Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Video Conference via Zoom
Cyswllt: Aled Elwyn Jones
Rhif | Eitem |
---|---|
Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon |
|
Cofnodion y cyfarfod blaenorol Cofnodion: Cytunwyd ar gofnodion y cyfarfod blaenorol i’w cyhoeddi. |
|
Trefn busnes |
|
Busnes yr Wythnos Hon Cofnodion: Amseru ar
gyfer datganiadau Ymgynghorodd
y Llywydd â'r Rheolwyr Busnes a chadarnhaodd y dylai llefarwyr siarad unwaith
am uchafswm o bum munud yn ystod datganiadau. Cadarnhaodd hefyd fod pob Aelod
arall yn parhau i gael ei gyfyngu i un funud yr un mewn cyfarfodydd rhithwir a
hybrid, ac y bydd yn dychwelyd i alw'r Ceidwadwyr yn gyntaf bob amser ar
ddatganiadau. Amseru ar gyfer Cwestiynau Llafar Cadarnhaodd
y Llywydd y bydd yr holl gwestiynau atodol yn parhau i gael eu cyfyngu i un
funud. Cadarnhaodd
y Llywydd hefyd y bydd cwestiynau Arweinwyr a Llefarwyr yn parhau i gael eu
cyfyngu i un funud y cwestiwn (3 chwestiwn i'r Ceidwadwyr a Phlaid Cymru a 2 i
Blaid Brexit). Mygdau yn y
Siambr Dywedodd y
Llywydd wrth y Rheolwyr Busnes y gellir gwisgo mygydau yn y Siambr, ond nad oes
eu hangen, ac y dylai Aelodau eu tynnu wrth siarad. |
|
Amserlen Busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf Cofnodion: Tynnodd y
Trefnydd sylw'r Rheolwyr Busnes at yr amserlen ddiwygiedig, a ddosbarthwyd y
bore yma, a oedd yn ychwanegu dwy gyfres arall o reoliadau at grŵp dydd
Mawrth 22 Medi: Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 2)
(Cymru) (Diwygio) (Rhif 9) 2020 a Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau
Coronafeirws) (Swyddogaethau Awdurdodau Lleol) (Cymru) 2020. |
|
Amserlen Busnes y Senedd ar gyfer y tair wythnos nesaf Cofnodion: Trafododd y
Pwyllgor Busnes y llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor ar Ddiwygio Etholiadol y
Senedd ynghyd â'r papur, a chytunodd i drefnu'r ddadl ar 7 Hydref ynghyd ag
eitemau eraill o fusnes: Dydd Mercher 7 Hydref 2020 – ·
Dadl ar adroddiad y Pwyllgor
Cyllid: - Ymchwiliad i broses ddeddfwriaethol ar gyfer y gyllideb (60 munud) ·
Dadl ar adroddiad y Pwyllgor ar
Ddiwygio Etholiadol y Senedd: Diwygio’r Senedd: y camau nesaf (30 munud) ·
Dadl ar adroddiad y Pwyllgor
Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau: Amlygu’r materion: anghydraddoldeb
a’r pandemig (60 munud) ·
Amser a neilltuwyd i Blaid Cymru
(60 munud) |
|
Busnes y Senedd |
|
Trefniadau ar gyfer busnes y Senedd yn nhymor yr hydref Cofnodion: Cytunodd y Pwyllgor
Busnes i drefnu seibiannau yfory ar ôl y Datganiad a Chyhoeddiad Busnes ac ar
ôl y Datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, er mwyn
galluogi Aelodau i gyfnewid yn y Siambr. Penderfynodd
y Pwyllgor y byddai’n gofyn i'r Aelodau Annibynnol gytuno pryd y byddent yn
bresennol yn y Siambr, ac os na allant benderfynu rhyngddynt, yna gellir cynnal
pleidlais arnynt. Nododd y
Pwyllgor y bydd diweddariad ar opsiynau ar gyfer cynyddu nifer yr Aelodau sy’n
gallu bod yn bresennol yn y Siambr ar unrhyw un adeg yn cael ei ddarparu ar ôl
cyfarfod y Comisiwn ddiwedd mis Medi; a hefyd nododd y
trefniadau ar gyfer treialu cyfarfodydd
hybrid o ran pwyllgorau, fel y nodir yn yr Atodiad i’r papur. Cytunodd y
Rheolwyr Busnes y byddai'n ddefnyddiol cael rhagolwg hirach o fusnes y
llywodraeth a busnes nad yw’n fusnes y llywodraeth os yw'n bosibl, er mwyn
helpu Aelodau i gynllunio eu presenoldeb. |
|
Deddfwriaeth |
|
Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 2) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 6) 2020 Cofnodion: Cytunodd y
Pwyllgor Busnes i bennu dyddiad cau ar gyfer cyflwyno adroddiad ddydd Iau 17
Medi i'r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad gyflwyno adroddiad
ar y rheoliadau. |
|
Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 2) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 7) 2020 Cofnodion: Cytunodd y
Pwyllgor Busnes i bennu dyddiad cau ar gyfer cyflwyno adroddiad ddydd Iau 17
Medi i'r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad gyflwyno adroddiad
ar y rheoliadau. |
|
Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 2) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 8) (Caerffili) 2020 Cofnodion: Cytunodd y
Pwyllgor Busnes i bennu dyddiad cau ar gyfer cyflwyno adroddiad ddydd Llun 21
Medi i'r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad gyflwyno adroddiad
ar y rheoliadau. Rheoliadau
Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 2) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 9)
2020 Cytunodd y
Pwyllgor Busnes i bennu dyddiad cau ar gyfer cyflwyno adroddiad ddydd Llun 21
Medi i'r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad gyflwyno adroddiad
ar y rheoliadau. Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau
Coronafeirws) (Swyddogaethau Awdurdodau Lleol) (Cymru) 2020 Cytunodd y Pwyllgor Busnes i bennu
dyddiad cau ar gyfer cyflwyno adroddiad ddydd Llun 21 Medi i'r Pwyllgor
Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad gyflwyno adroddiad ar y rheoliadau. |
|
Rheoliadau Gofynion y Cwricwlwm (Diwygio paragraff 7(6) o Atodlen 17 i Ddeddf y Coronafeirws 2020) (Cymru) 2020 Cofnodion: Cytunodd y
Pwyllgor Busnes i bennu dyddiad cau ar gyfer cyflwyno adroddiad ddydd Iau 24
Medi i'r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad gyflwyno adroddiad
ar y rheoliadau. |
|
Y wybodaeth ddiweddaraf am y Memoranda Cydsyniad Deddfwriaethol cyfredol Cofnodion: Nododd y
Pwyllgor Busnes y sefyllfa ddiweddaraf o ran Memoranda Cydsyniad
Deddfwriaethol. Cytunodd y
Pwyllgor i gyfeirio’r Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Cam-drin
Domestig i'r Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau a’r Pwyllgor
Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad gyda dyddiad cau ar gyfer cyflwyno
adroddiad o 5 Tachwedd. Cytunodd y
Pwyllgor hefyd i gyfeirio'r Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil
Ardrethu Annomestig (Rhestri) (Rhif 2) i Bwyllgor yr Economi, Seilwaith a
Sgiliau a'r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad gyda dyddiad cau
ar gyfer cyflwyno adroddiad o 5 Tachwedd. |
|
Cyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru 2021-22 |
|
Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Cyllid Cofnodion: Nododd y
Pwyllgor Busnes y llythyr gan y Pwyllgor Cyllid a chytunodd ar amserlen y
gyllideb fel y'i cynigiwyd gan y llywodraeth, gan nodi hefyd ei bod yn bosibl y
bydd yn newid unwaith y bydd bwriadau Llywodraeth y DU yn hysbys. |
|
Y Rheolau Sefydlog |
|
Ariannu’r Comisiwn Etholiadol ac atebolrwydd y sefydliad – newidiadau i weithdrefnau ariannol Cofnodion: Cytunodd y
Pwyllgor Busnes ar yr adroddiad drafft, gyda gweithdrefnau diwygiedig i ddod i
rym unwaith y bydd y darpariaethau statudol perthnasol wedi dod i rym. Cytunodd
y Pwyllgor hefyd y dylid gosod yr adroddiad erbyn dydd Mercher 16 Medi 2020 er
mwyn ei ystyried yn y Cyfarfod Llawn ar 23 Medi 2020. |
|
Unrhyw Fater Arall Amseriad y Pwyllgor Busnes Cododd y Llywydd y mater o amseriad
cyfarfod y Pwyllgor Busnes, gan fod y Cyfarfod Llawn a'r pwyllgorau bellach
wedi dychwelyd i'r strwythurau arferol. Cytunodd y Rheolwyr Busnes i symud y
cyfarfod i ddydd Mawrth am 9.00am. Pwyllgor y Llywydd Gofynnodd y Llywydd i'r Ceidwadwyr
a Phlaid Cymru roi enwau eu henwebeion i'r Ysgrifenyddiaeth erbyn diwedd y dydd
ddydd Mawrth. |