Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Zoom
Cyswllt: Aled Elwyn Jones
Rhif | Eitem |
---|---|
Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon |
|
Cofnodion y cyfarfod blaenorol Cofnodion: Cytunwyd ar gofnodion y cyfarfod blaenorol i’w cyhoeddi. |
|
Trefn Busnes |
|
Busnes yr wythnos hon Cofnodion: Dywedodd y
Llywydd wrth y Rheolwyr Busnes y bydd egwyl cyn y bleidlais gyntaf yn
nhrafodion Cyfnod 3, ac fel o'r blaen bydd PIN gwahanol ar gyfer y Cyfnod
Pleidleisio ac ar gyfer Cyfnod 3. Dydd Mawrth ·
Bydd y Cyfnod Pleidleisio yn cael ei gynnal cyn Cyfnod 3
y Bil Cwricwlwm ac Asesu (Cymru). ·
Nid yw'r Cyfarfod Llawn yn debygol o fynd y tu hwnt i
7.45pm. Dydd Mercher ·
Caiff y Cyfnod Pleidleisio ei gynnal cyn y Ddadl
Fer. ·
Nid yw'r Cyfarfod Llawn yn debygol o fynd y tu hwnt i
6.40pm. |
|
Amserlen busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf Cofnodion: Tynnodd y
Trefnydd sylw'r Rheolwyr Busnes at y newidiadau a ganlyn: Dydd Mawrth
9 Mawrth 2021 – ·
Rheoliadau Diogelu Iechyd
(Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 4) 2021 (15 munud) Dydd Mawrth
16 Mawrth 2021 – ·
Gorchymyn Cyngor y Gweithlu Addysg
(Gorchmynion Atal Dros Dro Interim) (Swyddogaethau Ychwanegol) (Cymru)
2021 (15 munud) |
|
Amserlen busnes y Senedd ar gyfer y tair wythnos nesaf Cofnodion: Cytunodd y
Pwyllgor Busnes i gynnwys yr eitemau o fusnes a ganlyn ar yr amserlen: Dydd
Mercher 17 Mawrth 2021 – ·
Dydd
Mercher 24 Mawrth 2021 – ·
Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Cyllid:
Ymchwiliad i weithredu Deddf Cymru 2014 a'r Fframwaith Cyllidol (60 munud) ·
Dadl ar adroddiad y Pwyllgor
Cyfrifon Cyhoeddus: Cyflawni ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol: y stori hyd yn
hyn (30 munud) ·
Dadl ar adroddiad y Pwyllgor
Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu: Archwilio datganoli darlledu: sut y
gall Cymru gael y cyfryngau y mae eu hangen arni? (30 munud) ·
Amser a neilltuwyd i’r Ceidwadwyr
Cymreig (30 munud) |
|
Dethol Dadleuon Aelodau Cofnodion: Cytunodd y
Pwyllgor Busnes i amserlennu’r cynnig canlynol i’w drafod ar 10 Mawrth: NNDM7552 Jenny
Rathbone Dai Lloyd Jack
Sargeant Cynnig bod y Senedd: 1. Yn nodi:
a) mai Cymru yw'r lle gyda'r cyfraddau uchaf o ddiabetes
math 2 o unrhyw le yng ngorllewin Ewrop, lle mae dros 200,000 wedi cael
diagnosis, lle yr amgcangyfrifir bod 65,000 gyda math 2 heb ddiagnosis, a lle
mae 500,000 arall mewn perygl o gontractio diabetes;
b) bod gofalu am bobl â diabetes eisoes yn defnyddio 10
y cant o gyllideb y GIG;
c) y risgiau cynyddol o ddal COVID-19 ar gyfer
dinasyddion sydd â diabetes fel cyflwr sy'n bodoli eisoes; a
d) llwyddiant a
chost-effeithiolrwydd y rhaglen Sgiliau Maeth am Oes, sydd wedi ennill sawl
gwobr, a dreialwyd yng Nghwm Afan.
2. Yn annog Llywodraeth Cymru i brif ffrydio'r rhaglen Sgiliau Maeth am Oes
ledled Cymru fel elfen ganolog o gynllun atal diabetes i Gymru. Cefnogwyr: Helen Mary
Jones Darren
Millar Andrew RT
Davies Jayne
Bryant |
|
Cais i drefnu dadl ar NNDM7584 Cofnodion: Penderfynodd
y Pwyllgor Busnes beidio ag amserlennu'r cynnig i'w drafod. |
|
Busnes y Senedd |
|
Bil Etholiadau Cymru (Coronafeirws) - Effaith ar Fusnes y Senedd Cofnodion: Cytunodd y
Pwyllgor Busnes: ·
mai dim ond mewn amgylchiadau eithriadol
y byddai'r Senedd yn cael ei hadalw am faterion nad ydynt yn gysylltiedig â'r
Bil; ·
y dylai holl fusnes pwyllgorau’r
Senedd ddod i ben yn ystod y cyfnod cyn y diddymiad; ·
y dyddiadau cau ar gyfer gosod
dogfennau, derbyn Cwestiynau Ysgrifenedig ac eitemau eraill o fusnes a
gyflwynwyd, ac eithrio mewn perthynas ag unrhyw adalw’r Senedd; ·
y gall y Pwyllgor Deddfwriaeth,
Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad gwrdd yn ystod y cyfnod cyn y diddymiad er mwyn
ystyried rheoliadau sy'n ymwneud â Coronafeirws (os ydynt yn ddarostyngedig i
adalw’r Senedd) neu ohirio etholiadau 2021 yn unig; ac ·
y dylid gwneud penderfyniadau
ynghylch busnes y Senedd yn ystod unrhyw wythnosau ychwanegol o'r Pumed Senedd
yn dilyn unrhyw benderfyniad i ohirio'r etholiad. Nododd y
Pwyllgor hefyd: ·
y broses ar gyfer gohirio'r
etholiad; ·
mai’r dyddiad cau ar gyfer unrhyw
newidiadau i'r Gofrestr Buddiannau yw 6.00pm dydd Mercher 28 Ebrill; ·
bwriad y Llywydd i gau’r system ddeisebau
yn ystod y cyfnod cyn y diddymiad, (yn ogystal ag yn ystod y diddymiad); ·
bwriad y Llywydd i gyfyngu ar
weithgareddau Grwpiau Trawsbleidiol ar ôl 7 Ebrill, y dyddiad cau o 6.00pm dydd
Mercher 28 Ebrill ar gyfer cyflwyno dogfennaeth yn ymwneud â gweithgareddau
Grwpiau Trawsbleidiol, ac y bydd yr holl Grwpiau Trawsbleidiol yn cael eu
dadgofrestru'n awtomatig ar ddechrau’r diddymiad (hanner nos ar 29 Ebrill). |
|
Deddfwriaeth |
|
Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 4) 2021 Cofnodion: Cytunodd y Pwyllgor
Busnes i bennu dydd Llun 8 Mawrth fel dyddiad cau i’r
Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad gyflwyno adroddiad ar y
rheoliadau. |
|
Pwyllgorau |
|
Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Safonau Ymddygiad Cofnodion: Cytunodd y
Pwyllgor Busnes i’r pwyllgor gwrdd y tu allan i'r slot a drefnwyd iddo am y
tair wythnos nesaf, os oes angen. |
|
Adroddiadau Rheolau Sefydlog Drafft |
|
Busnes Cynnar yn dilyn etholiad Senedd Cofnodion: Cytunodd y
Rheolwyr Busnes ar yr adroddiad drafft ac i gyflwyno cynnig i ddiwygio'r
Rheolau Sefydlog i’w drafod yn y Cyfarfod Llawn ddydd Mercher 24 Mawrth. |
|
Sub Judice Cofnodion: Cytunodd y
Rheolwyr Busnes ar yr adroddiad drafft ac i gyflwyno cynnig i ddiwygio'r
Rheolau Sefydlog i’w drafod yn y Cyfarfod Llawn ddydd Mercher 24 Mawrth. |
|
Biliau Cydgrynhoi Cofnodion: Cytunodd y
Rheolwyr Busnes ar yr adroddiad drafft ac i gyflwyno cynnig i ddiwygio'r
Rheolau Sefydlog i’w drafod yn y Cyfarfod Llawn ddydd Mercher 24 Mawrth. |
|
Ymadael â'r Undeb Ewropeaidd Cofnodion: Cytunodd y Rheolwyr
Busnes ar yr adroddiad drafft ac i gyflwyno cynnig i ddiwygio'r Rheolau
Sefydlog i’w drafod yn y Cyfarfod Llawn ddydd Mercher 24 Mawrth. |
|
Y Rheolau Sefydlog |
|
Adolygu'r Rheolau Sefydlog mewn perthynas â grwpiau gwleidyddol Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor Busnes yr adroddiad drafft a
chytunodd y Rheolwyr Busnes i ymgynghori â'u grwpiau cyn dychwelyd at y mater
yn y cyfarfod nesaf. |