Cofnodion
Lleoliad arfaethedig: Swyddfa’r Llywydd, 4ydd llawr - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Aled Elwyn Jones
Rhif | Eitem |
---|---|
Cyflwyniadau, ymddiheuriadau a dirprwyon |
|
Cofnodion y cyfarfod blaenorol Cofnodion: Cytunodd y Pwyllgor ar y cofnodion ar gyfer eu cyhoeddi. |
|
Trefn busnes |
|
Busnes yr wythnos hon Cofnodion: Dydd Mawrth ·
Byddai'r Cyfnod
Pleidleisio ar ôl yr eitem olaf o fusnes.
Dydd Mercher ·
Cytunodd y Rheolwyr
Busnes y byddai'r cyfnod pleidleisio yn cael ei gynnal cyn y Ddadl Fer. |
|
Amserlen Busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf Cofnodion: Nododd y Pwyllgor Busnes amserlen busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair
wythnos nesaf. |
|
Amserlen Busnes y Cynulliad ar gyfer y tair wythnos nesaf Cofnodion: Penderfynodd y Pwyllgor Busnes ar drefn busnes y Cynulliad a chytunodd i
gynnwys yr eitemau o fusnes a ganlyn ar yr amserlen: Dydd Mercher 8 Tachwedd
2017 - ·
Dadl Fer - Dydd Mercher 22 Tachwedd
2017 – ·
Dadl gan Aelodau Unigol
o dan Reol Sefydlog 11.21(iv) (60 munud) ·
Amser a neilltuwyd i'r
Ceidwadwyr Cymreig (60 munud) ·
Amser a neilltuwyd i
Blaid Cymru (60 munud) |
|
Rheolau Sefydlog |
|
Cynigion i ddiwygio Rheolau Sefydlog 26, 26A a 26B - Deddf Cymru 2017 ac Asesiadau o'r Effaith ar Gyfiawnder Cofnodion: Nododd
y Rheolwyr Busnes y gofyniad statudol newydd a fydd yn Adran 110A o Ddeddf
Cymru o'r Prif Ddiwrnod Penodedig ar 1 Ebrill 2018, a'r angen am newidiadau i'r
Rheolau Sefydlog i adlewyrchu hyn.
Cytunodd y Rheolwyr Busnes mewn egwyddor â'r cynigion ar gyfer
newidiadau i'r Rheolau Sefydlog i fodloni'r gofyniad newydd hwn, a chytunwyd i
ddychwelyd at y mater ym mis Mawrth 2018. |
|
Y Pwyllgor Busnes |
|
Cwestiynau Llafar y Cynulliad Cofnodion: Trafododd y Rheolwyr Busnes y papur
a chytunwyd i ddychwelyd ato yn eu cyfarfod ar 14 Tachwedd. |
|
Pwyllgorau |
|
Cais gan y Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu i gynnal ymweliad ar gyfer Senedd@Delyn Cofnodion: Cytunodd y Rheolwyr Busnes ar gais gan y Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a
Chyfathrebu i Aelodau'r Pwyllgor gael eu hesgusodi o'r Cyfarfod Llawn am 15.30
ddydd Mercher 15 Tachwedd 2017 i deithio i'r Wyddgrug er mwyn cynnal
cyfarfodydd yno y diwrnod canlynol. |