Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Video Conference via Zoom
Cyswllt: Aled Elwyn Jones
Rhif | Eitem |
---|---|
Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon |
|
Cofnodion y cyfarfod blaenorol Cofnodion: Cytunwyd ar gofnodion y cyfarfod blaenorol i’w cyhoeddi. |
|
Trefn busnes |
|
Busnes yr Wythnos Hon Cofnodion: Tynnodd y Trefnydd
sylw'r Rheolwyr Busnes at y tri newid i fusnes dydd Mawrth: ychwanegu datganiad
gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol; gohirio Rheoliadau Diogelu
Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 2) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 8)
(Caerffili) 2020; a thynnu Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws)
(Swyddogaethau Awdurdodau Lleol) (Cymru) 2020 yn ôl. Egwyl /
newid Cytunodd y
Rheolwyr Busnes i gael un egwyl dydd Mawrth a dau egwyl dydd Mercher. Dywedodd y
Llywydd wrth y Rheolwyr Busnes y bydd y gloch yn cael ei chanu ar ddiwedd pob
egwyl, i roi rhybudd y gall Aelodau ddod i mewn i'r Siambr a bod busnes ar fin
ailddechrau. Terfyn
amser Datganiadau 90 Eiliad Dywedodd y
Llywydd wrth y Rheolwyr Busnes mai'r terfyn amser ar gyfer cyflwyno datganiadau
90 eiliad fydd 10am – yr un peth â chwestiynau amserol. Os nad yw pob slot ar
gyfer y diwrnod hwnnw yn cael eu llenwi, gall y Llywydd ddefnyddio ei
disgresiwn i dderbyn cais hwyr. Gwelliannau
i gynigion Yn y
sefyllfa bresennol ac o ystyried hyd y dyddiau busnes, dywedodd y Llywydd wrth
y Rheolwyr Busnes y bydd yn defnyddio ei phŵer i ddad-ddethol gwelliannau
pan fydd o’r farn bod hynny’n briodol at ddibenion cynnal busnes y Senedd yn
gywir. |
|
Amserlen Busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf Cofnodion: Tynnodd y
Trefnydd sylw'r Rheolwyr Busnes at yr amserlen ddiwygiedig, a ddosbarthwyd y
bore yma, a oedd yn ychwanegu Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau
Coronfeirws) (Rhif 2) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 11) (Blaenau Gwent, Pen-y-bont ar
Ogwr, Merthyr Tudful a Chasnewydd ac ati) 2020 i 29 Medi. |
|
Amserlen Busnes y Senedd ar gyfer y tair wythnos nesaf Cofnodion: Gofynnodd y
Llywydd i'r Ysgrifenyddiaeth am bapur ar sut y gellid defnyddio'r amser sydd ar
gael ar gyfer busnes dydd Mercher yn fwy effeithlon. Cytunodd y Pwyllgor Busnes
i adolygu'r busnes ar gyfer 7 Hydref er mwyn lleihau hyd cyffredinol y
cyfarfod. Cytunodd y Pwyllgor
Busnes i gynnwys yr eitemau busnes a ganlyn yn yr amserlen: Dydd Mercher 14 Hydref 2020 – ·
Dadl Aelodau o dan Reol Sefydlog
11.21(iv) (60 munud) ·
Amser a neilltuwyd i’r Ceidwadwyr
Cymreig (60 munud) ·
Amser a neilltuwyd i Blaid Brexit
(60 munud) |
|
Dadl Aelodau: Dewis Cynnig ar gyfer Dadl Cofnodion: Trafododd y
Pwyllgor Busnes y cynigion a gyflwynwyd a chytunwyd i amserlennu’r cynnig
canlynol i'w drafod ar 30 Medi: NNDM7384
Jack Sargeant (Alun a Glannau Dyfrdwy) Cynnig bod y Senedd: 1. Yn nodi: a) y niwed y mae tlodi'n ei wneud i gyfleoedd bywyd ac
nad yw gwaith bellach yn llwybr gwarantedig allan o dlodi; b) bod y pandemig wedi gorfodi mwy o bobl i mewn i dlodi
gyda niferoedd cynyddol o breswylwyr yn gorfod troi at gymorth elusennol fel
banciau bwyd; c) yr oedd twf y DU, hyd yn oed cyn y pandemig, yn wael
a'n bod yn wynebu'r her gynyddol o awtomeiddio, sy'n gosod niferoedd cynyddol o
swyddi mewn perygl; d) bod incwm sylfaenol cyffredinol yn rhoi mwy o reolaeth
i bobl dros eu bywydau, yn lleddfu tlodi ac, yn ogystal, yn cael effaith
gadarnhaol ar iechyd meddwl; e) y byddai incwm sylfaenol cyffredinol yn creu swyddi ac
yn annog pobl i fanteisio ar gyfleoedd hyfforddi; f) bod incwm sylfaenol cyffredinol yn rhoi'r lle i bobl
gymryd mwy o ran yn eu cymuned a chefnogi eu cymdogion. 2. Yn galw ar
Lywodraeth Cymru: a) i sefydlu treial incwm sylfaenol cyffredinol yng
Nghymru; b) i lobïo
Llywodraeth y DU am gyllid i sefydlu incwm sylfaenol cyffredinol ledled Cymru. Cefnogwyr: Adam Price
(Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr) Alun Davies
(Blaenau Gwent) Bethan
Sayed (Gorllewin De Cymru) Dai Lloyd
(Gorllewin De Cymru) Dawn Bowden
(Merthyr Tudful a Rhymni) Helen Mary
Jones (Canolbarth a Gorllewin Cymru Huw
Irranca–Davies (Ogwr) Jenny
Rathbone (Canol Caerdydd) John
Griffiths (Dwyrain Casnewydd) Leanne Wood
(Rhondda) Mick
Antoniw (Pontypridd) Mike Hedges
(Dwyrain Abertawe) Rhianon
Passmore (Islwyn) Sian
Gwenllian (Arfon) Cytunodd y
Pwyllgor Busnes hefyd i amserlennu’r cynnig canlynol i’w drafod ar 14 Hydref: NNDM7304 Jenny Rathbone (Canol Caerdydd) Angela Burns (Gorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro) Suzy Davies (Gorllewin De Cymru) Vikki Howells (Cwm Cynon) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1. Yn cydnabod effaith ddinistriol endometriosis sy'n effeithio ar un o bob
10 menyw yng Nghymru. 2. Yn nodi ei bod yn cymryd, ar gyfartaledd, wyth mlynedd a 26 apwyntiad
meddyg teulu i gael atgyfeiriad at arbenigwr endometriosis. 3. Yn galw am fwy o ymchwil i achosion endometriosis a thriniaethau posibl. 4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod ysgolion yn gwneud pob disgybl
yn ymwybodol o'r hyn sy'n gyfnod mislif arferol a phryd i ofyn am gyngor
meddygol. 5. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod mwy o arbenigwyr endometriosis
yn cael eu hyfforddi fel y gall pob menyw gael triniaeth arbenigol yng Nghymru. Cefnogwyr: Jack Sargeant (Alun a Glannau Dyfrdwy) |
|
Deddfwriaeth |
|
Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 2) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 10) ( Rhondda Cynon Taf) 2020 Cofnodion: Cytunodd y Pwyllgor
Busnes i bennu dyddiad cau ar gyfer cyflwyno adroddiad ddydd Llun 28 Medi i'r
Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad gyflwyno adroddiad ar y
rheoliadau. |
|
Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Swyddogaethau Awdurdodau Lleol) (Cymru) 2020 Cofnodion: Cytunodd y
Pwyllgor Busnes i bennu dyddiad cau ar gyfer cyflwyno adroddiad ddydd Llun 28
Medi i'r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad gyflwyno adroddiad
ar y rheoliadau. Rheoliadau Diogelu Iechyd
(Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 2) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 11) (Blaenau Gwent,
Casnewydd, Merthyr Tudful a Phen-y-Bont ar Ogwr etc.) 2020 Cytunodd y Pwyllgor Busnes i bennu
dyddiad cau ar gyfer cyflwyno adroddiad ddydd Llun 28 Medi i'r Pwyllgor
Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad gyflwyno adroddiad ar y rheoliadau. |
|
Y wybodaeth ddiweddaraf am y Memoranda Cydsyniad Deddfwriaethol cyfredol Cofnodion: Nododd y
Pwyllgor Busnes y sefyllfa ddiweddaraf o ran Memoranda Cydsyniad Deddfwriaethol
a dyddiad arfaethedig yn y Cyfarfod Llawn ar gyfer y memorandwm cydsyniad
deddfwriaethol ar y Bil Tân a Diogelwch. Cytunodd y
Pwyllgor i beidio â chyfeirio'r Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol ar y
Bil Pysgodfeydd i graffu arno. |
|
Pwyllgorau |
|
Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Deisebau Cofnodion: Cytunodd y
Pwyllgor Busnes i drefnu'r ddwy ddadl yn nhymor yr hydref ac i gael ei arwain
gan y Pwyllgor Deisebau ar amseriad y dadleuon. Awgrymodd y Rheolwyr Busnes y
gallai'r Pwyllgor Deisebau ystyried adolygu nifer y llofnodion sy'n ofynnol ar
gyfer dadl. |
|
Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig Cofnodion: Cytunodd y
Pwyllgor Busnes i drefnu dadl a arweinir gan bwyllgor ar y Fframwaith Datblygu
Cenedlaethol ym mis Tachwedd. |
|
Ceisiadau o ran amserlen pwyllgorau Cofnodion: Cytunodd y
Pwyllgor Busnes i'r ceisiadau canlynol gan bwyllgorau am slotiau cyfarfod yn
ystod wythnos olaf yr hanner tymor: ·
Cyfarfod bore dydd Mercher 21
Hydref i’r Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg ar gyfer sesiwn Weinidogol olaf
gyda'r Gweinidog Addysg mewn perthynas â'r Bil Cwricwlwm ac Asesu (Cymru). ·
Cadw slot i’r Pwyllgor Cyllid os
bydd ei angen i gynnal cyfarfod y mae'n ceisio ei drefnu gydag Ysgrifennydd
Gwladol Cymru a Phrif Ysgrifennydd y Trysorlys. ·
Cynnal cyfarfod o’r Pwyllgor
Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau a drefnwyd yn wythnos 10 ddydd
Gwener 27 Tachwedd yn hytrach na dydd Llun 23 Tachwedd, gan fod y pwyllgor yn cynnal
trafodion Cyfnod Dau ar y Bil Rhentu Cartrefi (Diwygio) (Cymru). Cytunodd y
Pwyllgor Busnes hefyd i adolygu amseriad slot prynhawn Llun i 13:30 – 17:00. Cytunodd y Pwyllgor Busnes i'r dull
arfaethedig o’r modd y mae’r ysgrifenyddiaeth yn casglu ceisiadau pwyllgorau i
newidiadau i'r amserlen a chyfarfodydd wythnos gwarchodedig, a chyflwyno'r
rhain mewn un papur. |
|
Papurau i'w nodi |
|
Llythyr gan y Trefnydd a’r Cwnsler Cyffredinol: Cofnodion: Nododd y
Pwyllgor Busnes y llythyr. |
|
Llythyr gan Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig: Cofnodion: Nododd y
Pwyllgor Busnes y llythyr. |
|
Unrhyw Fater Arall Aelodaeth Pwyllgorau Cytunodd y Pwyllgor Busnes i
gyflwyno cynnig i ethol Caroline Jones yn aelod o’r Pwyllgor Cydraddoldeb,
Llywodraeth Leol a Chymunedau ddydd
Mercher, ac i gyflwyno cynnig i ethol aelodau i bwyllgor y Llywydd. |