Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Cynhadledd Fideo Zoom
Cyswllt: Aled Elwyn Jones
Rhif | Eitem |
---|---|
Introductions, apologies and substitutions Cofnodion: Croesawodd y
Llywydd Dai Lloyd, oedd yn eilyddio ar ran Sian Gwenllian |
|
Cofnodion y cyfarfod blaenorol |
|
Trefn Busnes |
|
Busnes yr wythnos hon Cofnodion: Busnes yr wythnos
hon Tynnodd y
Trefnydd sylw'r Rheolwyr Busnes at un newid i Fusnes yr Wythnos Hon – bydd
Dirprwy Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth yn gwneud y datganiad ar Ymateb
Llywodraeth Cymru i Argymhellion Terfynol Comisiwn Trafnidiaeth De-ddwyrain
Cymru yn lle'r Gweinidog. Dydd Mawrth ·
Caiff y Cyfnod Pleidleisio ei
gynnal ar ôl yr eitem olaf o fusnes. ·
Nid yw'r Cyfarfod Llawn yn debygol
o fynd y tu hwnt i 5.35pm. Dydd
Mercher ·
Caiff y Cyfnod Pleidleisio ei
gynnal cyn y Ddadl Fer. ·
Nid yw’r Cyfarfod Llawn yn debygol
o fynd y tu hwnt i 6.10pm. |
|
Amserlen busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf Cofnodion: Tynnodd y
Trefnydd sylw'r Rheolwyr Busnes at y newidiadau a ganlyn: Dydd Mawrth
26 Ionawr 2021 ·
Datganiad
gan y Gweinidog Addysg: ·
Datganiad
gan y Gweinidog Iechyd Meddwl, Llesiant a’r Gymraeg: Cyhoeddi'r polisi
cenedlaethol ar drosglwyddo a defnyddio'r Gymraeg mewn teuluoedd (30 munud) - gohiriwyd
o 15 Rhagfyr 2020 ·
Cynnig o
dan Reol Sefydlog 12.24 i gynnal dadl ar y canlynol gyda'i gilydd ond gyda
phleidleisiau ar wahân (30 munud) o
Rheoliadau
Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol a Chyfyngiadau) (Diwygio)
(Rhif 2) (Cymru) 2021 o
Rheoliadau
Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) (Diwygio) 2021 ·
Cynnig o
dan Reol Sefydlog 12.24 i gynnal dadl ar y canlynol gyda'i gilydd ond gyda
phleidleisiau ar wahân (60 munud) o
Cynnig o
dan Reol Sefydlog 26.95 i drin Bil a gaiff ei alw’n Fil Etholiadau Cymru
(Coronafeirws) fel Bil Brys y Llywodraeth o
Cynnig o
dan Reol Sefydlog 26.98(ii)) i gytuno ar amserlen ar gyfer y Bil a gaiff ei
alw’n Fil Etholiadau Cymru (Coronafeirws) ·
Dadl: Adolygiad Blynyddol y Pwyllgor Cydraddoldeb a
Hawliau Dynol 2019-20 (30 munud) – gohiriwyd o 8 Rhagfyr 2020 Dydd Mawrth
2 Chwefror 2021 ·
Datganiad
gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Diweddariad Adolygiad
Clinigol Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg (30 munud) ·
Datganiad
gan y Gweinidog Cyllid a’r Trefnydd: Cynnydd o ran Trethi Datganoledig (30
munud) ·
Gorchymyn
Deddf Llywodraeth Cymru 2006 (Diwygio) 2021 (15 munud) ·
Byddai
nodyn yn cael ei anfon at yr Aelodau yn amlinellu'r weithdrefn a'r amserlen
arfaethedig ar gyfer y Bil Brys. Byddai copi cynnar yn cael ei ddosbarthu i'r
Rheolwyr Busnes. Tynnodd y
Llywydd sylw'r Rheolwyr Busnes at amserlennu Cyfnod 3 y Bil Rhentu Cartrefi
ddydd Mercher 10 Chwefror, yr un diwrnod â Chyfnod 3 disgwyliedig y Bil Brys. |
|
Amserlen busnes y Senedd ar gyfer y tair wythnos nesaf Cofnodion: Cytunodd y
Pwyllgor Busnes i drefnu'r eitemau busnes canlynol, a chytunodd i adolygu'r
busnes ar gyfer 10 Chwefror ar ôl i'r amserlen ar gyfer y Bil Brys gael ei
chadarnhau. Dydd Mercher 10 Chwefror 2021
- ·
Dadl ar
Gynnig Deddfwriaethol gan Aelod (30 munud) ·
Amser a
neilltuwyd i’r Ceidwadwyr Cymreig (30 munud) ·
Amser a
neilltuwyd i Blaid Cymru (30 munud) |
|
Dadl Aelodau: Dewis Cynnig ar gyfer Dadl Cofnodion: Dewisodd y
Pwyllgor Busnes y cynnig a ganlyn ar gyfer dadl ar 27 Ionawr: Dai Lloyd Neil Hamilton Huw Irranca-Davies Adam Price Andrew RT Davies Nick Ramsay NNDM7463 Cynnig bod
y Senedd: 1. Yn nodi bod y Gymdeithas Strôc wedi cyhoeddi
ymchwil i brofiadau goroeswyr strôc yn ystod pandemig COVID-19, a ganfu fod
goroeswyr strôc a gofalwyr yn ei chael hi'n anodd cael gafael ar y gwasanaethau
a'r cymorth sydd eu hangen arnynt. 2. Yn nodi
bod derbyniadau mewn unedau strôc acíwt yng Nghymru wedi gostwng 12 y cant
rhwng mis Ebrill a mis Mehefin 2020 o gymharu â 2019. 3. Yn
credu, er gwaethaf pandemig COVID-19, y dylai goroeswyr strôc allu parhau i
gael gafael ar y gofal acíwt, y gwasanaethau adsefydlu, y driniaeth iechyd
meddwl a'r cymorth sydd eu hangen arnynt i adfer cystal â phosibl. 4. Yn galw
ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod byrddau iechyd lleol yng Nghymru yn parhau
â'u gwaith i wella gofal strôc yng Nghymru ac nad ydynt yn caniatáu i COVID-19
ohirio newidiadau strwythurol y mae mawr eu hangen. 5. Yn galw
ar Lywodraeth Cymru i gyhoeddi cynllun cenedlaethol newydd ar gyfer
gwasanaethau strôc pan ddaw'r cynllun cyflawni presennol ar gyfer strôc i ben
er mwyn sicrhau bod gofal i'r rhai y mae strôc yn effeithio arnynt yn cael ei
gryfhau ledled Cymru yn y dyfodol. Cynllun Cyflawni ar gyfer Strôc 2017-2020 Wedi’i
gefnogi gan: Llyr Gruffydd Mark Isherwood Neil McEvoy |
|
Deddfwriaeth |
|
Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol a Chyfyngiadau) (Diwygio) (Rhif 2) (Cymru) 2021 Cofnodion: Cytunodd y Pwyllgor Busnes i
bennu dydd Llun 25 Ionawr fel terfyn amser adrodd i'r Pwyllgor Deddfwriaeth,
Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad gyflwyno adroddiad ar y rheoliadau. |
|
Rheoliadau Diogelu
Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) (Diwygio) 2021 Cytunodd y Pwyllgor Busnes i
bennu dydd Llun 25 Ionawr fel terfyn amser adrodd i'r Pwyllgor Deddfwriaeth,
Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad gyflwyno adroddiad ar y rheoliadau. |
|
Pwyllgorau |
|
Amserlen y Senedd Cofnodion: Cytunodd y
Pwyllgor Busnes ar slotiau cyfarfod ychwanegol ar gyfer y Pwyllgor Cyfrifon
Cyhoeddus a Phwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau yn yr wythnosau
gwarchodedig. |
|
Papurau i’w nodi |
|
Llythyr gan y Bwrdd Taliadau Cofnodion: Nododd y
Pwyllgor Busnes y llythyr a chytunodd i anfon ateb interim, yn hysbysu'r Bwrdd Taliadau
bod y Pwyllgor wrthi'n adolygu'r Rheolau Sefydlog ar grwpiau. |