Cofnodion

Lleoliad arfaethedig: Swyddfa’r Llywydd, 4ydd llawr - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Aled Elwyn Jones 

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Cyflwyniadau, ymddiheuriadau a dirprwyon

2.

Cofnodion y cyfarfod blaenorol

Cofnodion:

Cytunodd y Pwyllgor ar y cofnodion ar gyfer eu cyhoeddi.

 

3.

Trefn busnes

3.1

Busnes yr wythnos hon

Cofnodion:

Bydd Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith yn gwneud datganiad ar rownd derfynol Cynghrair y Pencampwyr ddydd Mawrth (45 munud)

 

Byddai'r Cyfnod Pleidleisio ddydd Mawrth yn cael ei gynnal ar ôl yr eitem olaf o fusnes. Cytunodd y Pwyllgor Busnes y cynhelir y Cyfnod Pleidleisio cyn y Ddadl Fer ddydd Mercher.

 

 

3.2

Amserlen Busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor Busnes amserlen busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf.

 

3.3

Amserlen Busnes y Cynulliad ar gyfer y tair wythnos nesaf

Cofnodion:

Penderfynodd y Pwyllgor Busnes ar drefn busnes y Cynulliad a chytunodd i gynnwys yr eitemau o fusnes a ganlyn ar yr amserlen:


Dydd Mercher 10 Mai 2017 -

  • Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu: Y darlun mawr: Safbwyntiau cychwynnol y Pwyllgor ar Ddarlledu yng Nghymru (60 munud)wedi'i symud i 14 Mehefin
  • Amser a neilltuwyd i'r Ceidwadwyr Cymreig (60 munud)

 

Dydd Mercher 17 Mai 2017 -

  • Amser a neilltuwyd i'r Ceidwadwyr Cymreig (1260 munud)
  • Amser a neilltuwyd i Blaid Annibyniaeth y Deyrnas Unedig (60 munud)

 

Dydd Mercher 24 Mai 2017 –

  • Dadl gan Aelodau Unigol o dan Reol Sefydlog 11.21(iv) (60 munud)
  • Amser a neilltuwyd i'r Ceidwadwyr Cymreig (60 munud)
  • Amser a neilltuwyd i Blaid Cymru (60 munud)

 

3.4

Dadl Aelod Unigol: Dewis Cynnig ar gyfer Dadl

Cofnodion:

Dewisodd y Pwyllgor Busnes gynnig ar gyfer dadl ar 10 Mai.

 

Dydd Mercher 10 Mai 2017 -

 

NNDM6288

Mike Hedges (Dwyrain Abertawe)
Steffan Lewis (Dwyrain De Cymru)
Julie Morgan (Gogledd Caerdydd)
Sian Gwenllian (Arfon)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn nodi bod plismona yn fater sydd wedi'i ddatganoli yn yr Alban a Gogledd Iwerddon.

2. Yn galw am ddatganoli plismona i Gymru.

3. Yn credu ei bod yn well cydgysylltu materion plismona arbenigol, fel polisïau gwrth-frawychiaeth, ar lefel y DU.

 

 

Cytunodd y Rheolwyr Busnes i gynnwys y Ddadl Aelod Unigol nesaf ar yr amserlen ar gyfer 24 Mai.

 

4.

Deddfwriaeth

4.1

Papur i'w nodi – Amserlen ddiwygiedig ar gyfer y Bil Anghenion Dysgu Ychwanegol a'r Tribiwnlys Addysgiadol (Cymru)

Cofnodion:

Nododd y Rheolwyr Busnes amserlen ddiwygiedig y Bil Anghenion Dysgu Ychwanegol a'r Tribiwnlys Addysgiadol ar ôl cytuno y tu allan i'r Pwyllgor i ymestyn y terfyn amser ar gyfer cyflwyno'r adroddiad ar Gyfnod 1 o 12 Mai i 24 Mai, a'r dyddiad ar gyfer cwblhau Cyfnod 2 o 14 Gorffennaf i 21 Gorffennaf. Cytunodd y Pwyllgor hefyd i gais gan Gadeirydd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg i gynnal cyfarfod ychwanegol brynhawn Llun 8 Mai i ystyried y dystiolaeth a gafwyd yn ystod Cyfnod 1, a'r adroddiad drafft. 

 

4.2

Papur i'w nodi – Llythyr gan y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon ynghylch y Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Carchardai a Llysoedd

Cofnodion:

Nododd y Rheolwyr Busnes lythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon a oedd yn nodi na fydd yn adrodd ar y cynnig cydsyniad deddfwriaethol ynghylch y Bil Carchardai a Llysoedd am fod y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg wedi ystyried y Bil ac yn llunio adroddiad ar gymalau 4-6: yr Ombwdsmon Carchardai a Phrofiannaeth; ymchwiliadau i farwolaethau mewn cartrefi diogel i blant. Nododd Jane Hutt na fyddai'r Bil hwn yn mynd ymlaen ymhellach yn San Steffan gan fod y Senedd ar fin cael ei diddymu.

 

Unrhyw fater arall

Yn dilyn penderfyniad Mark Reckless i adael grŵp UKIP, rhoddodd y Llywydd wybod i'r Rheolwyr Busnes y bydd papur ar sut y bydd hyn yn effeithio ar y Pwyllgorau yn cael ei ddosbarthu cyn cyfarfod yr wythnos nesaf, pan fydd angen i'r Rheolwyr Busnes ystyried sut i lenwi'r swyddi gwag.