Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Video Conference via Zoom

Cyswllt: Aled Elwyn Jones 

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon

Cofnodion:

Cafwyd ymddiheuriadau gan Caroline Jones; roedd David Rowlands yn bresennol yn ei lle.

 

2.

Cofnodion y cyfarfod blaenorol

Cofnodion:

Cytunwyd ar gofnodion cyfarfod yr wythnos diwethaf i’w cyhoeddi.

 

 

3.

Trefn Busnes

3.1

Busnes yr wythnos hon

Cofnodion:

Tynnodd y Trefnydd sylw’r Rheolwyr Busnes at y ddau newid i fusnes yr wythnos hon - ychwanegu datganiad am y wybodaeth ddiweddaraf am y mesurau arbennig ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, a thrafod Rheoliadau Deddf Deddfwriaeth (Cymru) 2019 (Diwygio Atodlen 1) 2020 yn ddiweddarach yn ystod y dydd.

 

Newid yn y Siambr

 

Dywedodd y Llywydd wrth y Rheolwr Reolwyr y dylai'r Aelodau hynny sy'n eistedd wrth ymyl y seddi sy'n newid (meinciau’r Ceidwadwyr a’r llywodraeth ar hyn o bryd) hefyd adael y Siambr yn ystod y newid, a dychwelyd dim ond ar ôl i'r gloch ganu, er mwyn rhoi digon o le i’r rhai sy’n rheoli’r newid. 

 

Zoom

 

Gofynnodd y Llywydd i’r Rheolwyr Busnes atgoffa'r Aelodau hynny sy'n ymuno â'r Cyfarfod Llawn yn rhithwir wneud hynny mewn da bryd, a hynny oherwydd bod Zoom yn diweddaru ac mae’n bosibl y bydd angen iddynt roi  cyfrinair.

 

 

3.2

Amserlen busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf

Cofnodion:

Tynnodd y Trefnydd sylw'r Rheolwyr Busnes at y newidiadau a ganlyn:

 

Dydd Mawrth 8 Rhagfyr 2020

 

·                     Datganiad gan Ddirprwy Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth: Y wybodaeth ddiweddaraf am Dasglu’r Cymoedd (45munud)

·                     Y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Meddyginiaethau a Dyfeisiau Meddygol (15 munud)

·                     Dadl:  Adolygiad Blynyddol y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol 2019-20 (60 munud)

 

Tynnodd y Trefnydd sylw’r Rheolwyr Busnes at y ddadl ynghylch y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol ar 15 Rhagfyr a’r cynnig i newid y dyddiad cau i bwyllgorau gyflwyno adroddiad arno i 11 Rhagfyr. 

 

 

3.3

Amserlen busnes y Senedd ar gyfer y tair wythnos nesaf

Cofnodion:

Cytunodd y Pwyllgor Busnes i gynnwys yr eitemau busnes a ganlyn yn yr amserlen:

 

Dydd Mercher 2 Rhagfyr 2020 –

  • Adroddiad y Pwyllgor Safonau Ymddygiad – Adroddiad 02-20 (15 munud)

 

Dydd Mercher 16 Rhagfyr 2020 –

 

  • Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg: Cadernid Meddwl: ddwy flynedd yn ddiweddarach (60 munud)
  • Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu ar effaith y pandemig ar y Gymraeg (30 munud)
  • Amser a neilltuwyd i Blaid Cymru (60 munud)

 

 

4.

Deddfwriaeth

4.1

Gorchymyn Ardrethu Annomestig (Lluosydd) (Cymru) 2020

Cofnodion:

Cytunodd y Pwyllgor Busnes y bydd angen i’r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad gyflwyno adroddiad ar y Gorchymyn erbyn dydd Iau 3 Rhagfyr.

 

 

5.

Busnes y Senedd

5.1

Trefniadau cyflwyno yn ystod toriad Nadolig 2020

Cofnodion:

Cadarnhaodd y Pwyllgor Busnes y trefniadau ar gyfer gosod dogfennau yn ystod cyfnod y Nadolig, gan gynnwys cytuno ar y cynnig i glercod ar ddyletswydd fod ar alwad i gyhoeddi unrhyw ddogfennau a osodir rhwng y Nadolig a'r Flwyddyn Newydd.

 

Cadarnhaodd y Pwyllgor hefyd y trefniadau ar gyfer cyflwyno busnes y Cyfarfod Llawn yn ystod wythnos gyntaf y tymor a’r trefniadau ar gyfer cyflwyno gwelliannau i filiau. 

 

Cytunodd y Pwyllgor hefyd ar y trefniadau ar gyfer cyflwyno Cwestiynau Ysgrifenedig.

 

Diolchodd y Trefnydd i’r Comisiwn am roi trefniadau ar waith i ganiatáu i’r clercod ar ddyletswydd ymdrin ag unrhyw faterion yn ymwneud â Brexit neu Covid yn ystod y cyfnod y bydd y Senedd ar gau.

 

 

6.

Pwyllgorau

6.1

Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg

Cofnodion:

Cytunodd y Pwyllgor Busnes ar amserlen ar gyfer cyfarfod ychwanegol o’r Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg ddydd Llun, 30 Tachwedd.

 

 

6.2

Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Safonau Ymddygiad - tynnwyd yn ôl