Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Zoom

Cyswllt: Aled Elwyn Jones 

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Cyflwyniadau, ymddiheuriadau a dirprwyon

2.

Cofnodion y cyfarfod blaenorol

Cofnodion:

Cytunodd y Pwyllgor ar gofnodion y cyfarfodydd ar gyfer eu cyhoeddi.

 

 

3.

Trefn busnes

3.1

Busnes yr wythnos hon

Cofnodion:

Rhoddodd y Trefnydd y wybodaeth ddiweddraf i'r Pwyllgor Busnes ynghylch ychwanegu dau ddatganiad ar gyfer y Cyfarfod Llawn ddydd Mercher, a bod yr holl ddatganiadau wedi'u hymestyn i 45 munud yr un.

 

  • Datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Coronafeirws (COVID-19) (45 munud)
  • Datganiad gan Weinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru: Ymateb i Coronafeirws (COVID-19) (45 Munud)

 

Dywedodd y Trefnydd wrth y Pwyllgor Busnes hefyd fod Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Cymru) 2020 wedi'u gohirio tan 29 Ebrill fel y gellir eu trafod ochr yn ochr â'r rheoliadau a fydd yn eu diwygio.

 

Cytunodd y Pwyllgor Busnes y dylid cynnal y Cyfarfod Llawn ddydd Mercher yr wythnos nesaf, ac y dylai ddechrau am 1.30pm. Cytunodd y Rheolwyr Busnes hefyd na fydd unrhyw doriad yn y trafodion.

 

Cytunodd y Pwyllgor Busnes i barhau â'r arfer o beidio â rhoi unrhyw gwestiynau ar y Datganiad a Chyhoeddiad Busnes.

 

Nifer yr Aelodau'n bresennol:

 

Cytunodd y Rheolwyr Busnes i barhau gyda dyrannu Aelodau ar gyfer pob grŵp o'r Cyfarfod Llawn diwethaf: 12 Llafur a'r llywodraeth, 6 Ceidwadwyr, 4 Plaid Cymru a 2 Brexit, gan roi uchafswm o 28 yn bresennol pe bai pob Aelod annibynnol yn bresennol.

 

Cytunwyd hefyd i ganiatáu i aelod arall o'r pleidiau gymryd lle eu harweinwyr pleidiau (gan gynnwys y Prif Weinidog) ar ôl yr eitem gyntaf.

 

Gofynnodd y Llywydd i swyddogion anfon nodyn at yr holl Aelodau yn eu hatgoffa o ymddygiad yn ystod cyfarfodydd Zoom.

 

 

3.2

Amserlen Busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf

Cofnodion:

Dywedodd y Trefnydd wrth y Rheolwyr Busnes am y newid canlynol i Fusnes y Llywodraeth ar gyfer y 3 wythnos nesaf:

 

Dydd Mercher 29 Ebrill 2020

 

·         Datganiad gan y Gweinidog Addysg: Coronafeirws (COVID-19) (45 munud)

·         Datganiad gan y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol: Coronafeirws (COVID-19) (45 munud)

·         Cynnig o dan Reolau Sefydlog 12.24 a 12.40 i gynnal dadl ar y ddwy eitem a ganlyn gyda'i gilydd ac y byddant yn destun un bleidlais (30 munud)

o   Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Cymru) 2020

o   Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Diwygio) (Cymru) 2020

 

Dydd Mercher 6 Mai 2020

 

·         Datganiad gan y Prif Weinidog: Coronafeirws (COVID-19) (3045 munud)

·         Datganiad gan Weinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru: Ymateb i Coronafeirws (COVID-19) (45 Munud)

·         Datganiad gan Weinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol: Coronafeirws (COVID-19) (45 munud)

·         Datganiad gan y Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Pontio Ewropeaidd: Coronafeirws (COVID-19) (45 munud)

 

Esboniodd y Trefnydd y byddai datganiadau gan y Gweinidog Iechyd a Gweinidog yr Economi bob pythefnos am yn ail â'i gilydd ar ôl yr wythnos nesaf. 

 

Gofynnodd y Rheolwyr Busnes i'r Trefnydd am ragor o wybodaeth am y datganiad gan y Cwnsler Cyffredinol sydd wedi'i drefnu ar gyfer 6 Mai.

 

Tynnodd y Trefnydd sylw'r Rheolwyr Busnes at y ffaith nad oedd Cynigion Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Biliau Amaethyddiaeth a Physgodfeydd yn ymddangos ar yr amserlen tair wythnos fel y rhagwelwyd yn flaenorol oherwydd oedi o ran cynnydd seneddol y Biliau hyn.

 

 

 

4.

Deddfwriaeth

4.1

Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol - Y Bil Masnach

Cofnodion:

Trafododd y Rheolwyr Busnes y papur a chytunwyd mewn egwyddor i gyfeirio'r Memorandwm at y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol a'r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad i graffu arno, gyda dyddiad cau ar gyfer adrodd yn ôl ddydd Iau 4 Mehefin. Mae hyn yn amodol ar gytundeb y Pwyllgor Busnes o ran amserlen ar gyfer busnes pwyllgorau.

 

 

4.2

Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau

Cofnodion:

Trafododd y Rheolwyr Busnes y llythyr a chytunwyd i ddychwelyd at y mater yn y cyfarfod nesaf, unwaith y bydd y Cabinet wedi trafod y rhaglen ddeddfwriaethol yr wythnos nesaf.

Gofynnodd y Rheolwyr Busnes hefyd i swyddogion ymchwilio i sut y gallai trafodion Cyfnod 2 weithio yn yr amgylchiadau presennol, naill ai'n rhithiol neu'n bersonol gan barchu rheolau ymbellhau cymdeithasol yr un pryd.

 

 

5.

Pwyllgorau

5.1

Ailddechrau Gweithgareddau Pwyllgorau

Cofnodion:

Cytunodd y Pwyllgor Busnes i ailddechrau gweithgareddau pwyllgorau ar gyfer busnes yn ymwneud â materion Covid-19, rhaglen ddeddfwriaethol Llywodraeth Cymru, a busnes arall sy'n hanfodol o ran amser.  Byddai amserlen pwyllgor pedair wythnos dreigl yn cael ei datblygu, mewn ymgynghoriad â chadeiryddion pwyllgorau.

 

Cytunodd y Pwyllgor Busnes y dylai'r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad ailafael yn ei gyfrifoldebau o dan Reolau Sefydlog 21.2 a 21.3. Cytunwyd hefyd y gallai'r Pwyllgor, ynghyd â Phwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau; y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg; a'r  Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon ddechrau gwneud trefniadau i gwrdd yn ystod yr wythnos yn cychwyn 27 Ebrill.

 

Cytunodd y Rheolwyr Busnes y bydd y Llywydd yn galw cyfarfod Fforwm y Cadeiryddion yr wythnos nesaf. Gofynnodd y Rheolwyr Busnes a gaiff y Cadeiryddion drafodaeth gydag aelodau'r pwyllgor cyn y cyfarfod er mwyn sicrhau'r mewnbwn a'r ymgysylltiad ehangaf posibl. Cafodd y Rheolwyr Busnes hefyd eu hannog gan y Llywydd i fynd i gyfarfod Fforwm y Cadeiryddion.

 

Cyfeiriodd y Rheolwyr Busnes at y cyfyngiadau capasiti sy'n gysylltiedig â chefnogi cyfarfodydd cyhoeddus rhithwir y pwyllgorau cyhoeddus, gan gyfyngu gweithgaredd i un cyfarfod pwyllgor ar unrhyw adeg.

                                

 

 

6.

Unrhyw Fater Arall

Cofnodion:

Memoranda Cydsyniad Deddfwriaethol

 

Esboniodd y Trefnydd nad yw'r Memoranda ar y Biliau Amaethyddiaeth a Physgodfeydd yn ymddangos ar y Datganiad a Chyhoeddiad Busnes oherwydd oedi yn yr amserlen Seneddol, ac nid yw'n glir pryd y bydd angen trafod y Memoranda. Cytunodd y Pwyllgor Busnes i ymestyn y dyddiadau cau i'r pwyllgorau ar gyfer adrodd yn ôl i 14 Mai ar gyfer y Bil Amaethyddiaeth a 21 Mai ar gyfer y Bil Pysgodfeydd.

 

Dywedodd y Trefnydd wrth y Pwyllgor Busnes hefyd fod y gwaith craffu Seneddol ar Fil yr Amgylchedd wedi cael ei oedi, felly cytunodd y Pwyllgor Busnes i ymestyn y dyddiadau cau i'r pwyllgorau ar gyfer adrodd yn ôl i 4 Mehefin.

 

Dywedodd y Trefnydd wrth y Pwyllgor Busnes hefyd bod y broses o osod Memoranda ar y Bil Ardrethu Annomestig (Rhestrau) 2020, y Bil Ardrethu Annomestig (Toiledau Cyhoeddus) 2020 a'r Bil Diogelwch Tân wedi cael ei gohirio oherwydd bod gwaith ymateb i COVID-19 yn cael ei flaenoriaethu.  Gobaith y Llywodraeth yw gosod y Memoranda ar y rhain yr wythnos nesaf.

 

Cwestiynau Ysgrifenedig

 

Cododd rheolwyr busnes yr wrthblaid faterion sy’n ymwneud ag amseroldeb a chynnwys atebion ysgrifenedig, ac roedd gan y Trefnydd bryderon ynghylch nifer a chynnwys y cwestiynau, gyda rhai ohonynt am wybodaeth a oedd eisoes ar gael i'r cyhoedd. Roedd rheolwyr busnes yr wrthblaid o'r farn nad oedd y wybodaeth ar gael i'r cyhoedd ar yr adeg y gofynnwyd y cwestiwn.  Gofynnodd y Llywydd i swyddogion roi rhagor o wybodaeth iddi er mwyn llywio trafodaeth y Pwyllgor Busnes yn y dyfodol.

 

Cyfarfodydd y Pwyllgor Busnes yn y Dyfodol

 

Cytunodd y Rheolwyr Busnes i drefnu cyfarfodydd y Pwyllgor Busnes yn y dyfodol ar ddechrau'r wythnos, gyda'r diwrnod a'r amser i'w cytuno y tu allan i'r pwyllgor.