Cofnodion
Lleoliad arfaethedig: Swyddfa’r Llywydd, 4ydd llawr - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Aled Elwyn Jones
Rhif | Eitem |
---|---|
Cyflwyniadau, ymddiheuriadau a dirprwyon |
|
Cofnodion y cyfarfod blaenorol Cofnodion: Cytunodd y Pwyllgor ar y cofnodion ar gyfer eu cyhoeddi. |
|
Trefn busnes |
|
Busnes yr wythnos hon Cofnodion: Dydd Mawrth ·
Byddai'r Cyfnod
Pleidleisio ar ôl yr eitem olaf o fusnes.
Dydd Mercher ·
Cytunodd y Rheolwyr
Busnes y byddai'r Cyfnod Pleidleisio yn cael ei gynnal cyn y Ddadl Fer. |
|
Amserlen Busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf Cofnodion: Nododd y Pwyllgor Busnes amserlen busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair
wythnos nesaf. |
|
Amserlen Busnes y Cynulliad ar gyfer y tair wythnos nesaf Cofnodion: Penderfynodd y Pwyllgor Busnes ar drefn busnes y Cynulliad a chytunodd i
gynnwys yr eitemau o fusnes a ganlyn ar yr amserlen: Dydd Mercher 25 Hydref
2017 - ·
Dadl ar Gynnig
Deddfwriaethol gan Aelod (30 munud) ·
Dadl ar adroddiad y
Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau: Cymunedau yn Gyntaf – yr
hyn a ddysgwyd (60 munud) ·
Amser a neilltuwyd i'r
Ceidwadwyr Cymreig (60 munud) ·
Amser a neilltuwyd i
Blaid Cymru (60 munud) |
|
Deddfwriaeth |
|
Amserlen ar gyfer ystyried Bil Iechyd y Cyhoedd (Pris Isaf am Alcohol) (Cymru) Cofnodion: ·
Cytunodd y Rheolwyr
Busnes mewn egwyddor i gyfeirio Bil Iechyd y Cyhoedd (Pris Isaf am Alcohol)
(Cymru) i'r Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon ar gyfer ystyriaeth
Cyfnod 1. ·
Cytunodd y Rheolwyr
Busnes i ysgrifennu at Gadeirydd y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a
Chwaraeon i ymgynghori ar amserlen ar gyfer Cyfnod 1 a Chyfnod 2. |
|
Y Pwyllgor Busnes |
|
Hynt y gwaith o adolygu’r Rheolau Sefydlog Cofnodion: Cytunodd y Rheolwyr Busnes i gynnal adolygiadau o Gwestiynau Llafar y
Cynulliad a chanllawiau ar gynnal trafodion y Cynulliad fel rhan o'i raglen
waith weithdrefnol, yn ychwanegol at y deg adolygiad arall a oedd ar y gweill a
nodwyd eisoes. |
|
Pwyllgorau |
|
Effaith ymadawiad Aelod â grŵp gwleidyddol Cofnodion: Trafododd y Rheolwyr Busnes y
materion a godwyd yn y papur ond ni allent gytuno ar unrhyw benderfyniadau. O ran dyrannu Cadeiryddion, dywedodd
y Llywydd nad yw'r sefyllfa bresennol yn cydymffurfio â'r Rheolau Sefydlog, a
bod yn rhaid ei datrys. Gofynnodd y
Llywydd i Reolwyr Busnes roi mwy o ystyriaeth i sut y gellid gwneud hyn mewn
modd sy'n cydymffurfio â'r Rheolau Sefydlog, a byddai'n rhoi'r papur ar
Agenda'r wythnos nesaf. |
|
Y Cyfarfod Llawn |
|
Papur i'w nodi - Datganiad ar y Gyllideb Ddrafft, treialu dull newydd Cofnodion: Nododd y Rheolwyr Busnes
y papur. Nododd y Llywydd y byddai'r
Cadeirydd yn sicrhau bod cymaint o Aelodau Cynulliad â phosibl yn cael eu galw,
ac y byddai'r eitem yn debygol o gymryd mwy o amser na'r hyn oed wedi'i neilltuo.
Cytunodd Arweinydd y Tŷ i newid yr amser a neilltuwyd i'r eitem i 90
munud. |
|
Deddfwriaeth |
|
Papurau i'w nodi - llythyrau at Gadeiryddion y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethiol a'r Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol ynghylch Bil yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) Cofnodion: Nododd y Rheolwyr Busnes
y llythyrau. |