Cofnodion
Lleoliad arfaethedig: Swyddfa’r Llywydd, 4ydd llawr - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Aled Elwyn Jones
Rhif | Eitem | ||||||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
Cyflwyniadau, ymddiheuriadau a dirprwyon |
|||||||||||||
Cofnodion o'r cyfarfod blaenorol Cofnodion: Cytunodd y Pwyllgor ar y cofnodion ar gyfer eu cyhoeddi. |
|||||||||||||
Trefn busnes |
|||||||||||||
Busnes yr wythnos hon Cofnodion: Byddai'r Cyfnod Pleidleisio ddydd Mawrth yn cael ei gynnal ar ôl yr eitem olaf o fusnes. Cytunodd y Pwyllgor Busnes y cynhelid y Cyfnod Pleidleisio cyn y Ddadl Fer ddydd Mercher. |
|||||||||||||
Amserlen Busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf Cofnodion: Nododd y Pwyllgor Busnes amserlen busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf. |
|||||||||||||
Amserlen Busnes y Cynulliad ar gyfer y tair wythnos nesaf Cofnodion: Penderfynodd y Pwyllgor Busnes ar drefn busnes y
Cynulliad a chytunodd i gynnwys yr eitemau o fusnes a ganlyn ar yr amserlen: Dydd Mercher 25 Ionawr 2017 -
Dydd
Mercher 8 Chwefror 2017 –
Biliau Aelod Atgoffodd y Llywydd y Rheolwyr Busnes am yr amserlen ar
gyfer y balot sydd i'w gynnal ar gyfer Biliau Aelod:
Cynigion
deddfwriaethol Aelodau Atgoffodd y Llywydd y Rheolwyr Busnes am yr amserlen ar
gyfer y ddadl sydd i'w chynnal ar gynigion deddfwriaethol Aelodau:
Dadl ar Gynigion Deddfwriaethol Aelodau – 8 Chwefror |
|||||||||||||
Dadl Aelod Unigol: Dewis Cynnig Cofnodion: Dewisodd y Pwyllgor Busnes dri chynnig ar gyfer dadl: y
cyntaf ar 25 Ionawr, a’r ail ar 15 Chwefror, gyda’r trydydd ar ddyddiad i'w
gadarnhau ar ôl hanner tymor. Dydd Mercher 25 Ionawr 2017
Julie
Morgan (Gogledd Caerdydd) Dai
Lloyd (Gorllewin De Cymru) Rhun ap
Iorwerth (Ynys Môn) Mark
Isherwood (Gogledd Cymru) Hefin
David (Caerffili) Jenny
Rathbone (Canol Caerdydd) Cynnig
bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1. Yn
galw ar Lywodraeth y DU i gynnal ymchwiliad cyhoeddus llawn i drychineb gwaed
halogedig y 1970au a'r 1980au. 2. Yn
nodi bod 70 o bobl yng Nghymru wedi marw o HIV a Hepatitis C a gawsant wrth
gael gwaed halogedig neu gynnyrch gwaed halogedig a bod eraill yn dal i fyw
gyda'r heintiau hyn. 3. Yn
cydnabod bod perthnasau mewn galar yn byw gyda chanlyniadau'r drychineb hon. 4. Yn
nodi bod Llywodraeth y DU wedi ymddiheuro ym mis Mawrth 2015 i bobl a gafodd eu
heintio gan driniaeth â gwaed halogedig ac yn nodi ymhellach nad yw'r teuluoedd
y mae hyn yn effeithio arnynt, wedi cael atebion llawn ynglŷn â'r rhesymau
pam y caniatawyd i hyn ddigwydd a'u bod yn dal i ymgyrchu dros gyfiawnder. Dydd
Mercher 15 Chwefror 2017
Hannah
Blythyn (Delyn) Jeremy
Miles (Castell-nedd) Suzy
Davies (Gorllewin De Cymru) Adam
Price (Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr) Cynnig
bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1. Yn
nodi bod mis Chwefror yn Fis Hanes LGBT, ac yn gyfle blynyddol i hyrwyddo
amrywiaeth a chydraddoldeb ledled Cymru. 2. Yn
nodi ymhellach gyfraniad pobl LGBT a mwy i'n cymunedau a'n gwlad. 3. Yn cydnabod y rôl a chwaraeir gan eiconau LGBT a
chyfeillion heterorywiol yng Nghymru, fel y dangosir gan yr arddangosfa eiconau
a chyfeillion LGBT yn y Senedd y mis hwn. 4. Yn croesawu'r cynnydd a wnaed yn y degawdau diwethaf o
ran derbyn LGBT ac o ran eu hawliau. 5. Yn credu bod angen bod yn effro i sicrhau bod hawliau
LGBT a mwy yn cael eu diogelu. 6. Yn cymryd yr awenau o ran parhau i hybu cydraddoldeb a
herio gwahaniaethu ac anghydfod, gan sicrhau bod Cymru yn genedl groesawgar i
bobl LGBT a mwy. Yn dilyn
hanner tymor (dyddiad i'w gadarnhau)
Lee
Waters Jeremy
Miles Vikki
Howells Hefin
David Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1. Yn nodi bod tua 40 y cant o'r gweithlu sy'n cael
eu cyflogi yn yr 'Economi Sylfaenol' yn cyflenwi nwyddau a gwasanaethau
hanfodol fel: seilwaith; cyfleustodau; prosesu bwyd, manwerthu a dosbarthu; ac
iechyd, addysg a gofal. 2. Yn cydnabod bod y sectorau hyn yn aml yn fwy abl
i wrthsefyll ergydion economaidd allanol a bod ganddynt gryn botensial i
sicrhau mwy o werth lleol o ddarparu nwyddau a gwasanaethau lleol. 3. Yn gresynu fod llawer o'r sectorau o fewn yr
Economi Sylfaenol yn nodedig am swyddi â thâl isel ac ansicrwydd. 4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddatblygu strategaeth i wneud yn fawr o effaith yr 'Economi Sylfaenol' ledled Cymru fel rhan o'i gwaith ar ddatblygu strategaeth economaidd newydd, gan gynnwys mesurau i wella amodau cyflogaeth yn y sectorau hynny. |
|||||||||||||
Deddfwriaeth |
|||||||||||||
Y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol atodol diwygiedig ar Fil Cymru Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor Busnes bapur gan y Llywodraeth
ynghylch Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol a Memorandwm Cydsyniad
Deddfwriaethol Atodol Diwygiedig ar gyfer Bil Cymru. Gan fod y ddadl yn y Cyfarfod Llawn yn cael ei chynnal
heddiw, cytunodd y Rheolwyr Busnes i beidio â chyfeirio'r SLCM a'r SLCM
diwygiedig at bwyllgor ar gyfer eu craffu. |
|||||||||||||
Amserlen y Cynulliad |
|||||||||||||
Dyddiadau Toriadau Cofnodion: Cadarnhaodd y Rheolwyr Busnes ddyddiadau'r toriadau yn
2017 ar gyfer y Pasg, y Sulgwyn a'r Haf, a chytunwyd ar ddyddiadau dros dro'r
toriadau yn 2017 ar gyfer hanner tymor mis Hydref a'r Nadolig.
|