Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Video conference via Zoom

Cyswllt: Aled Elwyn Jones 

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon

2.

Cofnodion y cyfarfod blaenorol

3.

Trefn Busnes

3.1

Busnes yr wythnos hon

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor Busnes y trefniadau ar gyfer yr eitem ar y cyd â Senedd Ieuenctid Cymru, gan gynnwys y byddai Aelodau’r Senedd Ieuenctid yn bresennol yn y Cyfarfod Zoom cyn dechrau'r Cyfarfod Llawn a than ddiwedd yr eitem.

 

Dydd Mawrth 

 

·         Caiff y Cyfnod Pleidleisio ei gynnal ar ôl yr eitem olaf o fusnes.  

·         Nid yw'r Cyfarfod Llawn yn debygol o fynd y tu hwnt i 6.36pm.

 

Dydd Mercher 

 

·         Bydd y Cyfarfod Llawn yn dechrau am 12.45.

·         Caiff y Cyfnod Pleidleisio ei gynnal cyn y ddwy Ddadl Fer.  

·         Nid yw'r Cyfarfod Llawn yn debygol o fynd y tu hwnt i 6.15pm. 

 

 

3.2

Amserlen busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf

Cofnodion:

Tynnodd y Trefnydd sylw'r Rheolwyr Busnes at y newidiadau a ganlyn:

 

Dydd Mawrth 2 Mawrth 2021 –

 

  • Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 3) 2021 (15 munud)
  • Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Ardrethu Annomestig (Rhestri) (Rhif 2) (15 munud)

 

 

3.3

Amserlen busnes y Senedd ar gyfer y tair wythnos nesaf

Cofnodion:

Cytunodd y Pwyllgor Busnes i gynnwys yr eitemau o fusnes a ganlyn ar yr amserlen:

 

Dydd Mercher 17 Mawrth 2021 –

 

  • Dadl ar adroddiad Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau: Gweithio o Bell: y Goblygiadau i Gymru (30 munud)
  • Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu: A ddylid datganoli darlledu?  (30 munud)
  • Amser a neilltuwyd i Blaid Cymru (30 munud)

 

 

3.4

Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Deisebau

Cofnodion:

Cytunodd y Pwyllgor Busnes i drefnu dadl ar ddwy ddeiseb Canolfan Ganser Felindre ar 3 Mawrth, a dadl ar 'P-05-1056 Rhoi pwerau i Awdurdodau Lleol reoli'r farchnad dai mewn ardaloedd gwledig a thwristiaeth yng Nghymru' ar 17 Mawrth.

 

 

4.

Deddfwriaeth

4.1

Y wybodaeth ddiweddaraf am y Memoranda Cydsyniad Deddfwriaethol cyfredol

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor Busnes y sefyllfa ddiweddaraf o ran Memoranda Cydsyniad Deddfwriaethol a chytunodd i:

 

  • gyfeirio'r Memorandwm ar y Bil Lles Anifeiliaid (Dedfrydu) at y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a Chyfansoddiad a'r Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Materion Gwledig i graffu arno gyda dyddiad cau ar gyfer cyflwyno adroddiad ar 25 Mawrth 2021;
  • cyfeirio'r Memorandwm ar Fil y Lluoedd Arfog at y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad i graffu arno gyda dyddiad cau ar gyfer cyflwyno adroddiad ar 25 Mawrth 2021;
  • cyfeirio'r Memorandwm Atodol (Rhif 2) ar y Bil Amgylchedd yn ffurfiol at y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad a'r Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Materion Gwledig i graffu arno gyda dyddiad cau ar gyfer cyflwyno adroddiad ar 18 Mawrth 2021; a
  • nodi dyddiadau'r ddadl ar y cynnig cydsyniad deddfwriaethol arfaethedig ar gyfer y Bil Ardrethu Annomestig (Rhestri) (Rhif 2) (2 Mawrth) a'r Bil Cam-drin Domestig a'r Bil Gwasanaethau Ariannol (y ddwy ar 16 Mawrth).

 

 

4.2

Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 3) 2021

Cofnodion:

Cytunodd y Pwyllgor Busnes i bennu dydd Llun 1 Mawrth fel dyddiad cau i’r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad gyflwyno adroddiad ar y rheoliadau.