Cofnodion
Lleoliad arfaethedig: Swyddfa’r Llywydd, 4ydd llawr - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Aled Elwyn Jones
Rhif | Eitem |
---|---|
Cyflwyniadau, ymddiheuriadau a dirprwyon Cofnodion: Cafwyd ymddiheuriadau
gan y Dirprwy Lywydd. |
|
Cofnodion y cyfarfod blaenorol Cofnodion: Cytunodd y Pwyllgor ar y cofnodion ar gyfer eu cyhoeddi. |
|
Trefn busnes |
|
Busnes yr wythnos hon Cofnodion: Dydd Mawrth ·
Byddai'r Cyfnod
Pleidleisio ar ôl yr eitem olaf o fusnes.
Dydd Mercher ·
Cytunodd y Rheolwyr
Busnes y byddai'r cyfnod pleidleisio yn cael ei gynnal cyn y Ddadl Fer. |
|
Amserlen Busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf Cofnodion: Nododd y Pwyllgor Busnes amserlen busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair
wythnos nesaf. |
|
Amserlen Busnes y Cynulliad ar gyfer y tair wythnos nesaf Cofnodion: Penderfynodd y Pwyllgor
Busnes ar drefn busnes y Cynulliad a chytunodd i gynnwys yr eitemau o fusnes a
ganlyn ar yr amserlen: Dydd Mercher 15 Tachwedd
2017 – ·
Dadl ar adroddiad
Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau: Seilwaith Digidol yng Nghymru (60
munud) ·
Amser a neilltuwyd i'r
Ceidwadwyr Cymreig (60 munud) ·
Amser a neilltuwyd i
Blaid Annibyniaeth y Deyrnas Unedig (60 munud) |
|
Dadl ar Gynnig Deddfwriaethol Aelod - Dewis cynnig ar gyfer y ddadl Cofnodion: ·
Dewisodd y Pwyllgor
Busnes gynnig ar gyfer dadl ar 25 Hydref: NNDM6350 Simon Thomas (Canolbarth a Gorllewin Cymru) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol
Cymru: 1. Yn nodi cynnig ar gyfer bil a
fyddai’n addasu’r broses gynllunio fel bod rhagdybiaeth yn erbyn hollti
hydrolig (ffracio). 2. Yn nodi mai diben y bil hwn fyddai amddiffyn tirwedd Cymru ac iechyd y
cyhoedd. ·
Cytunodd y Rheolwyr
Busnes i drefnu'r ddadl nesaf ar Gynnig Deddfwriaethol Aelod ar ôl hanner
tymor. |
|
Deddfwriaeth |
|
Llythyr gan y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol - amserlen ar gyfer ystyried y Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar Fil yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2017 Cofnodion: Mewn ymateb i gais gan y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol
i ymestyn y dyddiad cau i'r pwyllgor adrodd ar y Cynnig Cydsyniad
Deddfwriaethol ar gyfer Bil yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael), cytunodd y Rheolwyr
Busnes ar ddyddiad cau newydd, sef 23 Tachwedd 2017. Bydd y dyddiad cau
estynedig hefyd yn berthnasol i'r Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth
Ychwanegol, gan fod y Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol wedi cael ei gyfeirio at
y ddau ohonynt. |
|
Papur i'w nodi - adroddiad y Pwyllgor Busnes ar yr amserlen ar gyfer trafod y Bil Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig (Cymru) Cofnodion: Nododd y Pwyllgor Busnes yr amserlen ar gyfer trafod y Bil Landlordiaid
Cymdeithasol Cofrestredig (Cymru) fel y cytunwyd yng nghyfarfod yr wythnos
diwethaf. Mae'n cynnwys wythnos ychwanegol ar gyfer gwaith craffu Cyfnod 1, a
slot ychwanegol i'r pwyllgor gwrdd ar fore Mawrth; mae'r ddau ar gais y
Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol. |
|
Pwyllgorau |
|
Adroddiad ar ystyriaeth y Pwyllgor Busnes o'r effaith ar aelodaeth pwyllgorau a dyraniad cadeiryddion wrth i Aelod adael grŵp gwleidyddol Cofnodion: Cytunodd Rheolwyr Busnes
ar yr adroddiad, a fydd yn cael ei osod yn y Swyddfa Gyflwyno. Bydd cynigion yn
cael eu cyflwyno a'u hychwanegu at agenda'r Cyfarfod Llawn yfory i ddod â
phenderfyniadau'r Pwyllgor Busnes i rym ynghylch aelodaeth pwyllgorau, yn
amodol ar Blaid Cymru yn cyflwyno enwau Aelodau i lenwi'r lleoedd gwag ar y
Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a'r Pwyllgor Deisebau, a Neil McEvoy yn nodi ei fod
yn dymuno cymryd y cynnig o le ar y Pwyllgor Deisebau. Bydd y cynigion yn cael
eu grwpio i'w trafod ond gyda phleidleisiau ar wahân, a bydd angen i bob un
ohonynt gael eu pasio gan fwyafrif o ddwy ran o dair. |