Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Fideo Gynhadledd Zoome

Cyswllt: Aled Elwyn Jones 

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon

2.

Cofnodion y cyfarfod blaenorol

Cofnodion:

Cytunwyd ar gofnodion cyfarfod yr wythnos diwethaf i’w cyhoeddi

 

 

3.

Trefn Busnes

3.1

Busnes yr wythnos hon

Cofnodion:

Tynnodd y Trefnydd sylw'r Rheolwyr Busnes at newid i fusnes dydd Mawrth i symud yr egwyddorion cyffredinol a'r penderfyniad ariannol mewn perthynas â Bil Etholiadau Cymru (Coronafeirws) i ddiwedd y dydd.

 

Dydd Mawrth 

 

·         Caiff y Cyfnod Pleidleisio ei gynnal ar ôl yr eitem olaf o fusnes.  

·         Nid yw'r Cyfarfod Llawn yn debygol o fynd y tu hwnt i 6.15pm. 

 

Dydd Mercher 

 

·         Caiff y Cyfnod Pleidleisio ei gynnal cyn y Ddadl Fer.  

·         Nid yw’r Cyfarfod Llawn yn debygol o fynd y tu hwnt i 5.40pm. 

 

 

3.2

Amserlen busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf

Cofnodion:

Tynnodd y Trefnydd sylw'r Rheolwyr Busnes at y newidiadau a ganlyn:

 

Dydd Mawrth 9 Chwefror 2021

 

·           Cynnig o dan Reol Sefydlog 12.24 i gynnal dadl ar y canlynol gyda'i gilydd ond gyda phleidleisiau ar wahân (30 munud)

o   Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol a Chyfyngiadau) (Diwygio) (Rhif 4) (Cymru) 2021 (15 munud)

o   Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 2) 2021

 

Dydd Mercher 10 Chwefror 2021

 

·           Dadl:  Cyfnod 3 Bil Etholiadau Cymru (Coronafeirws) (60 munud)

·           Dadl:  Cyfnod 4 Bil Etholiadau Cymru (Coronafeirws) (15 munud)

 

Dydd Mawrth 23 Chwefror 2021

 

·           Cynnig i amrywio'r drefn o ystyried gwelliannau Cyfnod 3 y Bil Cwricwlwm ac Asesu (Cymru) (5 munud)

 

Cytunodd y Pwyllgor Busnes y dylai’r Pwyllgor o’r Senedd Gyfan ddechrau am 1pm ar 9 Chwefror, gyda'r Cyfarfod Llawn yn dechrau ar ôl iddo ddod i ben. Bydd y Cyfarfod Llawn hefyd yn dechrau am 1pm ar 10 Chwefror.

 

 

3.3

Amserlen busnes y Senedd ar gyfer y tair wythnos nesaf

Cofnodion:

Cytunodd y Pwyllgor Busnes i gynnwys yr eitemau o fusnes a ganlyn ar yr amserlen:

 

Dydd Mercher 10 Chwefror 2021 -

 

·         Dadl ar Gynnig Deddfwriaethol gan Aelod (30 munud) - gohiriwyd tan 24 Chwefror

·         Amser a neilltuwyd i’r Ceidwadwyr Cymreig (30 munud) - gohiriwyd tan 24 Chwefror

·         Amser a neilltuwyd i Blaid Cymru (30 munud) gohiriwyd tan 24 Chwefrord

·         Dadl Fer – David Melding (Canol De Cymru) – gohiriwyd tan 24 Chwefror

 

 

Dydd Mercher 24 Chwefror 2021 -

 

·         Dadl ar y cyd â Senedd Ieuenctid Cymru (45 munud)

·         Dadl ar Gynnig Deddfwriaethol gan Aelod (30 munud) - gohiriwyd o 10 Chwefror

·         Amser a neilltuwyd i’r Ceidwadwyr Cymreig (30 munud) - gohiriwyd o 10 Chwefror

·         Amser a neilltuwyd i Blaid Cymru (30 munud) gohiriwyd o 10 Chwefror

·         Amser a neilltuwyd i Grŵp y Gynghrair Annibynnol dros Ddiwygio (30 munud) - gohiriwyd tan 3 Mawrth

·         Dadl Fer – David Melding (Canol De Cymru) – gohiriwyd o 10 Chwefror

Dydd Mercher 3 Mawrth 2021 –

 

·         Cynnig i Ddirymu Rheoliadau Adnoddau Dŵr (Rheoli Llygredd Amaethyddol) (Cymru) 2021 (30 munud)

·         Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu: A ddylid datganoli darlledu?  (30 munud)

·         Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon: Ymchwiliad i effaith Covid-19, a’r modd y mae’n cael ei reoli, ar iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru: Adroddiad 2 - Yr effaith ar iechyd meddwl a llesiant (60 munud)

·         Amser a neilltuwyd i Grŵp y Gynghrair Annibynnol dros Ddiwygio (30 munud) - gohiriwyd o 24 Chwefror

 

Diolchodd y Trefnydd i'r Rheolwyr Busnes am symud busnes y Senedd i wneud lle i ddeddfwriaeth y llywodraeth.

 

 

3.4

Dadleuon ar Gynigion Deddfwriaethol gan Aelod

Cofnodion:

Cytunodd y Pwyllgor Busnes i amserlennu’r cynnig canlynol i’w drafod ar 24 Chwefror:

 

NNDM7478 Mark Isherwood

Cynnig bod y Senedd: 

1.  Yn nodi cynnig ar gyfer Bil a fyddai'n gwneud darpariaeth i annog pobl i ddefnyddio iaith arwyddion Prydain (BSL) yng Nghymru, a gwella mynediad at addysg a gwasanaethau drwy gyfrwng BSL. 

2. Yn nodi mai diben y Bil fyddai:

a) sicrhau bod gan y gymuned fyddar a phobl sydd wedi colli eu clyw lais yn y gwaith o gynllunio a darparu gwasanaethau i sicrhau eu bod yn diwallu anghenion defnyddwyr gwasanaethau;

b) sefydlu grŵp cynghori cenedlaethol BSL i rymuso'r gymuned BSL yng Nghymru;

c) ei gwneud yn ofynnol i Lywodraeth Cymru gyd-gynhyrchu a chyhoeddi cynllun BSL cenedlaethol, a sefydlu nodau strategol i wella hygyrchedd gwasanaethau cyhoeddus a gwasanaethau cymorth a gwella sgiliau BSL ar draws cymdeithas; a

d) ei gwneud yn ofynnol i gyrff cyhoeddus gyd-gynhyrchu a chyhoeddi eu cynllun BSL eu hunain i ddatblygu ymwybyddiaeth a hyfforddiant BSL, a gwella mynediad at wasanaethau rheng flaen.

 

Cytunodd y Pwyllgor Busnes hefyd mai hwn fyddai'r Cynnig Deddfwriaethol olaf gan Aelod i gael ei amserlennu cyn y diddymiad.

 

 

3.5

Eitem o fusnes ar y cyd - Senedd Cymru a Senedd Ieuenctid Cymru

Cofnodion:

Cytunodd y Pwyllgor Busnes ar yr eitem o fusnes ar y cyd ar 24 Chwefror 2021, i ddechrau am 12:45 ac i’w chymryd cyn busnes y llywodraeth.

 

 

3.6

Llythyr oddi wrth Llyr Gruffydd

Cofnodion:

Cytunodd y Pwyllgor Busnes i drefnu dadl ar y Cynnig i Ddirymu Rheoliadau Adnoddau Dŵr (Rheoli Llygredd Amaethyddol) (Cymru) 2021 ar 3 Mawrth 2021. 

 

 

4.

Pwyllgorau

4.1

Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Deisebau

Cofnodion:

Cytunodd y Pwyllgor Busnes i drefnu dadl 30 munud ar ddwy ddeiseb – 'P-05-1117 Rhoi'r Brechiad Covid i Swyddogion yr Heddlu fel blaenoriaeth' a 'P-05-1119 Blaenoriaethu athrawon, staff ysgol a gofal plant ar gyfer brechiad COVID-19', a dadl 30 munud arall ar 'P-05-1078 Cynyddu'r cyllid ar gyfer gwasanaethau iechyd meddwl a gwella amseroedd aros i bobl sydd angen help mewn argyfwng. Mae angen newid!

 

 

5.

Deddfwriaeth

5.1

Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol a Chyfyngiadau) (Diwygio) (Rhif 4) (Cymru) 2021

Cofnodion:

Cytunodd y Pwyllgor Busnes i bennu dydd Llun 8 Chwefror fel terfyn amser adrodd i’r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad gyflwyno adroddiad ar y rheoliadau. 

 

 

5.2

Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 2) 2021

Cofnodion:

Cytunodd y Pwyllgor Busnes i bennu dydd Llun 8 Chwefror fel terfyn amser adrodd i’r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad gyflwyno adroddiad ar y rheoliadau. 

 

 

5.3

Bil Etholiadau Cymru (Coronafeirws) - Effaith ar Fusnes y Senedd

Cofnodion:

Cytunodd y Pwyllgor Busnes mewn egwyddor y dylai'r Senedd ddechrau ar gyfnod o doriad o 7 Ebrill tan 28 Ebrill 2021 a elwir yn gyfnod 'cyn y diddymiad', ac y dylai busnes y Senedd yn ystod y cyfnod hwn gael ei gyfyngu i'r hyn sy'n gysylltiedig â dibenion penodol y diddymiad byrrach fel yr amlinellir yn y Bil.

 

Nododd y Pwyllgor, pe bai'r Bil yn cael ei basio, y bydd cynigion manwl yn cael eu cyflwyno i'r Pwyllgor Busnes yn ei gyfarfod naill ai ar 22 Chwefror neu 1 Mawrth.

 

Cytunodd y Trefnydd i ddosbarthu canllawiau 'purdah' Llywodraeth Cymru ar gyfer cyfnod yr etholiad (toriad cyn y diddymiad a’r diddymiad) i Reolwyr Busnes.

 

 

Unrhyw faterion eraill

Bil yr Amgylchedd

 

Dywedodd y Trefnydd wrth y Rheolwyr Busnes fod ystyriaeth o Fil yr Amgylchedd bellach wedi'i rhewi tan y sesiwn seneddol nesaf, ac y byddai swyddogion yn trafod dyddiad cau diwygiedig ar gyfer adrodd ar gyfer y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol (Rhif 2).