Cofnodion

Lleoliad arfaethedig: Swyddfa’r Llywydd, 4ydd llawr - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Aled Elwyn Jones 

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon

2.

Cofnodion y cyfarfod blaenorol

Cofnodion:

Cytunodd y Pwyllgor ar y cofnodion i'w cyhoeddi.

3.

Trefn busnes

3.1

Busnes yr wythnos hon

Cofnodion:

Bydd Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg yn gwneud datganiad am Adolygiad Diamond o Addysg Uwch a Threfniadau Cyllid Myfyrwyr Cymru ddydd Mawrth

 

Bydd cynnig i ddiwygio Rheol Sefydlog 26 ynglŷn â Biliau Aelodau yn cael ei wneud ar ôl y datganiadau 90 eiliad ddydd Mercher.

 

Byddai’r Cyfnod Pleidleisio ar ddydd Mawrth yn digwydd ar ôl yr eitem olaf o fusnes. Cytunodd y Pwyllgor Busnes y byddai'r Cyfnod Pleidleisio yn cael ei gynnal cyn y Ddadl Fer ar ddydd Mercher.

3.2

Amserlen Busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor Busnes Amserlen Busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf.

3.3

Amserlen Busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf

Cofnodion:

Penderfynodd y Pwyllgor Busnes ar drefn busnes y Cynulliad a chytunodd i gynnwys yr eitemau o fusnes a ganlyn ar yr amserlen:

Dydd Mercher 14 Rhagfyr 2016 –

·      Datganiadau 90 Eiliad (5 munud)

·      Amser a neilltuwyd i Blaid Cymru (120 munud)

·      Amser a neilltuwyd i'r Ceidwadwyr Cymreig (60 munud)

·      Dadl Fer - Bethan Jenkins (Gorllewin De Cymru) (30 munud)

4.

Deddfwriaeth

4.1

Y Bil Anghenion Dysgu Ychwanegol a'r Tribiwnlys Addysg (Cymru)

Cofnodion:

Cytunodd y Rheolwyr Busnes, mewn egwyddor, i gyfeirio’r Bil Anghenion Dysgu Ychwanegol a'r Tribiwnlys Addysg (Cymru) at y  Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg i’w drafod.

Cytunodd y Rheolwyr Busnes i ohirio penderfyniad ynghylch amserlen y Bil a’i drafod mewn cyfarfod yn y dyfodol, i roi amser i ymgynghori â'r Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg.

4.2

Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar Fil Cymru

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor Busnes bapur gan y Llywodraeth ynghylch Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol mewn perthynas â Bil Cymru.

 

Cytunodd y Rheolwyr Busnes i gyfeirio'r Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol at y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol er mwyn iddo graffu arno. Cytunodd y Pwyllgor Busnes hefyd y dylai’r Pwyllgor gyflwyno adroddiad ar y Memorandwm erbyn dydd Iau, 12 Ionawr 2017.

 

Rhoddodd y Llywodraeth hefyd wybod i’r rheolwyr busnes y gall cynnig cydsyniad deddfwriaethol atodol godi yn dilyn diwygiadau a wneir i'r Bil.

4.3

Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar Fil Cyflenwadau Meddygol y Gwasanaeth Iechyd (Costau)

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor Busnes bapur gan y llywodraeth ynghylch Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol atodol mewn perthynas â Bil Cyflenwadau Meddygol y Gwasanaethau Iechyd (Costau).

Cytunodd y Rheolwyr Busnes i gyfeirio'r Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol at y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon er mwyn iddo graffu arno. Cytunodd y Pwyllgor Busnes hefyd y dylai’r Pwyllgor gyflwyno adroddiad ar y Memorandwm erbyn dydd Mawrth 17 Ionawr 2017 er mwyn medru trafod y Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol yn y Cyfarfod Llawn ddydd Mawrth 17 Ionawr 2017.

4.4

Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Addysg Uwch ac Ymchwil

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor Busnes bapur gan y Llywodraeth ynghylch Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol mewn perthynas â Bil Addysg Uwch ac Ymchwil.

Cytunodd y Rheolwyr Busnes i gyfeirio'r Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol at y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg er mwyn iddo graffu arno.

Cytunodd y Rheolwyr Busnes hefyd y dylai’r Pwyllgor gyflwyno adroddiad ar y Memorandwm erbyn dydd Iau, 12 Ionawr 2017 er mwyn medru trafod y Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol yn y Cyfarfod Llawn ddydd Mawrth 17 Ionawr 2017.

5.

Defnyddio amser yn y Cyfarfod Llawn

5.1

Biliau Aelodau-y weithdrefn ar gyfer dadleuon ar Filiau Arfaethedig

Cofnodion:

Ystyriodd y rheolwyr busnes ganllawiau drafft sydd i'w dosbarthu i’r Aelodau cyn cyflwyno gweithdrefn newydd ar gyfer trafod deddfwriaeth arfaethedig gan Aelodau yn y Cyfarfod Llawn.

Trafododd y Pwyllgor y drafft gan gytuno ar y newidiadau a oedd i’w gwneud. Cytunodd y Clerc i ddosbarthu’r drafft diwygiedig drwy’r e-bost i gytuno arno.  

6.

Y Pwyllgor Busnes

6.1

Grwpiau a chynrychiolaeth ar y Pwyllgor Busnes

Cofnodion:

Bu'r Pwyllgor Busnes yn ystyried papur ar Grwpiau a Chynrychiolaeth ar y Pwyllgor Busnes.

Cytunodd y Pwyllgor i ddiystyru opsiwn 1, ac i ysgrifennu at y 3 aelod nad oeddent yn perthyn i’r un Grŵp i ofyn am eu barn am y dewisiadau posibl eraill.