Cofnodion
Lleoliad arfaethedig: Swyddfa’r Llywydd, 4ydd llawr - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Aled Elwyn Jones
Rhif | Eitem |
---|---|
Cyflwyniadau, ymddiheuriadau a dirprwyon |
|
Cofnodion y cyfarfod blaenorol Cofnodion: Cytunodd y
Pwyllgor ar gofnodion y cyfarfod ar gyfer eu cyhoeddi. |
|
Trefn busnes |
|
Busnes yr wythnos hon Cofnodion: Dydd
Mawrth ·
Cynhelir y Cyfnod Pleidleisio fel yr eitem
olaf o fusnes. Dydd
Mercher ·
Cynhelir y Cyfnod Pleidleisio cyn y Ddadl
Fer. |
|
Amserlen Busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf Cofnodion: Nododd y Pwyllgor Busnes amserlen busnes y
Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf. |
|
Amserlen Busnes y Cynulliad ar gyfer y tair wythnos nesaf Cofnodion: Penderfynodd
y Pwyllgor Busnes ar drefn busnes y Cynulliad a chytunodd i gynnwys yr eitemau
o fusnes a ganlyn ar yr amserlen: Dydd Mercher 3 Hydref 2018 - ·
Dadl ar ddeiseb P-04-682 Sgrinio Rheolaidd ar
gyfer Diabetes Math 1 mewn Plant a Phobl Ifanc (60 munud) ·
Dadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21(iv)
(60 munud) ·
Amser a neilltuwyd i Blaid Cymru (60 munud) |
|
Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.2 - cais i ailystyried cais am Gynnig Heb Ddyddiad Trafod Cofnodion: Cytunodd
Rheolwyr Busnes i ddychwelyd i'r mater ar ôl toriad yr haf. |
|
Rheolau Sefydlog |
|
Cynigion i ddiwygio Rheolau Sefydlog: Gorchmynion yn y Cyfrin Gyngor o dan Adran 116C Cofnodion: Pleidleisiodd
Rheolwyr Busnes ar a ddylid cynnwys Rheol Sefydlog 25A annibynnol ynteu diwygio
Rheol Sefydlog 27. Penderfyniad y mwyafrif oedd diwygio Rheol Sefydlog 27. Cytunodd Rheolwyr Busnes i siarad â'u grwpiau a rhoi gwybod i'r Llywydd y
tu allan i'r Pwyllgor Busnes ynghylch a fydd eu haelodau yn cefnogi'r newid i
Reol Sefydlog 27 pan gyflwynir cynnig yn y Cyfarfod Llawn yn nhymor yr hydref. |
|
Ymgynghoriad ar Filiau Cydgrynhoi Cofnodion: Nododd
Rheolwyr Busnes y papur a chytunodd i ymgynghori â Chomisiwn y Gyfraith ar y
weithdrefn amlinellol. Cytunodd Rheolwyr Busnes hefyd i ymgynghori â'u grwpiau
ar y materion a godwyd a dychwelyd i'r mater mewn cyfarfod yn y dyfodol, ynghyd
ag unrhyw ymateb a geir gan Gomisiwn y Gyfraith. |
|
Gadael yr Undeb Ewropeaidd |
|
Gweithdrefnau'r Pwyllgor Busnes ar gyfer craffu ar Brexit Cofnodion: Nododd Rheolwyr Busnes y wybodaeth
ddiweddaraf am system rhybuddio cynnar ar gyfer cywiro Offerynnau Statudol ac
ar Femoranda Cydsyniad Offeryn Statudol, a gwnaethant drafod y newidiadau
arfaethedig i'r Rheolau Sefydlog yn ymwneud â chraffu ar Offerynnau Statudol
sy'n deillio o Ddeddf yr UE (Ymadael) 2018 fel y'u nodir yn y papur |
|
Trefniadaeth busnes y Pwyllgor Busnes i hwyluso craffu ar Brexit Cofnodion: Nododd
Rheolwyr Busnes y sefyllfa ddiweddaraf o ran newidiadau posibl i amserlen y
Cynulliad a chytunwyd ar barhau i adolygu'r sefyllfa. Yn dilyn cynnig gan
Arweinydd y Tŷ, cytunodd Rheolwyr Busnes mai yn nhymor yr hydref y dylai'r
aelodau Llafur ychwanegol gael eu hethol i'r Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a
Deddfwriaethol. |
|
Enwebiad UKIP ar gyfer Comisiynydd y Cynulliad Penderfynodd
Rheolwyr Busnes ar ddychwelyd i'r mater yn nhymor yr hydref. |