Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Video Conference via Zoom

Cyswllt: Aled Elwyn Jones 

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon

2.

Cofnodion y cyfarfod blaenorol

Cofnodion:

Cytunwyd ar gofnodion cyfarfod yr wythnos diwethaf i’w cyhoeddi

 

3.

Trefn Busnes

3.1

Busnes yr wythnos hon

Cofnodion:

Dydd Mawrth 

 

·         Caiff y Cyfnod Pleidleisio ei gynnal ar ôl yr eitem olaf o fusnes.  

·         Nid yw'r Cyfarfod Llawn yn debygol o bara’n hwyrach na 7.10pm. 

 

Dydd Mercher 

 

·         Cynhelir Amser Pleidleisio cyn y Ddadl Fer.  

·         Nid yw’r Cyfarfod Llawn yn debygol o bara’n hwyrach na 7.20pm. 

 

Tynnodd y Trefnydd sylw'r Rheolwyr Busnes at y newidiadau amrywiol i Fusnes yr Wythnos Hon:

 

·         ychwanegu dadl ar y cyfyngiadau Coronafeirws newydd i agenda dydd Mawrth, ochr yn ochr â chynnig i atal Rheolau Sefydlog dros dro, er mwyn caniatáu iddi ddigwydd;

·         y datganiad gan Ddirprwy Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth: Mae’r diweddariad ar Dasglu'r Cymoedd a'r ddadl ar Adolygiad Blynyddol y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol 2019-20 ill dau wedi'u gostwng mewn amser o 45 i 30 munud; a;

·         Mae Gorchymyn Ardrethu Annomestig (Lluosydd) (Cymru) 2020 wedi’i ohirio.

 

Dadl ar Gyfyngiadau Coronafeirws

 

Amlygodd y Llywydd fod cyfanswm o 17 o welliannau wedi’u cyflwyno i ddadl dydd Mawrth, a 5 i ddadl y Ceidwadwyr ddydd Mercher, ac y gallai ddefnyddio ei phwerau dewis, yn ôl yr arfer.

 

Adroddiad safonau

 

Er mwyn cynnal busnes yn iawn, cytunodd y Pwyllgor Busnes i drefnu'r ddadl ar yr Adroddiad Safonau fel yr eitem olaf cyn yr amser pleidleisio.

 

 

3.2

Amserlen busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf

Cofnodion:

Tynnodd y Trefnydd sylw'r Rheolwyr Busnes at y newidiadau a ganlyn:

 

Dydd Mawrth 15 Rhagfyr 2020

 

·                     Cynnig o dan Reol Sefydlog 12.24 i gynnal dadl ar y canlynol gyda'i gilydd ond gyda phleidleisiau ar wahân (30 munud):

o        Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws a Swyddogaethau Awdurdodau Lleol) (Diwygio) (Cymru) 2020

o        Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol a Chyfyngiadau) (Diwygio) (Rhif 3) (Cymru) 2020

·                     Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Meddyginiaethau a Dyfeisiau Meddygol (15 munud) - wedi'i ohirio tan 12 Ionawr

Dydd Mawrth 12 Ionawr 2021

 

·                     Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Meddyginiaethau a Dyfeisiau Meddygol (15 munud)

 

 

3.3

Amserlen busnes y Senedd ar gyfer y tair wythnos nesaf

Cofnodion:

Cytunodd y Pwyllgor Busnes i gynnwys yr eitemau busnes a ganlyn ar yr amserlen:

 

Dydd Mercher 13 Ionawr 2021 -

  • Amser a neilltuwyd i’r Ceidwadwyr Cymreig (60 munud)

 

Dydd Mercher 20 Ionawr 2021 -

  • Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg: Hawliau plant yng Nghymru (60 munud)
  • Amser a neilltuwyd i’r Ceidwadwyr Cymreig (60 munud)
  • Amser a neilltuwyd i Blaid Cymru (60 munud)

 

 

4.

Deddfwriaeth

4.1

Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws a Swyddogaethau Awdurdodau Lleol) (Diwygio) (Cymru) 2020

Cofnodion:

Cytunodd y Pwyllgor Busnes ar ddydd Llun 14 Rhagfyr fel terfyn amser i’r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad gyflwyno adroddiad ar y rheoliadau. 

 

 

4.2

Y wybodaeth ddiweddaraf am y Memoranda Cydsyniad Deddfwriaethol

Cofnodion:

Cytunodd y Pwyllgor Busnes i gyfeirio'r Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol ar y Bil Meddyginiaethau a Dyfeisiau Meddygol at y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol a’r Pwyllgor Deddfwriaeth Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad gyda dyddiad cau ar gyfer adrodd o 11 Ionawr 2021, a'r Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol ar Fil yr Amgylchedd i'r Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig a’r Pwyllgor Deddfwriaeth Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad gyda dyddiad cau ar gyfer adrodd o 4 Chwefror 2021.

 

Cytunodd y Pwyllgor Busnes hefyd i beidio â chyfeirio'r Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol ar Fil y Farchnad Fewnol at bwyllgor.

 

 

4.3

Cynigion Cydsyniad Offeryn Statudol

Cofnodion:

Rhoddodd y Llywydd wybod i Reolwyr Busnes y bydd yn ymateb i gadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad ar y mater hwn, ac yn anfon copi at y Pwyllgor Busnes.

 

 

5.

Pwyllgorau

5.1

Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Cyllid

Cofnodion:

Cytunodd Rheolwyr Busnes i gyfarfod ychwanegol o'r Pwyllgor ar 16 Rhagfyr.

 

 

6.

Y Rheolau Sefydlog

6.1

Gweithdrefnau Adalw

Cofnodion:

Anogodd y Llywydd Reolwyr Busnes i roi adborth gan eu grwpiau ar y papur hwn a'r papur canlynol wrth iddyn nhw godi, yn hytrach nag aros am y cyfarfod nesaf.

 

Cytunodd y Pwyllgor Busnes i drafod y papur â'u grwpiau a dod yn ôl i'r cyfarfod yr wythnos nesaf i fynegi unrhyw safbwyntiau cychwynnol.

 

 

6.2

Adolygu'r Rheolau Sefydlog mewn perthynas â grwpiau gwleidyddol

Cofnodion:

Cytunodd y Pwyllgor Busnes i drafod y papur â'u grwpiau a dod yn ôl i'r cyfarfod yr wythnos nesaf i fynegi unrhyw safbwyntiau cychwynnol.