Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Video Conference via Zoom

Cyswllt: Aled Elwyn Jones 

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Cyflwyniadau, ymddiheuriadau a dirprwyon

2.

Cofnodion y cyfarfod blaenorol

3.

Trefn busnes

3.1

Busnes yr wythnos hon

Cofnodion:

Dywedodd y Llywydd wrth y Rheolwyr Busnes ei bod yn bwriadu gwneud datganiad ar Srebrenica cyn dechrau'r Cyfarfod Llawn yr wythnos hon. Bydd y Prif Weinidog a David Melding hefyd yn cael eu galw i wneud datganiadau byr.

 

Dywedodd y Llywydd wrth y Rheolwyr Busnes y bydd yn cyflwyno Laura Anne Jones fel Aelod newydd o'r Bumed Senedd ac yn ei gwahodd i wneud anerchiad byr.

 

Amser dechrau ac egwyl

 

Cytunodd y Rheolwyr Busnes y dylai'r Cyfarfod Llawn gychwyn am 11.00am ac y dylai'r egwyl fod am tua 12.45pm, ar ôl Cwestiynau i'r Gweinidog Addysg. Cytunodd y Rheolwyr Busnes hefyd i'r Cyfarfod Llawn gychwyn yn gynharach am 10.00am yr wythnos nesaf.

 

 

Cwestiynau Llefarwyr ar ddatganiadau Gweinidogol

 

Ymgynghorodd y Llywydd â Rheolwyr Busnes a nodi y bydd y trefniadau ar gyfer yr wythnos hon yn aros fel yr oeddent cyn cyflwyno'r Cyfarfod Llawn rhithwir: 10 munud neu 1000 o eiriau (pa un bynnag sydd fwyaf) i Weinidogion wneud eu datganiad a hyd at 5 munud yr un i lefarwyr grwpiau i ofyn un cyfres o gwestiynau.

 

Bydd y trefniadau ar gyfer Cwestiynau Llafar hefyd yn aros yr un fath ag yr oeddent cyn cyflwyno'r Cyfarfod Llawn rhithwir: Bydd llefarwyr y Ceidwadwyr a Phlaid Cymru yn cael eu galw i ofyn 3 chwestiwn heb rybudd i'r Gweinidog. Bydd llefarwyr Plaid Brexit yn cael eu galw i ofyn 2 gwestiwn heb rybudd i 3 Gweinidog o’u dewis. Bydd yr holl gwestiynau hyn hyd at un funud yr un.

 

 

Canllawiau Cyfarfod Llawn hybrid

 

Bydd yr Ysgrifenyddiaeth yn dosbarthu canllawiau i'r Aelodau y prynhawn yma.

 

Cafodd y Rheolwyr Busnes eu hatgoffa gan y Llywydd o'r canlynol:

 

  • cynllun seddi newydd sy'n dynodi seddi penodol yn unol ag ymbellhau cymdeithasol, a chafodd y Rheolwyr Busnes eu hatgoffa i hysbysu swyddogion o enwau eu Haelodau a fydd yn gorfforol bresennol yn y Cyfarfod Llawn yr wythnos hon a ble y byddant yn eistedd;
  • pe bai'r system bleidleisio electronig newydd yn methu am unrhyw reswm, y system wrth gefn fydd y dull pleidleisio wedi'i bwysoli. Gofynnwyd i Reolwyr Busnes ddarparu enw eu pleidleisiwr enwebedig yn yr un modd ag y maent ar gyfer wythnosau blaenorol; a
  • cyfranogiad cyfartal i'r Aelodau sy'n cymryd rhan o bell ac yn y Siambr, ac na ddylai unrhyw Aelod fod â mwy o siawns o gael ei alw.

 

Aelodau Annibynnol:

Roedd y Llywydd wedi derbyn ymatebion gan Aelodau Annibynnol i'w llythyr yn egluro'r uchafswm presenoldeb oherwydd ymbellau cymdeithasol yn y Siambr ac yn gofyn iddynt enwebu rhyngddynt un Aelod i fod yn gorfforol bresennol bob wythnos. Mynegodd dau Aelod eu bod yn dymuno bod yn gorfforol bresennol yn y ddau gyfarfod, ac y byddai'r ddau arall yn bresennol yn rhithwir. 

Cytunodd y Rheolwyr Busnes y dylai'r Swyddfa Gyflwyno gynnal balot ar gyfer unrhyw Aelodau Annibynnol sy'n dymuno bod yn gorfforol bresennol, a chreu system gylchdro sy'n caniatáu i eraill fod yn bresennol mewn sesiynau diweddarach.

Bydd unrhyw ddargyfeiriad yn ystod y Cyfarfod Llawn o'r uchafswm y cytunwyd arno ar niferoedd yn unol â rheoliadau COVID yn cael ei drin fel mater o drefn.

 

Cyfnod 3

 

Dywedodd y Llywydd wrth yr Aelodau, oherwydd y rheolau ynghylch pleidleisio o bell, y byddai egwyl o 5 munud ar ôl y ddwy ddadl yn ystod Cyfnod 3, cyn pleidleisio ar y gwelliannau.

 

 

3.2

Amserlen Busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf

Cofnodion:

Tynnodd y Trefnydd sylw'r Rheolwyr Busnes at ychwanegu cyfres o reoliadau coronafeirws at yr agenda ar gyfer 15 Gorffennaf:

 

Dydd Mercher 15 Gorffennaf 2020

 

Cynnig i drafod y ddwy eitem ganlynol gyda'i gilydd ond gyda phleidleisiau ar wahân: (30 munud)

·         Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 6) 2020 

·         Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 7) 2020

 

Esboniodd y Trefnydd hefyd, yn dilyn cais yn y Pwyllgor Busnes yr wythnos diwethaf, fod y llywodraeth wedi gohirio’r ddadl ar Femorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol y Bil Amaeth tan ar ôl yr haf. Cytunodd y Pwyllgor Busnes ar derfyn amser adrodd diwygiedig, sef 24 Medi, ar gyfer y pwyllgorau sy'n trafod y Memorandwm.

 

 

 

 

3.3

Amserlen Busnes y Senedd ar gyfer y tair wythnos nesaf

Cofnodion:

Cytunodd y Pwyllgor Busnes i gynnwys yr eitemau a ganlyn ar yr amserlen:

Dydd Mercher 15 Gorffennaf 2020:

 

  • Cynnig i ddiwygio Rheol Sefydlog 18.10: Swyddogaethau Pwyllgor yn Ymwneud â Goruchwylio Swyddfa Archwilio Cymru (5 munud)
  • Cynnig i ddiwygio Rheolau Sefydlog: Y Comisiwn Etholiadol a Phwyllgor y Llywydd (5 munud)

 

Dydd Mercher 16 Medi 2020

  • Cynnig o dan Reol Sefydlog 10.5 i benodi Cadeirydd Swyddfa Archwilio Cymru (5 munud)

 

Dydd Mercher 23 Medi 2020 -

 

  • Amser a neilltuwyd i Blaid Brexit (60 munud)

 

 

 

4.

Deddfwriaeth

4.1

Amserlen Ddiwygiedig ar gyfer y Bil Rhentu Cartrefi (Diwygio) (Cymru)

Cofnodion:

Cytunodd y Pwyllgor Busnes i ymgynghori â'r Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau ar yr amserlen ddiwygiedig cyn gwneud penderfyniad, a gofyn am ymateb erbyn yr wythnos nesaf.

 

 

4.2

Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg - y Bil Cwricwlwm ac Asesu (Cymru)

Cofnodion:

 

Nododd y Pwyllgor Busnes y llythyr a chytuno ar yr amserlen arfaethedig ar gyfer y Bil Cwricwlwm ac Asesu (Cymru) gyda therfyn amser ar gyfer adrodd ar gyfer Cyfnod 1, sef 4 Rhagfyr 2020 ac ar gyfer Cyfnod 2, sef 5 Chwefror 2021.

 

 

5.

Cyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru 2021-2022

5.1

Amserlen Cyllideb Llywodraeth Cymru 2021-22

Cofnodion:

Cytunodd y Rheolwyr Busnes i ymgynghori â'r Pwyllgor Cyllid ynghylch yr amserlen arfaethedig.

 

 

6.

Pwyllgorau

6.1

Amserlen y Pwyllgorau

Cofnodion:

Cytunodd y Pwyllgor Busnes ar y dyddiadau arfaethedig i'r Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg, y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad a'r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus gwrdd yn ystod y toriad.

 

 

6.2

Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad

Cofnodion:

Cytunodd y Rheolwyr Busnes â dealltwriaeth y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad o ran amseriad rheoliadau sy'n debygol o gael eu dwyn ymlaen yn dilyn adolygiadau 3 wythnos Llywodraeth Cymru.

 

Eglurodd y Trefnydd, er bod llythyr y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad yn cyfeirio at yr adolygiad tair wythnos o gyfyngiadau yn unig, mae cyfres ehangach o reoliadau COVID-19 na'r rhai sy'n ymwneud ag iechyd (ee addysg). Dywedodd y Trefnydd y bydd angen i'r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad fod yn barod i adrodd ar y rheini hefyd.

 

 

7.

Y Cyfarfod Llawn

7.1

Dyddiadau Toriadau

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y papur

 

Cododd Darren Millar y ffaith bod gwyliau ysgolion yn aml yn wahanol ar draws Awdurdodau Lleol a bod rhai ysgolion wedi trefnu gwyliau hanner tymor o 2 wythnos ym mis Hydref i wneud iawn am agor yn ystod wythnos ychwanegol ym mis Gorffennaf. Gofynnodd i'r Pwyllgor Busnes ystyried ymhellach yr oblygiadau amserlennu toriad pythefnos ym mis Hydref oherwydd materion gofal plant i'r Aelodau, yn enwedig o gofio ein bod wedi lleihau toriad y Pasg eleni.  Bydd yr Ysgrifenyddiaeth yn cyflwyno nodyn ynghylch pa Awdurdodau Lleol sydd wedi trefnu toriad o bythefnos ym mis Hydref ac yn egluro unrhyw effaith ar ddeddfwriaeth pe bai'r toriad yn cael ei ymestyn.

 

 

8.

Rheolau Sefydlog

8.1

Sefydlu ac aelodaeth arfaethedig Pwyllgor y Llywydd

Cofnodion:

Cytunodd y Rheolwyr Busnes i gynnig y Llywydd y dylai Rheolau Sefydlog ganiatáu i naill ai'r Llywydd neu'r Dirprwy Lywydd gadeirio'r pwyllgor fel y gellid penodi'r Dirprwy Lywydd yn gadeirydd pe bai Cadeirydd y Pwyllgor Cyllid a'r Llywydd yn dod o'r un grŵp gwleidyddol. Byddai hyn yn galluogi cadeirydd y Pwyllgor Cyllid i fod yn aelod ex officio, yn cynrychioli’r pwyllgor yn unig, ac yn ychwanegol at un cynrychiolydd o bob grŵp gwleidyddol.

Cytunodd y Pwyllgor i gyflwyno cynnig i ddiwygio Rheolau Sefydlog i'w ystyried yr wythnos nesaf.

 

 

8.2

Deddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) - Diwygio Rheolau Sefydlog

Cofnodion:

Cytunodd y Pwyllgor Busnes ar yr adroddiad, a nododd y byddai cynnig yn cael ei gyflwyno i'w ystyried ar 15 Gorffennaf.

 

 

9.

Papur i’w nodi

9.1

Llythyr gan Arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig

Cofnodion:

Nododd y Rheolwyr Busnes y llythyr a chytunwyd i drafod y materion a godwyd maes o law.

 

9.

Unrhyw Fater Arall

Cofnodion:

Y Pwyllgor Craffu ar Waith y Prif Weinidog

Rhoddodd y Dirprwy Lywydd y wybodaeth ddiweddaraf i'r Rheolwyr Busnes am gyfarfod y pwyllgor ddydd Gwener diwethaf lle cytunwyd i sefydlu is-bwyllgor ar 'adferiad COVID-19', i adrodd yn ôl i'r Pwyllgor Craffu ar Waith y Prif Weinidog. Mae eu trafodaethau cychwynnol wedi bod ar gyfer pwyllgor o 5 Aelod, gydag aelodaeth symudol, ond y byddant yn ystyried cydbwysedd pleidiol a ffactorau eraill yn nes ymlaen.

Gan fod cylch gwaith arfaethedig yr is-bwyllgor yn un cyffredinol, y portffolio y byddai'n craffu arno yn bennaf fyddai gwaith y Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Pontio Ewropeaidd; fodd bynnag, wrth inni symud allan o'r adferiad, efallai y bydd yr is-bwyllgor am ehangu ei gylch gwaith. Dywedodd y Trefnydd, pe bai unrhyw bwyllgor yn dymuno edrych yn benodol ar adferiad COVID-19 yng nghyd-destun portffolio penodol (hy iechyd), y Gweinidog sydd â chyfrifoldeb am y portffolio hwnnw fyddai yn y sefyllfa orau i ymgymryd ag unrhyw waith craffu manwl.

Bydd Clerc y Pwyllgor yn gwneud cais am slotiau pwyllgor yn yr hydref bob 3 wythnos, yn ychwanegol at y slotiau a ddyrannwyd eisoes i'r Pwyllgor Craffu ar Waith y Prif Weinidog ar ddyddiau Gwener cyn toriadau.

Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Pontio Ewropeaidd

Nododd y Llywydd fod Llywodraeth Cymru mewn trafodaethau gyda'r Swyddfa Gyflwyno ynghylch ei gyfrifoldeb fel cydlynydd adferiad COVID-19. Bydd aelodau'n gallu gofyn cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol ar yr agwedd hon ar ei rôl, ond ar y ddealltwriaeth na fydd yn gallu ateb cwestiynau polisi manwl sydd o fewn portffolio Gweinidogol penodol.

Aelodau sy'n newid eu plaid wleidyddol ond sy'n aros heb grŵp gwleidyddol

Dywedodd y Llywydd y bu sawl newid yn ystod y Cynulliad hwn o ran y mater hwn, lle mae'n rhaid iddi benderfynu sut i gyfeirio at yr Aelodau hynny mewn cyhoeddiadau swyddogol. Mynegodd y Rheolwyr Busnes eu cefnogaeth pe bai'r Llywydd yn penderfynu y gellir cyfeirio at Aelodau fel rhai sy'n perthyn i unrhyw grŵp neu blaid benodol y maent yn ddymuno, ar yr amod ei fod mewn trefn.

Cyfarfod Llawn yn ystod tymor yr hydref

Dywedodd y Llywydd wrth y Rheolwyr Busnes y bydd papur ar agenda'r wythnos nesaf ynghylch amserlennu'r Cyfarfod Llawn ar gyfer tymor yr hydref.

Memoranda Cydsyniad Deddfwriaethol

Rhoddodd y Trefnydd y wybodaeth ddiweddaraf i'r Rheolwyr Busnes ar hynt y Bil Pysgodfeydd a'r Bil Rhestr Ardrethi Annomestig. Mae'r Llywodraeth yn ystyried a ddylid gosod Memoranda yr wythnos hon.