Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Video Confrence via Zoom

Cyswllt: Aled Elwyn Jones 

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon

2.

Cofnodion y cyfarfod blaenorol

3.

Trefn busnes

3.1

Busnes yr Wythnos Hon

Cofnodion:

Rhoddodd y Trefnydd wybod i’r Rheolwyr Busnes fod y llywodraeth wedi grwpio'r egwyddorion cyffredinol a'r penderfyniad ariannol ar gyfer y Bil Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) gyda'i gilydd i'w trafod.

Cytunodd y Pwyllgor Busnes y dylid cynnal Cyfarfod Llawn ddydd Mercher yr wythnos nesaf, ac y dylai ddechrau am 1.30pm.

Cytunodd y Rheolwyr Busnes hefyd y dylid darlledu'r Cyfarfod Llawn nesaf yn fyw ac y dylid cael egwyl fer (tua 15 munud) cyn y ddadl Cyfnod 1 i ganiatáu egwyl fer, ac ar gyfer newid Aelodau os oes angen. Gofynnodd y Llywydd i'r Rheolwyr Busnes fynd yn ôl at eu grwpiau i drafod nifer eu Haelodau a fyddai'n cyfnewid yn ystod yr egwyliau hyn, gan gynghori na ddylai fod yn fwy na hanner, ac os yn bosibl llawer llai na hynny.

Gofynnodd y Llywydd hefyd i’r Rheolwyr Busnes roi adborth i'w grwpiau y dylai ail siaradwyr ar eitemau addasu eu cwestiynau er mwyn osgoi gofyn cwestiynau a ofynnwyd eisoes, fel y gall cyfarfodydd rhithwir ddefnyddio amser yn fwy effeithlon.

Cytunodd y Pwyllgor Busnes i barhau â'r arfer o beidio gofyn unrhyw gwestiynau ynghylch y Datganiad a Chyhoeddiad Busnes.

Nifer yr Aelodau sy'n bresennol:

Cytunodd y Rheolwyr Busnes y gallai rhagor o Aelodau fod yn bresennol yn y Cyfarfod Llawn, o ystyried: nid yw pellter cymdeithasol yn broblem bellach; dangoswyd bod y system TG yn gweithio'n llwyddiannus yr wythnos diwethaf; a, bydd pleidleisiau yn cael eu pwysoli. Cytunwyd i ddyblu'r dyraniad ar gyfer pob grŵp: 12 Llafur a’r llywodraeth, 6 Ceidwadwr, 4 Plaid Cymru a 2 Plaid Brexit, gan roi uchafswm o 28 yn bresennol pe bai pob Aelod annibynnol yn mynychu.

Cyfnod 1 o’r Bil Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru)

Nid oedd Darren Millar na Caroline Jones yn credu bod y ddadl yn briodol o dan yr amgylchiadau presennol. Roedd Sian Gwenllian yn hapus i'r ddadl gael ei chynnal er ei bod yn cydymdeimlo â'r safbwyntiau a fynegwyd. Nododd y Rheolwyr Busnes, gan mai busnes y llywodraeth yw hwn, mai mater i'r llywodraeth yn unig yw'r amserlennu a phwysleisiodd y Trefnydd natur hanfodol y Bil o ran ei amseriad.

Er mwyn caniatáu i'r tri chadeirydd pwyllgor gael eu galw yn y ddadl Cyfnod 1, cytunodd y Trefnydd i'r cais gan y Rheolwyr Busnes iddo gael ei ymestyn i'r hyd arferol o 60 munud.

Rhoddodd y Llywydd wybod i’r Rheolwyr Busnes y byddai pleidleisio’n digwydd drwy bwysoli pleidleisiau a thrwy alw cofrestr yr Aelodau, a bydd angen i grwpiau plaid nodi ymlaen llaw pa rai o'r Aelodau presennol fydd yn pleidleisio ar ran eu grŵp.

Adborth o'r Cyfarfod Llawn rhithwir

Roedd y Rheolwyr Busnes yn teimlo bod y Cyfarfod Llawn rhithwir wedi mynd yn dda iawn, a chytunwyd i anfon llythyr ffurfiol o ddiolch at holl staff y comisiwn a gymerodd ran.

 

 

3.2

Amserlen Busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf

Cofnodion:

Cytunodd y Rheolwyr Busnes y dylai'r Cyfarfod Llawn fod ar ddydd Mercher yn y dyfodol.

Cytunodd y Rheolwyr Busnes i ddynodi toriad yn ffurfiol rhwng 9 Ebrill a 21 Ebrill. Byddai hyn yn caniatáu stopio’r cloc ar unrhyw offerynnau statudol, a gellid defnyddio darpariaethau adalw pe bai busnes brys yn y cyfamser.

 

 

4.

Deddfwriaeth

4.1

Ymdrin ag Offerynnau Statudol

Cofnodion:

Trafododd y Rheolwyr Busnes y papur a'r llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad. Cytunwyd ar y broses a gynigiwyd yn y papur ar gyfer ystyried ac adrodd ar Offerynnau Statudol.

 

Cytunwyd hefyd i ysgrifennu at y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad i ddweud y bydd y Pwyllgor Busnes yn ystyried gwaith pwyllgorau yn ehangach yn ei gyfarfod nesaf, ac y bydd yn adolygu rôl y Pwyllgor hwnnw bryd hynny.

 

 

4.2

Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol: Y Bil Masnach

Cofnodion:

Cytunodd y Rheolwyr Busnes i ofyn i swyddogion ddechrau edrych ar y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol, a dychwelyd at y mater ymhen pythefnos i benderfynu a ddylid ei gyfeirio'n ffurfiol at bwyllgor i graffu arno.

 

 

4.3

Papur i'w nodi - Deddfwriaeth yng ngoleuni COVD-19

Cofnodion:

Nododd y Rheolwyr Busnes y papur.

 

 

4.

Unrhyw Fater Arall

Cofnodion:

Gan y cynhelir cyfarfodydd rhithwir y Pwyllgor Busnes a'r Cyfarfod Llawn yn llwyddiannus, gofynnodd y Rheolwyr Busnes i swyddogion ddarparu papur i amlinellu'r busnes hanfodol sy'n debygol o ddod i’r pwyllgorau. Bydd hyn yn caniatáu i'r Pwyllgor Busnes ystyried a allai pwyllgorau gwrdd, ac ar ba ffurf, ar ôl y toriad.