Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Video Conference via Zoom

Cyswllt: Aled Elwyn Jones 

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon

Cofnodion:

Cafwyd ymddiheuriadau gan Caroline Jones.

 

2.

Cofnodion y cyfarfod blaenorol

3.

Trefn Busnes

3.1

Busnes yr wythnos hon

Cofnodion:

Busnes yr Wythnos Hon

 

Tynnodd y Trefnydd sylw'r Rheolwyr Busnes at y tri newid i Fusnes yr Wythnos Hon:

 

·         Mae'r datganiad gan Weinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru ar ailadeiladu economaidd wedi'i dynnu'n ôl.

·         Mae'r Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar Fil y Farchnad Fewnol wedi'i ohirio tan 8 Rhagfyr.

·         Mae datganiad gan y Prif Weinidog ar gyfyngiadau Coronafeirws mis Rhagfyr wedi cael ei ychwanegu fel yr eitem olaf o fusnes.

 

 

Dydd Mawrth 

 

·         Caiff y Cyfnod Pleidleisio ei gynnal ar ôl yr eitem olaf o fusnes.  

·         Nid yw'r Cyfarfod Llawn yn debygol o barhau y tu hwnt i 5.40pm. 

 

Dydd Mercher 

 

·         Cynhelir y Cyfnod Pleidleisio cyn y Ddadl Fer.  

·         Nid yw'r Cyfarfod Llawn yn debygol o barhau y tu hwnt i 7.15pm. 

 

 

 

3.2

Amserlen busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf

Cofnodion:

Tynnodd y Trefnydd sylw'r Rheolwyr Busnes at y newidiadau a ganlyn:

 

Dydd Mawrth 8 Rhagfyr 2020

 

·                     Datganiad gan Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth: Argymhellion Burns - Y Camau Nesaf (45 munud)

·                     Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar Fil Marchnad Fewnol y Deyrnas Unedig (45 munud)

·                     Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Meddyginiaethau a Dyfeisiau Meddygol (15 munud)

 

Dydd Mawrth 8 Rhagfyr 2020

 

·                     Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Meddyginiaethau a Dyfeisiau Meddygol (15 munud)

 

 

3.3

Amserlen busnes y Senedd ar gyfer y tair wythnos nesaf

Cofnodion:

Cytunodd y Pwyllgor Busnes i gynnwys yr eitemau busnes a ganlyn ar yr amserlen: Cafodd y Rheolwyr Busnes wybodaeth am faterion sy'n berthnasol i amserlennu'r ddadl ar Adroddiad 03-20.

 

Dydd Mercher 9 Rhagfyr 2020 –

·         Adroddiad y Pwyllgor Safonau Ymddygiad – Adroddiad 03-20 (15 munud)

 

Dydd Mercher 13 Ionawr 2021 -

·         Dadl ar ddeiseb P-05-1032 Deddfu i atal pobl rhag newid enwau Cymraeg tai (30 munud)

·         Amser a neilltuwyd i Grŵp Cynghrair Diwygio Annibynnol (60 munud)

 

 

4.

Pwyllgorau - Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Deisebau

4.1

Newid y trothwy ar gyfer ystyried cynnal dadl ar ddeisebau

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor Busnes y llythyr a chytunodd i ysgrifennu at y Pwyllgor Deisebau yn nodi barn y Rheolwyr Busnes ynghylch newid y trothwy ar gyfer ystyried dadleuon ar ddeisebau.

 

 

4.2

Llythyr yn gofyn am ddadl ar ddeiseb

Cofnodion:

Cytunodd y Pwyllgor Busnes i drefnu dadl ar y ddeiseb ar 13 Ionawr 2021.

 

 

5.

Y Rheolau Sefydlog

5.1

Gweithdrefnau Busnes Cynnar

Cofnodion:

Trafododd y Rheolwyr Busnes y cynigion a chytunwyd i drafod y materion a godwyd gyda'u grwpiau cyn dychwelyd at y mater yn y cyfarfod ar 15 Rhagfyr.

 

 

Unrhyw fater arall

Cytunodd y Pwyllgor Busnes i gynnal cyfarfodydd ychwanegol o'r Pwyllgor Busnes ar y dyddiau Llun canlynol rhwng 11.00am ac 1.00pm:

 

·         18 Ionawr:

·         1 Chwefror; a

·         22 Chwefror:

 

Gwrthwynebiadau

 

Gofynnodd y Llywydd i'r Rheolwyr Busnes roi rhybudd ymlaen llaw, lle y bo'n bosibl, os ydynt yn bwriadu gwrthwynebu eitemau wrth gymryd rhan o bell, yn hytrach nag yn y Siambr.

 

Coronafeirws - Cyfyngiadau mis Rhagfyr

 

Gofynnodd Darren Millar am opsiynau ar gyfer cynnal dadl (a phleidlais) ar gyfyngiadau Coronafeirws mis Rhagfyr, cyn y bleidlais ar y rheoliadau a wnaed yn gadarnhaol, y disgwylir iddynt gael eu cynnal ar 15 Rhagfyr. Cafodd y Rheolwyr Busnes wybodaeth am opsiynau yn ymwneud â dadleuon nad ydynt yn ddadleuon y Llywodraeth.