Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Cynhadledd Fideo Zoom
Cyswllt: Aled Elwyn Jones
Rhif | Eitem |
---|---|
Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon |
|
Y Rheolau Sefydlog |
|
Diwygio Rheolau Sefydlog mewn perthynas â Brexit Cofnodion: Cytunodd y Pwyllgor mewn egwyddor i'r newidiadau
arfaethedig a nododd y newid ychwanegol sy'n ofynnol o ganlyniad i Ddeddf yr
Undeb Ewropeaidd (Perthynas yn y Dyfodol) 2020. |
|
Sub Judice Cofnodion: Cytunodd y Pwyllgor i adolygu darpariaethau presennol y
Rheolau Sefydlog sy'n ymwneud â sub judice, a chytunodd i ddychwelyd at y
cwestiwn a ddylid cynnwys eithriadau yn y Rheolau Sefydlog neu mewn canllawiau. |
|
Diwygio'r Rheolau Sefydlog - Biliau Cydgrynhoi Cofnodion: Cytunodd y Pwyllgor ar yr ymateb arfaethedig i'r Pwyllgor
Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r
Cyfansoddiad, a chytunodd mewn egwyddor â Rheol Sefydlog 26C newydd
ddrafft a Chanllawiau drafft y Llywydd. |
|
Gweithdrefnau Busnes Cynnar Cofnodion: Cytunodd y Pwyllgor ar y cynigion a nodir yn y papur. |
|
Adolygu'r Rheolau Sefydlog mewn perthynas â grwpiau gwleidyddol Cofnodion: Ystyriodd y Pwyllgor y materion a nodir yn y papur a
gofynnodd i'r Ysgrifenyddiaeth gyflwyno papur gydag opsiynau manylach ar gyfer
diwygio Rheol Sefydlog 1.3 |
|
Gweithdrefnau Adalw Cofnodion: Ystyriodd y Pwyllgor y papur a gofynnodd am bapur pellach
gyda rhagor o fanylion yn seiliedig ar yr opsiynau a nodir yn y papur. |