r Memorandwm at Bwyllgorau MADY, ESS a MCD er mwyn iddynt graffu arno. Cytunodd y Pwyllgor Busnes y dylai'r Pwyllgor gyflwyno adroddiad ar y Memorandwm erbyn 27 Chwefror 2017.

 

4.3

Llythyr oddi wrth CLlLCh: Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Arweiniad a Hawliadau Ariannol

Cofnodion:

Cytunodd y Rheolwyr Busnes i gyfeirio'r Memorandwm atodol at y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol er mwyn iddo graffu arno. Cytunodd y Pwyllgor Busnes hefyd y dylai'r Pwyllgor gyflwyno adroddiad ar y Memorandwm erbyn 8 Chwefror.

 

4.4

Llythyr oddi wrth MCD: Bil yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol

Cofnodion:

Nododd Rheolwyr Busnes y llythyr.

 

4.5

Llythyr oddi wrth MADY: Bil yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol

Cofnodion:

Nododd Rheolwyr Busnes y llythyr.

 

 

5.

Y Cyfarfod Llawn

5.1

Rhaglen ddeddfwriaethol Llywodraeth Cymru

Cofnodion:

Cytunodd y Rheolwyr Busnes i ddychwelyd at y mater yn y Flwyddyn Newydd.

 

6.

Pwyllgorau

6.1

Adran 28 ac Adran 29 y Ddeddf a d'Hondt

Cofnodion:

Cytunodd y Rheolwyr Busnes i ddychwelyd at y mater yn y Flwyddyn Newydd.

 

7.

Rheolau Sefydlog

7.1

Papur i'w nodi - Llythyr gan y Pwyllgor Cyllid Cyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru 2018-19 - Pwerau Codi Trethi Newydd

Cofnodion:

Nododd Rheolwyr Busnes y llythyr, a chytunwyd mewn egwyddor i ymgynghori â'r Pwyllgor Cyllid am unrhyw waith y mae'n ei wneud ar y mater hwn yn y Flwyddyn Newydd.