Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Zoom
Cyswllt: Aled Elwyn Jones
Rhif | Eitem |
---|---|
Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon |
|
Cofnodion y cyfarfod blaenorol Cofnodion: Cytunwyd ar gofnodion y cyfarfod blaenorol i’w cyhoeddi. |
|
Trefn Busnes |
|
Busnes yr wythnos hon Cofnodion: Tynnodd y Trefnydd
sylw'r Pwyllgor Busnes at y cynnig i atal y Rheolau Sefydlog dros dro er mwyn
caniatáu ar gyfer cynigion newydd ar gyfer y ddwy eitem ganlynol ddydd Mawrth: o
Cod Anghenion Dysgu Ychwanegol
Cymru 2021 o Rheoliadau Deddf Cydraddoldeb 2010 (Galluedd rhieni a phersonau sy’n
hŷn na’r oedran ysgol gorfodol) (Cymru) 2021 Tynnodd y
Trefnydd sylw'r Pwyllgor Busnes hefyd at dynnu'r eitem ganlynol yn ôl, a
drefnwyd ar gyfer dydd Mercher: ·
Gorchymyn
Etholiadau Cymru (Darpariaethau Amrywiol) 2021 (15 munud) Dywedodd y
Llywydd wrth y Pwyllgor Busnes y byddai hi a'r Dirprwy Lywydd yn cadeirio o’r
Siambr ar y ddau ddiwrnod yr wythnos hon. Dydd Mawrth ·
Caiff y
Cyfnod Pleidleisio ei gynnal fel yr eitem olaf o fusnes. ·
Nid yw'r
Cyfarfod Llawn yn debygol o fynd y tu hwnt i 7.05pm. Dydd
Mercher ·
Caiff y
Cyfnod Pleidleisio ei gynnal cyn y Ddadl Fer. ·
Nid yw'r
Cyfarfod Llawn yn debygol o fynd y tu hwnt i 8.15pm. |
|
Deddfwriaeth |
|
Gorchymyn Senedd Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) (Diwygio) 2021. Cofnodion: Cytunodd y Pwyllgor Busnes
nad oedd amser i bennu dyddiad cau ar gyfer cyflwyno adroddiad, gan fod y
Gorchymyn wedi'i drefnu i'w drafod ar 24 Mawrth. |
|
Y wybodaeth ddiweddaraf am y Memoranda Cydsyniad Deddfwriaethol cyfredol Cofnodion: Nododd y Pwyllgor
Busnes y sefyllfa ddiweddaraf o ran y Memoranda Cydsyniad Deddfwriaethol. Gofynnodd y
Rheolwyr Busnes am ragor o wybodaeth am amserlen y Bil Heddlu, Troseddu,
Dedfrydu a Llysoedd a chytunodd y Trefnydd i ddosbarthu nodyn gyda mwy o
wybodaeth. |
|
Pwyllgorau |
|
Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus Cofnodion: Nododd y
Pwyllgor Busnes y llythyr, ac y bydd yr argymhellion yn cael eu dwyn i sylw'r
Pwyllgor Busnes newydd. |