Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Video Conference via Zoom
Cyswllt: Aled Elwyn Jones
Rhif | Eitem |
---|---|
Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon |
|
Cofnodion y cyfarfod blaenorol |
|
Trefn Busnes |
|
Busnes yr Wythnos Hon Cofnodion: Tynnodd y
Trefnydd sylw’r Rheolwyr Busnes at y ddau newid ym musnes yr wythnos hon - ychwanegiad
datganiad gan Weinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru ar Tata Steel,
a’r datganiad ar y Llwybr Newydd - Strategaeth Drafnidiaeth newydd ar gyfer
Cymru sydd bellach yn cael ei gyflwyno gan Ddirprwy Weinidog yr Economi,
Trafnidiaeth a Gogledd Cymru. Camerâu
ymlaen yn ystod y cyfnod pleidleisio Gofynnodd y
Llywydd i’r Rheolwyr Busnes ddweud wrth yr Aelodau am gychwyn eu fideos yn
ystod y cyfnod pleidleisio, fel mater o gwrteisi a threfn dda. Bydd hyn hefyd
yn ei gwneud yn haws i fynd i'r afael ag unrhyw faterion technegol yn ystod y
cyfnod pleidleisio. Aelodau'n
methu â phleidleisio Atgoffodd y
Llywydd y Rheolwyr Busnes y gellir atal y cyfarfod ar unrhyw adeg os yw’r
Aelodau’n cael anhawster pleidleisio ac os bydd 3 Aelod yn gofyn am hynny. Newidiadau Gofynnodd y
Llywydd i’r Rheolwyr Busnes atgoffa'r Aelodau i beidio â mynd i mewn i'r Siambr
nes bod y gloch wedi canu. O'r wythnos hon ymlaen, bydd y tywyswyr yn gofyn i'r
Aelodau beidio â mynd i mewn i'r Siambr tra mae gwaith glanhau ar y gweill. |
|
Amserlen Busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf Cofnodion: Tynnodd y
Trefnydd sylw'r Rheolwyr Busnes at y newidiadau canlynol: Dydd Mawrth
24 Tachwedd 2020 ·
Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws,
Teithio Rhyngwladol a Chyfyngiadau) (Diwygio) (Rhif 2) (Cymru) 2020 (30 munud) ·
Dydd Mawrth
1 Rhagfyr 2020 ·
LCM ar Fil Marchnad Fewnol y
Deyrnas Unedig (45 munud) Gofynnodd
Darren Millar i’r llywodraeth leihau'r amser ar gyfer datganiadau neu gyhoeddi
rhai fel datganiadau ysgrifenedig os oes nifer ohonynt. Cytunodd y
Pwyllgor Busnes i ymestyn dyddiad cau’r pwyllgor ar gyfer cyflwyno adroddiad ar
gyfer yr LCM ar Fil Marchnad Fewnol y Deyrnas Unedig i 26 Tachwedd 2020. |
|
Amserlen Busnes y Senedd ar gyfer y tair wythnos nesaf Cofnodion: Cytunodd y
Pwyllgor Busnes i gynnwys yr eitemau busnes a ganlyn yn yr amserlen: Dydd Mercher 9 Rhagfyr 2020 – ·
Dadl Aelodau o dan Reol Sefydlog
11.21(iv): (60 munud) ·
Dadl ar ddeiseb P-05-1010
Ymchwiliad annibynnol i'r llifogydd yn Rhondda Cynon Taf yn 2020 fel bod gwersi
yn cael eu dysgu (30 munud) ·
Amser a neilltuwyd i’r Ceidwadwyr
Cymreig (60 munud) |
|
Cynnig Deddfwriaethol gan Aelod - dewis cynnig i’w drafod Cofnodion: Cytunodd y
Pwyllgor Busnes i amserlennu’r cynnig canlynol i’w drafod ar 25 Tachwedd: NNDM7481 Janet
Finch-Saunders Cynnig bod y Senedd: 1. Yn nodi cynnig ar
gyfer Bil a fyddai'n gwneud darpariaethau i gyflwyno cynllun dychwelyd ernes ac
i leihau gwastraff yng Nghymru. 1. Yn nodi mai diben y
Bil hwn fyddai: a) creu cynllun
dychwelyd ernes ar gyfer cynwysyddion diodydd yng Nghymru, lle byddai
defnyddwyr yn talu blaendal, a fyddai’n cael ei ad-dalu wrth ddychwelyd y
cynhwysydd; b) lleihau nifer y poteli
plastig a gwydr untro, yn ogystal â chaniau dur ac alwminiwm; c) ymateb i’r nifer
cynyddol o wastraff ailgylchadwy, fel cyfarpar diogelu personol sy’n cael ei
ddefnyddio i ymladd COVID-19, lle mae nifer cynyddol o eitemau yn cael eu taflu
ac yn effeithio ar ein bywyd gwyllt a morol; a ch) cynyddu atebolrwydd, trwy roi dyletswydd ar Lywodraeth Cymru i osod
adroddiad blynyddol gerbron Senedd Cymru yn manylu ar bolisïau penodol yr
ymgymerwyd â hwy i leihau’r achosion o daflu gwastraff ailgylchadwy, a'r effaith
y mae'r rhain wedi'i chael ar wella amgylchedd naturiol Cymru. Cytunodd y
Pwyllgor Busnes hefyd i drefnu’r ddadl nesaf ar Gynnig Deddfwriaethol gan Aelod
ar gyfer 10 Chwefror 2021. |
|
Deddfwriaeth |
|
Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol a Chyfyngiadau) (Diwygio) (Rhif 2) (Cymru) 2020 Cofnodion: Rheoliadau Diogelu
Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol a Chyfyngiadau) (Diwygio) (Rhif 2)
(Cymru) 2020 Cytunodd y
Pwyllgor Busnes ar ddydd Llun 23 Tachwedd fel terfyn amser i’r Pwyllgor
Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad gyflwyno adroddiad ar y rheoliadau. |
|
Y Rheolau Sefydlog |
|
Rhaglen waith weithdrefnol Cofnodion: Rhaglen
waith weithdrefnol Cytunodd y
Pwyllgor Busnes ar y rhaglen waith a nodwyd a chytunodd hefyd i adolygu'r
gweithdrefnau ar gyfer adalw'r Senedd o dan Reolau Sefydlog 12, yn ogystal ag o
dan adolygiad Rheol Sefydlog 34 |