Cofnodion
Lleoliad arfaethedig: Swyddfa’r Llywydd, 4ydd llawr - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Aled Elwyn Jones
Rhif | Eitem |
---|---|
Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon Cofnodion: Roedd Simon Thomas yn bresennol yn lle Rhun ap Iorwerth, a Gareth Bennett
yn lle David Rowlands. |
|
Cofnodion y cyfarfod blaenorol Cofnodion: Cytunodd y Pwyllgor ar y cofnodion ar gyfer eu cyhoeddi. |
|
Trefn busnes |
|
Busnes yr wythnos hon Cofnodion: Dydd Mawrth ·
Byddai'r Cyfarfod Llawn yn dechrau am 12.30 gyda datganiadau gan y Llywydd
a'r Prif Weinidog am yr ymosodiad ym Manceinion a munud o dawelwch, yna
teyrngedau i Rhodri Morgan ac ail funud o dawelwch. Byddai egwyl fer ar ôl yr eitemmau cyntaf o
fusnes, cyn ailymgynnull am weddill busnes y diwrnod. ·
Rhoddodd Jane Hutt wybod i'r Pwyllgor y byddai dau o ddatganiadau'r
Llywodraeth yn cael eu symud i ddydd Mercher; datganiad gan Ysgrifennydd y
Cabinet dros Addysg ar Asesu ar gyfer Dysgu - dull gwahanol yng Nghymru; a
datganiad gan y Cwnsler Cyffredinol ar yr Ymgynghoriad ar God Erlyn Llywodraeth
Cymru. Nododd hefyd fod yr amser a ddyrannwyd i'r ddau ddatganiad wedi'i leihau
o 45 munud o i 30 munud. ·
Rhoddodd Jane Hutt wybod i'r Pwyllgor y byddai'r Datganiad gan Ysgrifennydd
y Cabinet dros Gymunedau a Phlant: Plant yn Gyntaf / Children First yn cael ei
ohirio. ·
Cytunodd y Rheolwyr Busnes y câi'r Cyfnod Pleidleisio ei gynnal fel yr
eitem olaf o fusnes. Dydd Mercher ·
Cytunodd y Rheolwyr Busnes i ohirio'r Ddadl Aelod Unigol (a gyflwynwyd gan
Julie Morgan a phedwar Aelod arall) ar Hepatitis C tan 14 Mehefin. ·
Trefnwyd cynnwys y ddau ddatganiad a ohiriwyd o ddydd Mawrth ar ôl y
Datganiadau 90 Eiliad. ·
Cytunodd y Rheolwyr Busnes y câi'r Cyfnod Pleidleisio ei gynnal cyn y Ddadl
Fer. |
|
Amserlen Busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf Cofnodion: Nododd y Pwyllgor Busnes amserlen busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair
wythnos nesaf. |
|
Amserlen Busnes y Cynulliad ar gyfer y tair wythnos nesaf Cofnodion: ·
Gan fod y Ddadl Aelod Unigol ar gyfer dydd Mercher wedi cael ei ohirio,
cytunodd y Rheolwyr Busnes i symud y drafodaeth i’r slot nesaf ar gyfer Dadl
Aelod Unigol ar 14 Mehefin, ac i symud y cynnig Dadl Aelod Unigol (ar
Effeithlonrwydd Ynni) a oedd wedi ei drefnu ar gyfer 14 Mehefin ymlaen i'r slot
nesaf sydd ar gael ar 28 Mehefin. ·
Penderfynodd y Pwyllgor Busnes ar drefn busnes y Cynulliad a chytunodd i
gynnwys yr eitemau o fusnes a ganlyn ar yr amserlen:
·
Dadl gan y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig ar ei
adroddiad ar ddyfodol polisïau amaethyddol a datblygu gwledig yng Nghymru (60
munud) ·
Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau ar
ei ymchwiliad i ffoaduriaid a cheiswyr lloches yng Nghymru (60 munud) ·
Amser a neilltuwyd i Blaid Annibyniaeth y Deyrnas Unedig (60 munud) |
|
Pwyllgorau |
|
Cais gan Bwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau i gynnal ymweliad â Glasgow Cofnodion: ·
Cytunodd y Rheolwyr
Busnes ar gais gan Bwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau i Aelodau'r
Pwyllgor gael eu hesgusodi o'r Cyfarfod Llawn ddydd Mercher 14 Mehefin 2017 ar
ôl 16.45 er mwyn teithio i Glasgow, fel rhan o'r ymchwiliad i Fargeinion
Dinesig ac Economïau Rhanbarthol Cymru, ac i'r Pwyllgor Cyllid wneud trefniadau
tebyg. |
|
Rheolau Sefydlog |
|
Diwygio Rheolau Sefydlog: Proses y gyllideb Cofnodion: ·
Trafododd y Rheolwyr
Busnes bapur yn nodi'r cynigion i ddiwygio prosesau cyfredol y gyllideb yn unol
â'r argymhellion a wnaed yn sgil ymchwiliad y Pwyllgor Cyllid blaenorol i
arferion gorau o ran y gyllideb ac ymateb y Pwyllgor Cyllid i ymgynghoriad y
Pwyllgor Busnes ar y drafft. ·
Ystyriodd y Pwyllgor
brotocol drafft y cytunwyd arno dros dro rhwng y Pwyllgor Cyllid a Llywodraeth
Cymru, gan gytuno: ·
y dylai'r ddadl ar y
gyllideb ddrafft barhau i ddigwydd yn dilyn cynnig gan y llywodraeth i nodi'r
gyllideb ddrafft, fel sy'n digwydd ar hyn o bryd; ·
y dylai'r wybodaeth sy’n
ofynnol i gyd-fynd â chynigion y gyllideb amlinellol gael ei chynnwys yn y
protocol, yn hytrach nag yn y Rheolau Sefydlog, ond y dylai'r Rheolau Sefydlog
gyfeirio'n benodol at y protocol; ·
i gael gwared ar y
cyfeiriad at 'wythnosau eistedd' o'r Rheol Sefydlog drafft, a chynnwys
darpariaeth yn y protocol i sicrhau y bydd y wybodaeth angenrheidiol ar gael
cyn hanner tymor yr hydref. |