Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Gynhadledd 4B - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Aled Elwyn Jones 

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Cyflwyniadau, ymddiheuriadau a dirprwyon

Cofnodion:

Anfonodd Sian Gwenllian ei hymddiheuriadau; Roedd Dai Lloyd yn bresennol yn ei lle.

 

2.

Cofnodion y Cyfarfod Blaenorol

Cofnodion:

Cytunodd y Pwyllgor ar gofnodion y cyfarfod ar gyfer eu cyhoeddi.

 

3.

Trefn Busnes

3.1

Busnes yr wythnos hon

Cofnodion:

Dywedodd y Trefnydd fod disgwyl i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol gymryd rhan mewn cyfarfod COBRA brynhawn dydd Mercher, a gofynnodd a fyddai'r Rheolwyr Busnes yn cytuno i aildrefnu busnes fel y cynhelir dadl y Ceidwadwyr yn syth ar ôl y cwestiynau llafar am 3pm. Byddai hynny'n galluogi'r Gweinidog i ymateb i ddadl y Ceidwadwyr a chymryd rhan yng nghyfarfod COBRA. Cytunodd y Rheolwyr Busnes i aildrefnu busnes yn unol â hynny.

 

Dydd Mawrth

 

  • Cynhelir y Cyfnod Pleidleisio fel yr eitem olaf o fusnes.

 

Dydd Mercher

  • Cynhelir y Cyfnod Pleidleisio cyn y Ddadl Fer.

 

3.2

Busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf

Cofnodion:

Dosbarthodd y Trefnydd gopi diwygiedig o'r amserlen:

 

Dydd Mawrth 25 Chwefror 2020 - 

 

  • Cynnig i amrywio'r drefn ystyried ar gyfer gwelliannau Cyfnod 3 y Bil Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Ansawdd ac Ymgysylltu) (Cymru) (5 munud)

 

Dydd Mawrth 3 Mawrth 2020 -

 

·         Dadl: Cynnydd ar Fynd i'r Afael â Throseddau Casineb (60 munud)

 

3.3

Busnes y Cynulliad ar gyfer y tair wythnos nesaf

Cofnodion:

Penderfynodd y Pwyllgor Busnes ar drefn busnes y Cynulliad a chytunodd i gynnwys yr eitemau o fusnes a ganlyn ar yr amserlen:

 

Dydd Mercher 11 Mawrth 2020 –

  • Dadl ar Gynnig Deddfwriaethol gan Aelod (30 munud)
  • Dadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21(iv) (60 munud)
  • Amser a neilltuwyd i Blaid Cymru (60 munud)

 

4.

Deddfwriaeth

4.1

Llythyr gan y Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig

Cofnodion:

4.2

Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau

Cofnodion:

Nododd y Rheolwyr Busnes y llythyr a chytuno ar yr amserlen arfaethedig ar gyfer y Bil Rhentu Cartrefi (Diwygio) (Cymru) gyda 22 Mai 2020 yn ddyddiad cau ar gyfer adrodd ar gyfer Cam 1 a 16 Gorffennaf 2020 fel dyddiad cau ar gyfer adrodd ar gyfer Cam 2.

Dywedodd y Trefnydd fod y llywodraeth yn bwriadu cyflwyno'r Bil Partneriaeth Gymdeithasol ychydig cyn toriad yr haf. Gan fod y Rheolwyr Busnes am leihau'r pwysau amserlennu ar y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau, cytunwyd i ysgrifennu at y pwyllgor hwnnw ac at y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol ynghylch y Bil Partneriaeth Gymdeithasol.

 

5.

Pwyllgorau

5.1

Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Deisebau

Cofnodion:

Trafododd y Rheolwyr Busnes y llythyr a chytunwyd i drefnu dadl ar y ddeiseb.

 

5.2

Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor ar Ddiwygio Etholiadol y Cynulliad

Cofnodion:

Trafododd y Rheolwyr Busnes y cais a chytunwyd i gais y Pwyllgor i ymweld â Chaeredin ddydd Llun 23 Mawrth.

 

6.

Rheolau Sefydlog

6.1

Pleidleisio drwy ddirprwy

Cofnodion:

Trafododd y Rheolwyr Busnes y papur a chytuno ar y Rheol Sefydlog ddrafft a'r canllawiau cysylltiedig. Cytunwyd hefyd na ellid bwrw pleidlais drwy ddirprwy mewn pleidleisiau sy'n ei gwneud yn ofynnol i Aelodau sy'n cynrychioli dwy ran o dair o seddi'r Cynulliad bleidleisio o blaid y cynnig.

Bydd yr Ysgrifenyddiaeth yn cyflwyno adroddiad drafft ar newidiadau i'r Rheolau Sefydlog i'r Pwyllgor Busnes yr wythnos ar ôl hanner tymor.

 

 

6.2

Newidiadau i’r Rheolau Sefydlog sy'n deillio o newid enw'r sefydliad

Cofnodion:

Cytunodd y Rheolwyr Busnes i drafod y papur gyda'u grwpiau a dychwelyd at y papur yn y cyfarfod cyntaf ar ôl y toriad hanner tymor.

 

7.

Busnes y Cynulliad

7.1

Senedd Clwyd

Cofnodion:

Trafododd y Rheolwyr Busnes y papur a chytunwyd i drafod â'u grwpiau a chynrychiolwyr y Comisiwn i ganfod a oes awydd i ymestyn yr amserlen arfaethedig i gynnwys dydd Iau, a/neu newid yr amseroedd a ddyrennir ar gyfer y cyfarfod llawn. Bydd y Rheolwyr Busnes yn dychwelyd at y papur ar ôl hanner tymor.