Cofnodion
Lleoliad arfaethedig: Swyddfa’r Llywydd, 4ydd llawr - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Aled Elwyn Jones
Rhif | Eitem | ||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
Cyflwyniadau, ymddiheuriadau a dirprwyon Cofnodion: Anfonodd y Dirprwy Lywydd ei hymddiheuriadau oherwydd ei
bod yn cynrychioli Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn Senedd y Tynwald ar Ynys
Manaw. |
|||||||||
Cofnodion y cyfarfod blaenorol Cofnodion: Cytunodd y Pwyllgor ar gofnodion y cyfarfod cyn eu
cyhoeddi. |
|||||||||
Trefn busnes |
|||||||||
Busnes yr wythnos hon Cofnodion: Dydd Mawrth ·
Rhoddodd Jane Hutt wybod
i'r pwyllgor y byddai datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a
Phlant: y wybodaeth ddiweddaraf yn dilyn y tân yn Nhŵr Grenfell yn
cael ei ychwanegu at agenda'r Cyfarfod Llawn heddiw: ·
Rhoddodd Jane Hutt wybod
i'r pwyllgor y byddai trefn y datganiadau a ganlyn yn cael ei newid: -
Datganiad gan
Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith: Polisi a Deddfwriaeth yr
Amgylchedd Hanesyddol (45 munud) -
Datganiad gan Ysgrifennydd
y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon: Y Gronfa Triniaeth Newydd –
Adroddiad Cynnydd (45 munud) ·
Byddai'r Cyfnod
Pleidleisio yn cael ei gynnal ar ôl yr eitem olaf o fusnes. Dydd Mercher ·
Cytunodd y Rheolwyr
Busnes y byddai'r Cyfnod Pleidleisio yn cael ei gynnal cyn y Ddadl Fer. |
|||||||||
Amserlen Busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf Cofnodion: Nododd y Pwyllgor Busnes amserlen busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair
wythnos nesaf. |
|||||||||
Amserlen Busnes y Cynulliad ar gyfer y tair wythnos nesaf Cofnodion: Penderfynodd y Pwyllgor Busnes ar drefn busnes y Cynulliad a chytunodd i
gynnwys yr eitemau o fusnes a ganlyn ar yr amserlen: Dydd Mercher 19 Gorffennaf 2017 - ·
Datganiad gan Gadeirydd
y Pwyllgor Cyllid: Diwygio Cyllidol – Gwersi o'r Alban (30 munud)
·
Dadl ar adroddiad y
Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon ar recriwtio meddygol (60
munud) ·
Amser a neilltuwyd i'r
Ceidwadwyr Cymreig (60 munud) ·
Amser a neilltuwyd i
Blaid Cymru (60 munud) |
|||||||||
Dadl Aelod Unigol: Dewis y Cynnig ar gyfer y Ddadl Cofnodion: ·
Dewisodd y Pwyllgor
Busnes gynnig ar gyfer dadl ar 12 Gorffennaf: NNDM6348 David Melding (Canol De Cymru) Dai Lloyd (Gorllewin De Cymru) Caroline Jones (Gorllewin De Cymru) Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn) Julie Morgan (Gogledd Caerdydd) Hefin David (Caerffili) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1.
Yn nodi mai Cymru yw'r
unig un o'r gwledydd cartref sydd heb ganolfan rhewmatoleg bediatrig arbenigol.
2.
Yn nodi bod tua 400 o
blant yn ne Cymru yn unig sy'n dioddef o Arthritis Idiopathig Ieuenctid. 3.
Yn cydnabod yr angen am
ganolfan rhewmatoleg bediatrig amlddisgyblaeth yng Nghymru. 4.
Yn nodi bod Pwyllgor
Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru yn cynnal adolygiad cynhwysfawr o
wasanaethau pediatrig arbenigol yng Nghymru. 5.
Yn galw ar Lywodraeth
Cymru i gefnogi galwadau gan Gofal Arthritis, y Gymdeithas Arthritis Gwynegol
Genedlaethol a Chymdeithas Brydeinig Rhewmatoleg ar gyfer creu canolfan
rhewmatoleg bediatrig amlddisgyblaeth benodedig lwyr yng Nghymru. ·
Cytunodd y Rheolwyr
Busnes i gynnal y Ddadl Aelod Unigol nesaf yn ystod tymor yr hydref. |
|||||||||
Amserlen y Cynulliad – Y Pumed Cynulliad |
|||||||||
Dyddiadau Toriadau Cofnodion: Cadarnhaodd y Rheolwyr Busnes y dyddiadau a ganlyn ar gyfer toriad hanner
tymor y gwanwyn a thoriad y Pasg 2018, a chytunodd ar y dyddiadau dros dro a
ganlyn ar gyfer hanner tymor y Sulgwyn a thoriad yr haf 2018.
*Dyddiadau dros dro i'w cadarnhau gan y Pwyllgor Busnes. |
|||||||||
Pwyllgorau |
|||||||||
Llythyr gan y Pwyllgor Safonau Ymddygiad Cofnodion: Cytunodd y Rheolwyr Busnes mewn egwyddor i gais gan y Pwyllgor Safonau i
gynnal cyfarfod ychwanegol ddydd Mawrth 18 Gorffennaf 2017. |
|||||||||
Deddfwriaeth |
|||||||||
Papur i'w nodi – Rhaglen Ddeddfwriaethol Llywodraeth y DU – Llythyr gan Jane Hutt Cofnodion: Nododd y Rheolwyr Busnes y llythyr. |
|||||||||
Papur i'w nodi – Rhaglen Ddeddfwriaethol Llywodraeth y DU – Llythyr gan Alun Cairns Cofnodion: Nododd y Rheolwyr Busnes y llythyr. |
|||||||||
Unrhyw fater arall Trafododd y Rheolwyr Busnes strwythur newydd ar gyfer Rhaglen
Ddeddfwriaethol Llywodraeth Cymru, a fydd yn cael ei dreialu yn ystod y
Cyfarfod Llawn ar 27 Mehefin, a chytunodd i ddychwelyd at y trefniadau gyda'r
bwriad o ddiwygio'r Rheolau Sefydlog yn ystod tymor yr hydref – ar yr un pryd
ag y maent yn adolygu cwestiynau, cynigion deddfwriaethol gan Aelodau a
newidiadau eraill a gyflwynwyd yn ystod y flwyddyn ddiwethaf. Bydd yr Ysgrifenyddiaeth
yn paratoi opsiynau i'r Rheolwyr Busnes eu trafod. |