Cofnodion

Lleoliad arfaethedig: Swyddfa’r Llywydd, 4ydd llawr - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Aled Elwyn Jones 

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Cyflwyniadau, ymddiheuriadau a dirprwyon

2.

Cofnodion y cyfarfod blaenorol

Cofnodion:

Cytunodd y Pwyllgor ar y cofnodion ar gyfer eu cyhoeddi.

 

3.

Trefn busnes

3.1

Busnes yr wythnos hon

Cofnodion:

Atgoffodd y Llywydd y Rheolwyr Busnes y byddai’r coffâd am Aberfan yn cael ei gynnal ddydd Mercher; byddai Dawn Bowden yn cael ei galw ac yna pob arweinydd plaid, gyda munud o ddistawrwydd i gloi.

 

Symudwyd y ddadl ar adroddiad y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol ar Fil Cymru i’r eitem olaf cyn y cyfnod pleidleisio.

 

Byddai’r Cyfnod Pleidleisio ar ddydd Mawrth yn digwydd ar ôl yr eitem olaf o fusnes. Cytunodd y Pwyllgor Busnes y cynhelir y Cyfnod Pleidleisio cyn y Ddadl Fer ddydd Mercher.

 

3.2

Amserlen Busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor Busnes amserlen busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf.

 

3.3

Amserlen Busnes y Cynulliad ar gyfer y tair wythnos nesaf

Cofnodion:

Penderfynodd y Pwyllgor ar drefn busnes y Cynulliad a chytunodd i aildrefnu’r eitemau a ganlyn:


Dydd Mercher 9 Tachwedd 2016 -

  • Amser a neilltuwyd i Blaid Cymru (120 60 munud)
  • Penderfynodd y Pwyllgor Busnes ar drefn busnes y Cynulliad a chytunodd i gynnwys yr eitemau o fusnes a ganlyn ar yr amserlen:

 

Dydd Mercher 2 Tachwedd 2016 -

  • Datganiadau 90 Eiliad (5 munud)

 

Dydd Mercher 9 Tachwedd 2016 -

  • Datganiadau 90 Eiliad (5 munud)
  • Dadl gan Aelodau Unigol o dan Reol Sefydlog 11.21(iv) (60 munud)

 

Dydd Mercher 16 Tachwedd 2016 -

  • Datganiadau 90 Eiliad (5 munud)
  • Cynnig i gymeradwyo Cyllideb Comisiwn y Cynulliad ar gyfer 2017-18 (30 munud)
  • Amser a neilltuwyd i Blaid Cymru (60 munud)
  • Amser a neilltuwyd i’r Ceidwadwyr Cymreig (60 munud)
  • Amser a neilltuwyd i Blaid Annibyniaeth y Deyrnas Unedig (60 munud)

 

 

4.

Deddfwriaeth

4.1

Y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Plant a Gwaith Cymdeithasol

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor Busnes bapur gan y Llywodraeth ynghylch Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol mewn perthynas â Bil Cymru.

 

Cytunodd y Rheolwyr Busnes i gyfeirio’r Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol at y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg er mwyn iddo graffu arno. Cytunodd y Pwyllgor Busnes hefyd y dylai’r Pwyllgor gyflwyno adroddiad ar y Memorandwm erbyn dydd Iau 24 Tachwedd 2016, er mwyn gallu trafod y Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol yn y Cyfarfod Llawn ddydd Mawrth 29 Tachwedd 2016.

 

4.2

Biliau Aelodau

Cofnodion:

Ar ôl ymgynghori â’r Grwpiau Plaid, trafododd y Rheolwyr Busnes bapur yn nodi cynigion ar gyfer newid y drefn bresennol ar gyfer cyflwyno Biliau Aelodau gyda’r posibilrwydd o newidiadau dilynol i’r Rheolau Sefydlog.

 

Cytunodd y Rheolwyr Busnes y dylai’r Rheolau Sefydlog gael eu diwygio i gynnwys proses ddiwygiedig ar gyfer Biliau Aelodau. Byddai’r newidiadau hynny yn cynnwys cadw’r broses bresennol o ddarparu wybodaeth cyn y balot ond rhoi llai o wybodaeth yn gyffredinol (gan gynnwys yr angen i ymgynghori), a chynyddu’r amser sydd gan Aelod i gyflwyno Bil o 9 i 13 mis. Cytunodd y Pwyllgor hefyd y byddai’n ystyried y posibilrwydd o’i gwneud yn ofynnol cynnwys rhywfaint o wybodaeth am gostau ac arbedion yn y cyfnod pryd y mae’n cael caniatâd i fwrw ymlaen.

 

Gofynnodd y Pwyllgor am bapur pellach ar Orchmynion arfaethedig o dan Adran 116C ac am fwy o wybodaeth am fformat y dadleuon ar gynigion Heb Dyddiad Trafod sy’n nodi cynnig ar gyfer deddfwriaeth.

 

5.

Papurau i’w nodi

5.1

Diwygio Cwestiynau Llafar y Cynulliad

Cofnodion:

Nododd y Rheolwyr Busnes y diwygiadau i’r data cymharol â deddfwrfeydd eraill y DU o ran cwestiynau, a chytunwyd ar ddychwelyd i’r mater ganol mis Tachwedd.

 

6.

Pwyllgorau

7.1

Effaith ymadawiad Aelod â grŵp gwleidyddol

Cofnodion:

Trafododd y Rheolwyr Busnes bapur ar effaith ymadawiad Dafydd Elis-Thomas â grŵp Plaid Cymru i eistedd fel Aelod annibynnol, a chytunwyd y dylai Plaid Cymru enwebu Aelod i lenwi’r lleoedd gwag ar y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol a’r Pwyllgor Safonau Ymddygiad. Cytunodd y Rheolwyr Busnes i ddychwelyd at y mater o gynnig lle ar bwyllgor i Dafydd Elis-Thomas, a’r effaith ar aelodaeth pwyllgorau yn gyffredinol, yn y cyfarfod yr wythnos nesaf.

 

Cytunodd y Pwyllgor hefyd i gadw at y gymhareb bresennol ar gyfer dyrannu amser y gwrthbleidiau, sef 2:2:1 ar gyfer Plaid Cymru, y Ceidwadwyr a grŵp UKIP, a chytunwyd y byddai’r patrwm cylch ar gyfer Arweinwyr a Llefarwyr yn aros yr un fath.

 

Unrhyw fater arall

Trafododd y Rheolwyr Busnes gynllun diwygiedig ar gyfer y seddau yn y Siambr. Gofynnodd y Llywydd i’r Rheolwyr Busnes hysbysu’r Ysgrifenyddiaeth cyn y Cyfarfod Llawn am unrhyw newidiadau o ran y trefniadau ar gyfer seddau eu grwpiau. Hefyd, gan fod grŵp Plaid Cymru a grŵp y Ceidwadwyr yr un maint o ran Aelodau, hysbysodd y Llywydd y Rheolwyr Busnes na chyfeirir at y naill na’r llall fel ‘yr wrthblaid’. Bydd y sawl a elwir yn gyntaf gan y Llywydd i ymateb i ddatganiadau’r Llywodraeth yn newid am yn ail.