Cofnodion

Lleoliad arfaethedig: Swyddfa’r Llywydd, 4ydd llawr - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Aled Elwyn Jones 

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Cyflwyniadau, ymddiheuriadau a dirprwyon

2.

Cofnodion y cyfarfod blaenorol

Cofnodion:

Cytunodd y Rheolwyr Busnes trwy e-bost yn ystod toriad yr haf ar gofnodion y cyfarfod ar 18 Gorffennaf.

 

3.

Trefn busnes

3.1

Busnes yr wythnos hon

Cofnodion:

Dydd Mawrth

 

·         Hysbysodd Jane Hutt y Pwyllgor fod pedwar datganiad wedi cael eu hychwanegu at agenda'r Cyfarfod Llawn heddiw:

-     Datganiad gan y Prif Weinidog:  Ffyniant i Bawb - Y Strategaeth i Gymru (60 Munud)

-     Datganiad gan y Prif Weinidog: Bil yr UE (Ymadael) (45 munud)

-     Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol: Brexit a Thegwch o ran Symudiad Pobl (30 Munud)

-     Datganiad gan Weinidog Iechyd y Cyhoedd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Y Cynllun Cyflawni ar Reoli Tybaco 2017-2020 (30 Munud)

 

·         Byddai'r Cyfnod Pleidleisio yn cael ei gynnal ar ôl yr eitem olaf o fusnes. 

Dydd Mercher

 

·         Cytunodd y Rheolwyr Busnes y byddai'r Cyfnod Pleidleisio yn cael ei gynnal cyn y Ddadl Fer.

 

3.2

Amserlen Busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor Busnes amserlen busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf.

 

Nododd y Rheolwyr Busnes hefyd lythyrau gan Arweinydd y Tŷ a'r Prif Chwip a Chadeirydd y Pwyllgor Cyllid, a chytunwyd i'r cynnig i dreialu dadl ar ddatganiad ar gyfer cyflwyno'r gyllideb ddrafft.  Fel yn achos y treial ar gynnig deddfwriaethol Llywodraeth Cymru, rhywbeth sy'n digwydd unwaith yn unig fydd y treial hwn a bydd angen newid y Rheolau Sefydlog er mwyn gwneud unrhyw newid parhaol. Bydd y Rheolwyr Busnes yn adolygu'r ddwy weithdrefn yn ystod yr hydref fel rhan o'r adolygiad ehangach o ddiwygiadau'r Cyfarfod Llawn.

 

3.3

Amserlen Busnes y Cynulliad ar gyfer y tair wythnos nesaf

Cofnodion:

Penderfynodd y Pwyllgor Busnes ar drefn busnes y Cynulliad a chytunodd i gynnwys yr eitemau o fusnes a ganlyn ar yr amserlen:

 

Dydd Mercher 27 Hydref 2017 -

·         Cynnig i ddiwygio Rheol Sefydlog 26 mewn perthynas â Biliau Pwyllgorau (5 munud)

·         Cynnig i ddiwygio Rheolau Sefydlog 11, 12 a 13 mewn perthynas â Deddf Cymru 2017 ac Ysgrifennydd Gwladol Cymru (5 munud)

·         Dadl ar Adroddiad y Pwyllgor Safonau Ymddygiad 01-17 i'r Cynulliad o dan Reol Sefydlog 22.9 (15 munud)

 

Dydd Mercher 4 Hydref 2017 -

·         Datganiad gan Gadeirydd y Pwyllgor Cyllid: Cyflwyno Bil a gynigir gan Bwyllgor - Bil Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus (Cymru) (30 munud)

·         Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau: Cymunedau yn Gyntaf – yr hyn a ddysgwyd (60 munud)

·         Amser a neilltuwyd i Blaid Annibyniaeth y Deyrnas Unedig (60 munud)

 

Dydd Mercher 11 Hydref 2017 -

·         Dadl ar adroddiad Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau: Tawelu'r traffig: effaith tagfeydd ar wasanaethau bysiau (60 munud)

·         Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol ar y goblygiadau i borthladdoedd Cymru o adael yr Undeb Ewropeaidd (60 munud)

 

4.

Cyllideb Llywodraeth Cymru ar gyfer 2018-19

4.1

Amserlen cyllideb Llywodraeth Cymru ar gyfer 2018-19

Cofnodion:

Ar ôl ymgynghori â'r Pwyllgor Cyllid, cytunodd y Rheolwyr Busnes ar yr amserlen a ganlyn ar gyfer ystyried cyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru:

 

 

Dyddiad

 

Gosod cynigion amlinellol ar gyfer cyllideb y Llywodraeth

 

3 Hydref 2017

Gosod cynigion manwl ar gyfer cyllideb y Llywodraeth

24 Hydref 2017

Y dyddiad cau i'r Pwyllgor Cyllid gyflwyno adroddiad ar gynigion amlinellol cyllideb y Llywodraeth

 

28 Tachwedd 2017

Y dyddiad cau i'r pwyllgorau eraill gwblhau eu hystyriaeth o'r cynigion manwl ar gyfer y gyllideb

 

28 Tachwedd 2017

Cyflwyno cynnig y gyllideb flynyddol

 

19 Rhagfyr 2017

 

 

5.

Deddfwriaeth

5.1

Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar Fil yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael).

Cofnodion:

Trafododd y Rheolwyr Busnes bapur gan y Llywodraeth ynghylch Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol mewn perthynas â Bil yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael).

 

Cytunodd y Rheolwyr Busnes i gyfeirio'r Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol i'r Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol a'r Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol er mwyn craffu arno. Cytunodd y Pwyllgor Busnes hefyd y dylai’r Pwyllgorau gyflwyno adroddiad ar y Memorandwm erbyn dydd Iau 26 Hydref. Mae Llywodraeth Cymru o'r farn ei bod yn rhy gynnar i gynnig dyddiad ar gyfer dadl ynghylch y Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol yn y Cyfarfod Llawn. Nododd y Rheolwyr Busnes y gallai fod Memoranda Cydsyniad Deddfwriaethol atodol yn dibynnu ar hynt y Bil yn San Steffan.

 

5.2

Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Seilwaith Telathrebu (Rhyddhad rhag Ardrethi Annomestig)

Cofnodion:

Trafododd y Rheolwyr Busnes bapur gan y Llywodraeth ynghylch Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol mewn perthynas â'r Bil Seilwaith Telathrebu (Rhyddhad rhag Ardrethi Annomestig).

 

Cytunodd y Rheolwyr Busnes i gyfeirio'r Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol i Bwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau er mwyn craffu arno. Cytunodd y Pwyllgor Busnes hefyd y dylai’r Pwyllgor gyflwyno adroddiad ar y Memorandwm erbyn dydd Iau 12 Hydref.

 

6.

Rheolau Sefydlog

6.1

Cynigion i ddiwygio Rheolau Sefydlog 11, 12 a 13

Cofnodion:

Cytunodd y Rheolwyr Busnes ar yr adroddiad yn nodi'r newidiadau arfaethedig i'r Rheolau Sefydlog mewn perthynas â Deddf Cymru 2017 ac Ysgrifennydd Gwladol Cymru.  Cytunodd y Pwyllgor y dylid gosod yr adroddiad y diwrnod canlynol, ochr yn ochr â chynnig i ddiwygio'r Rheolau Sefydlog, i'w ystyried yn y Cyfarfod Llawn ddydd Mercher nesaf.

 

6.2

Cynigion i ddiwygio Rheol Sefydlog 26 mewn perthynas â Biliau Pwyllgorau

Cofnodion:

Cytunodd y Rheolwyr Busnes ar yr adroddiad yn nodi'r newidiadau arfaethedig i'r Rheolau Sefydlog mewn perthynas â Biliau Pwyllgorau.  Cytunodd y Pwyllgor y dylid gosod yr adroddiad y diwrnod canlynol, ochr yn ochr â chynnig i ddiwygio'r Rheolau Sefydlog, i'w ystyried yn y Cyfarfod Llawn ddydd Mercher nesaf.

 

7.

Deddfwriaeth

7.1

Amserlen ar gyfer trafod y Bil Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus (Cymru)

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor Busnes yr amserlen arfaethedig ar gyfer ystyried y Bil Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus (Cymru) gan y Cynulliad a’r posibilrwydd o wrthdaro â’r amserlen ar gyfer y Bil Rheoleiddio Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig (Cymru).  Ar y sail fod y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol wedi nodi y byddai’n gallu ymgymryd â’r gwaith o graffu ar y Bil hwnnw, cytunodd y Rheolwyr Busnes y dylid cyfeirio’r Bil Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus (Cymru) at y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau.

 

Cytunodd y Rheolwyr Busnes hefyd mai 9 Mawrth 2018 yw'r terfyn amser ar gyfer adroddiad y Pwyllgor ar y Bil yng Nghyfnod 1, ac mai 18 Mai 2018 yw'r terfyn amser ar hyn o bryd ar gyfer cwblhau trafodion y Pwyllgor yng Nghyfnod 2. 

 

8.

Pwyllgorau

8.1

Cais gan Bwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau i gynnal ymweliad â Brwsel

Cofnodion:

Cytunodd y Rheolwyr Busnes i gais gan Bwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau i aelodau'r Pwyllgor gael eu hesgusodi o'r Cyfarfod Llawn ar ôl 17.45 ddydd Mawrth 4 Hydref 2017 i gynnal cyfarfodydd ym Mrwsel.