Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Video Conference via Zoom

Cyswllt: Aled Elwyn Jones 

Amseriad disgwyliedig: Preifat 

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon

Cofnodion:

Derbyniwyd ymddiheuriadau gan Caroline Jones; Roedd Mandy Jones yn bresennol fel dirprwy.

 

2.

Cofnodion y cyfarfod blaenorol

Cofnodion:

Cytunwyd ar gofnodion y cyfarfodydd blaenorol i’w cyhoeddi.

 

3.

Trefn Busnes

3.1

Busnes yr wythnos hon

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor Busnes y trefniadau ymarferol canlynol ar gyfer gwaith craffu deddfwriaethol yr wythnos hon a chytunodd arnynt:

 

·         bydd meicroffonau’r Aelodau perthnasol yn  weithredol yn ystod cyfnodau pan fydd gwelliannau'n cael eu cynnig yn ffurfiol a phan bleidleisir arnynt, er mwyn osgoi oedi;

 

·         at ddibenion pleidleisio, cynhelir dau gyfarfod ar wahân gyda gwahanol rifau adnabod ar y ddau ddiwrnod, felly bydd angen i Aelodau fewngofnodi i'r system ddwywaith;

 

·         ddydd Mawrth, bydd toriad cyn y bleidlais gyntaf yn y Pwyllgor o’r Senedd Gyfan, a thoriad byr rhwng y Pwyllgor a dechrau'r Cyfarfod Llawn; a

 

·         dydd Mercher, bydd toriad cyn y bleidlais gyntaf ym mhob un o’r trafodion Cyfnod 3, toriad byr rhwng y Cyfnod 3 cyntaf a Chwestiynau Llafar, ac eto cyn y Cyfnod 3 ar y Bil Brys.

 

Dydd Mawrth 

 

·         Bydd y Cyfarfod Llawn yn dechrau ar ôl diwedd trafodion y Pwyllgor o’r Senedd Gyfan ar gyfer Bil Etholiadau Cymru (Coronafeirws), a fydd yn dechrau am 13.00.

·         Caiff y Cyfnod Pleidleisio ei gynnal ar ôl yr eitem olaf o fusnes.  

 

Dydd Mercher 

 

·         Bydd y Cyfarfod Llawn yn dechrau am 13.00.

·         Ni fydd cyfnod pleidleisio heblaw yn ystod y ddwy ddadl Cyfnod 3.

·         Nid yw'r Cyfarfod Llawn yn debygol o fynd y tu hwnt i 6.50pm. 

 

 

Dywedodd y Llywydd wrth y Rheolwyr Busnes y byddai'n arfer ei phwerau dethol, er mwyn osgoi i Gyfnod 2 o’r Bil Brys gael ei ailadrodd yng Nghyfnod 3, ac anogodd yr Aelodau i beidio ail-gyflwyno gwelliannau sydd wedi'u gwrthod yn gynhwysfawr yng Nghyfnod 2.

 

 

3.2

Amserlen busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf

Cofnodion:

Tynnodd y Trefnydd sylw'r Rheolwyr Busnes at y newid a ganlyn:

 

Dydd Mawrth 23 Chwefror 2021

 

·           Dadl:  Cyfnod 4 y Bil Rhentu Cartrefi (Diwygio) (Cymru) (15 munud)

 

 

 

3.3

Amserlen busnes y Senedd ar gyfer y tair wythnos nesaf

Cofnodion:

Cytunodd y Pwyllgor Busnes i gynnwys yr eitemau o fusnes a ganlyn ar yr amserlen:

 

Dydd Mercher 24 Chwefror 2021 -

 

·         Eitem Dadl ar y cyd â Senedd Ieuenctid Cymru (45 munud)

Dydd Mercher 3 Mawrth 2021 –

 

·         Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu: A ddylid datganoli darlledu?  (30 munud) – gohiriwyd tan 17 Mawrth

·         Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon: Ymchwiliad i effaith Covid-19, a’r modd y mae’n cael ei reoli, ar iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru: Adroddiad 2 - Yr effaith ar iechyd meddwl a llesiant (630 munud)

·         Dadl ar ddeisebau yn ymwneud â rhaglen frechu COVID-19 (30 munud) 

Dydd Mercher 10 Mawrth 2021 –

 

·         Dadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21(iv): (30 munud)

·         Dadl ar adroddiad Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau ar adferiad hirdymor o Covid-19 (60 munud)

·         Dadl ar ddeiseb P-05-1078 Cynyddu cyllid ar gyfer gwasanaethau iechyd meddwl a gwella amseroedd aros i bobl sydd angen help mewn argyfwng (30 munud).

·         Amser a neilltuwyd i’r Ceidwadwyr Cymreig (30 munud)

 

Senedd Ieuenctid Cymru

 

Dywedodd y Llywydd wrth y Rheolwyr Busnes mai cyfres o ddatganiadau fydd yr eitem ar 24 Chwefror, yn hytrach na dadl, felly ni fydd pleidlais ar y diwedd. Amlinellodd hefyd y strwythur arfaethedig yn fanylach, gan gynnwys y byddai'r Prif Weinidog ac arweinwyr y pleidiau yn cael eu gwahodd i gyfrannu.