Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Video Conference via Zoom

Cyswllt: Aled Elwyn Jones 

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon

2.

Cofnodion y cyfarfod blaenorol

Cofnodion:

Cytunwyd ar gofnodion cyfarfod yr wythnos diwethaf i’w cyhoeddi.

 

 

3.

Trefn busnes

3.1

Busnes yr Wythnos Hon

Cofnodion:

Busnes yr Wythnos Hon

 

Tynnodd y Trefnydd sylw'r Rheolwyr Busnes at y nifer o newidiadau i agenda dydd Mawrth, fel y cytunwyd yn y cyfarfod blaenorol.

 

Egwyliau

 

Cytunodd y Pwyllgor Busnes nad oedd angen trefnu egwyliau ar gyfer yr wythnos hon, gan nad oes angen newid Aelodau mewn Cyfarfod Llawn rhithiol.

 

 

3.2

Amserlen Busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf

Cofnodion:

Tynnodd y Trefnydd sylw'r Rheolwyr Busnes at y newidiadau canlynol:

 

Dydd Mawrth 10 Tachwedd

 

·         Datganiad gan y Gweinidog Addysg: Ymdrin â chymwysterau yn 2021 (45 munud)

·         Dadl:  Cyfnod 3 ar y Bil Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) (360 300 munud)

 

Dydd Mawrth 17 Tachwedd 2020

 

·         Datganiad gan Weinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru Cynllun Adfer Economaidd (45 munud) – Gohiriwyd o 3 Tachwedd

·         Datganiad gan y Gweinidog Cyllid a’r Trefnydd: Y Model Buddsoddi Cydfuddiannol (45 munud)

·         Datganiad gan y Dirprwy Weinidog a'r Prif Chwip: Nodi Wythnos Rhyng-ffydd (45 munud)

·         Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Ardrethu Annomestig (Toiledau Cyhoeddus) (15 munud) – Gohiriwyd o 3 Tachwedd

·         Memorandwm Cydsyniad Offeryn Statudol ar Reoliadau Ymadael â’r Undeb Ewropeaidd (Addasiadau Canlyniadol) (Ymadael â'r UE) 2020 (15 munud) - Gohiriwyd o 3 Tachwedd

·         Dadl:  Ail Adroddiad Blynyddol Llywydd Tribiwnlysoedd Cymru (30 munud) – Gohiriwyd o 3 Tachwedd

·         Dadl:  Adroddiad y Grŵp Cynllunio Etholiadau (45 munud)

 

 

3.3

Amserlen Busnes y Senedd ar gyfer y tair wythnos nesaf

Cofnodion:

Cytunodd y Pwyllgor Busnes i gynnwys yr eitemau busnes a ganlyn yn yr amserlen:

 

Dydd Mercher 11 Tachwedd 2020 –

             Dadl ar Ddeiseb P-05-1060 Caniatewch i archfarchnadoedd werthu eitemau “nad ydynt yn hanfodol” yn ystod y cyfyngiadau symud (30 munud)

 

             Dadl ar adroddiad Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau: Caffael cyhoeddus yn yr economi sylfaenol (60 30 munud)

 

Dydd Mercher 25 Tachwedd 2020 –

 

  • Dadl ar Gynnig Deddfwriaethol gan Aelod (30 munud)
  • Dadl y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig ar y Fframwaith Datblygu Cenedlaethol (60 munud)
  • Amser a neilltuwyd i’r Ceidwadwyr Cymreig (60 munud)

 

 

3.4

Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Deisebau

Cofnodion:

 

Cytunodd y Pwyllgor Busnes i drefnu'r ddadl ar y ddeiseb ar gyfer dydd Mercher nesaf am 30 munud, a gofynnodd i Bwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau leihau'r amser ar gyfer eu dadl ar y diwrnod hwnnw i 30 munud i ddarparu ar gyfer hyn.

 

 

4.

Deddfwriaeth

4.1

Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 3) (Cymru) 2020

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor Busnes y bydd y rheoliadau'n cael eu hystyried gan y Senedd heddiw, a bod y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad eisoes wedi adrodd.

 

 

4.2

Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor Busnes y llythyr a chytunodd i barhau i adolygu'r broses.

 

 

5.

Cyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2021-22

5.1

Llythyr gan y Gweinidog Cyllid a’r Trefnydd:

Cofnodion:

Cytunodd y Pwyllgor Busnes ar amserlen ddiwygiedig y gyllideb, gan gynnwys dyddiad diwygiedig o 4 Chwefror i bwyllgorau gyflwyno adroddiad arni. Cytunodd y Pwyllgor Busnes hefyd ar gais y Pwyllgor Cyllid i gynnal cyfarfod ychwanegol yn ystod y toriad ar 8 Ionawr, a dywedodd y Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd y byddai'n hapus i fod yn bresennol.

 

 

6.

Busnes y Senedd

6.1

Pwyllgor y Rhanbarthau - Grŵp Cyswllt y DU

Cofnodion:

Cytunodd y Pwyllgor Busnes y dylai'r Llywydd enwebu David Rees a Russell George yn aelod a dirprwy, yn eu drefn honno, o Grŵp Cyswllt Pwyllgor Rhanbarthau'r DU ar gyfer gweddill y Senedd hon.

 

 

7.

Papurau i’w nodi

7.1

Llythyr gan y Llywydd

Cofnodion:

Nododd y Rheolwyr Busnes y llythyr yn cadarnhau sefydlu grŵp newydd y Gynghrair Annibynnol ar gyfer Diwygio, a nodi na fyddai'r grŵp yn cael ei alw yn ystod cwestiynau arweinwyr na llefarwyr.

 

 

Unrhyw Fater Arall

Y Rheolau Sefydlog

 

Cytunodd y Pwyllgor Busnes i drefnu cyfarfodydd ar wahân i drafod newidiadau i'r Rheolau Sefydlog cyn diwedd y Pumed Senedd.

 

Aelodaeth Pwyllgorau

 

Cytunodd y Pwyllgor Busnes i gyflwyno cynigion i ethol Caroline Jones i'r Pwyllgor Busnes, a Mark Reckless i'r Pwyllgor Cyllid.

 

Cytunodd y Pwyllgor hefyd i ofyn i grŵp y Gynghrair Annibynnol ar gyfer Diwygio ystyried derbyn lle ar y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol a oedd gynt gan Mandy Jones, cyn gwneud unrhyw benderfyniadau pellach ynghylch dyrannu lleoedd pwyllgor i'r grŵp hwnnw.

 

 

Cyfarfodydd Llawn yr Wythnos Nesaf

 

Trafododd y Rheolwyr Busnes y posibilrwydd o ddychwelyd i fformat hybrid ar gyfer cyfarfodydd yr wythnos nesaf, a chytunwyd i drafod ymhellach gyda'u grwpiau cyn i'r Llywydd wneud penderfyniad.