Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Swyddfa’r Llywydd, 4ydd llawr - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Aled Elwyn Jones 

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Cyflwyniadau, ymddiheuriadau a dirprwyon

2.

Cofnodion y cyfarfod blaenorol

Cofnodion:

Cytunodd y Pwyllgor ar gofnodion y cyfarfod ar gyfer eu  cyhoeddi.

 

 

3.

Trefn busnes

3.1

Busnes yr wythnos hon

Cofnodion:

Dydd Mawrth

 

·         Yn dilyn cynnig a basiwyd yn y Cyfarfod Llawn ar 3 Ebrill a oedd yn atal Gareth Bennett o drafodion y Cynulliad am gyfnod o saith diwrnod calendr, gan ddechrau ddoe, dywedodd y Llywydd wrth y Rheolwyr Busnes na fydd yn galw Aelod arall o UKIP i ofyn Cwestiynau'r Arweinwyr yn ei le heddiw.

 

·         Cynhelir y Cyfnod Pleidleisio ar ôl yr eitem olaf o fusnes.

 

Dydd Mercher

 

·         Cynhelir yr holl bleidleisiau cyn y Ddadl Fer.

 

 

3.2

Amserlen Busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor Busnes amserlen busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf.

 

 

3.3

Amserlen Busnes y Cynulliad ar gyfer y tair wythnos nesaf

Cofnodion:

Penderfynodd y Pwyllgor Busnes ar drefn busnes y Cynulliad a chytunodd i gynnwys yr eitemau o fusnes a ganlyn ar yr amserlen:

 

Dydd Mercher 22 Mai 2019 –

 

·         Datganiad gan Gadeirydd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus: Craffu ar Gyfrifon 2017-18 (30 munud)

·         Dadl ar Ddeiseb P-05-784 Dibyniaeth ar gyffuriau presgripsiwn ac effeithiau diddyfnu - adnabyddiaeth a chefnogaeth (60 munud)

·         Amser a neilltuwyd i'r Ceidwadwyr Cymreig (60 munud)

 

Cais i drefnu dadl ar NNDM7031

 

Dychwelodd y Rheolwyr Busnes at eu trafodaeth ar 2 Ebrill ynghylch amserlennu dadl ar NNDM7031, a oedd yn galw ar yr Ysgrifennydd Parhaol, yn gweithredu yn unol ag Adran 37(1)(b) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006, i baratoi, at ddibenion y Cynulliad, gyda golygiadau priodol i sicrhau bod tystion yn aros yn anhysbys, adroddiad yr ymchwiliad ynghylch a oedd unrhyw dystiolaeth y cafodd gwybodaeth ei rhannu o flaen llaw heb ganiatâd mewn perthynas â'r ad-drefnu Gweinidogol ym mis Tachwedd 2017.

 

Nododd y Rheolwyr Busnes fod y Prif Weinidog, ar 4 Ebrill, wedi cyhoeddi datganiad, mewn ymateb i ddyfarniad yr Uchel Lys, yn nodi ei fwriad i gyhoeddi adroddiad yr 'ymchwiliad datgelu gwybodaeth' ar ôl cwest y crwner. Yng ngoleuni'r datganiad hwnnw, penderfynodd y Rheolwyr Busnes beidio ag amserlennu'r ddadl NNDM, gan gredu y byddai'r datganiad wedi mynd i'r afael â'r materion a godir yn y cynnig.

 

 

4.

Deddfwriaeth

4.1

Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol diwygiedig ar gyfer y Bil Awdurdodau Afonydd a Draenio Tir

Cofnodion:

Nododd y Rheolwyr Busnes y Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol diwygiedig cyn y ddadl yn y Cyfarfod Llawn y prynhawn yma a bod y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol a'r Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Materion Gwledig wedi cael gwybod am y Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol diwygiedig.

 

 

5.

Pwyllgorau

5.1

Cais gan y Pwyllgor Cyllid i gynnal ymweliad ffurfiol oddi ar y safle

Cofnodion:

Cytunodd y Rheolwyr Busnes i'r cais.

 

6.

Busnes y Cynulliad

6.1

Effaith newidiadau diweddar i aelodaeth grwpiau ar bwyllgorau a busnes y Cyfarfod Llawn

Cofnodion:

Trafododd y Rheolwyr Busnes y papur a gofynnwyd i swyddogion ddrafftio nodyn o opsiynau i'w hystyried yn eu cyfarfodydd grŵp priodol yn ddiweddarach y bore yma.

 

Cytunodd y Rheolwyr Busnes i newid cyfran yr amser a ddyrennir yn y Cyfarfod Llawn i'r Ceidwadwyr, Plaid Cymru ac UKIP i 12:10:3 yn y drefn honno.

 

Trafododd y Rheolwyr Busnes gynigion y Llywydd ar gyfranogiad UKIP yn y dyfodol i Gwestiynau Arweinwyr a Llefarwyr. Dywedodd y Llywydd y byddai'n ystyried y safbwyntiau a fynegwyd cyn gwneud penderfyniad.

 

6.2

Derbyniadwyedd cynigion

Cofnodion:

Nododd y Rheolwyr Busnes y papur.

 

Unrhyw Fater Arall

Pwyllgor Safonau - Gareth Bennett

 

Cyn y Pasg, cymeradwyodd y Cynulliad argymhelliad y Pwyllgor Safonau y dylid dileu Gareth Bennett o fod yn aelod o'r Pwyllgor hwnnw am weddill y Cynulliad hwn.  Disgwylir i'r Pwyllgor gwrdd nesaf ar 14 Mai, ac felly byddai angen gwneud unrhyw newid yr wythnos hon neu'r wythnos nesaf er mwyn iddo gael effaith mewn pryd.

 

Penderfynodd y Rheolwyr Busnes y dylid rhoi cyfle i UKIP enwebu aelod newydd a gofynnodd i'r grŵp gyflwyno enw erbyn cyfarfod yr wythnos nesaf.