Cofnodion
Lleoliad arfaethedig: Swyddfa’r Llywydd, 4ydd llawr - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Aled Elwyn Jones
Rhif | Eitem |
---|---|
Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon |
|
Cofnodion y Cyfarfod Blaenorol Cofnodion: Cytunodd
y Pwyllgor ar y cofnodion i’w cyhoeddi. |
|
Trefn Busnes |
|
Busnes yr wythnos hon Cofnodion: Bydd Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant yn
gwneud datganiad am Gymunedau Cryf. Bydd Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion
Gwledig yn gwneud datganiad am yr Arllwysiad Olew yn Nantycaws, Caerfyrddin fel
yr eitem olaf o fusnes cyn amser pleidleisio. Byddai’r Cyfnod Pleidleisio ddydd Mawrth yn digwydd ar ôl
yr eitem olaf o fusnes. Cytunodd y Pwyllgor Busnes y byddai’r Cyfnod
Pleidleisio yn cael ei gynnal cyn y Ddadl Fer ddydd Mercher. |
|
Busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf Cofnodion: Nododd y
Pwyllgor Busnes Amserlen Busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf. |
|
Amserlen busnes y Cynulliad ar gyfer y tair wythnos nesaf Cofnodion: Penderfynodd y Pwyllgor Busnes ar drefn busnes y
Cynulliad a chytunodd i aildrefnu’r eitemau a ganlyn:
·
Dydd Mercher 2 Tachwedd 2016 - ·
Amser a neilltuwyd i Blaid Cymru ( Penderfynodd y Pwyllgor Busnes ar drefn busnes y
Cynulliad a chytunodd i gynnwys yr eitemau o fusnes a ganlyn ar yr amserlen: Dydd Mercher 19 Hydref 2016 -
Dydd Mercher 2 Tachwedd 2016 -
Dydd Mercher 9 Tachwedd 2016 -
|
|
Y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol: Cais am ddadl ar ei adroddiad ar Fil Cymru Llywodraeth y DU Cofnodion: Cytunodd y Rheolwyr Busnes i gynnwys dadl ar adroddiad y
Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol ynghylch Bil Cymru
Llywodraeth y DU ar yr amserlen. Yn seiliedig ar wybodaeth a ddarparwyd gan Gadeirydd y
Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol y bydd Bil Cymru yn destun
cynnig cydsyniad deddfwriaethol a dadl maes o law, cytunodd y Rheolwyr Busnes
na ddylid cyflwyno dim gwelliannau i’r cynnig tynnu sylw.
|
|
Deddfwriaeth |
|
Bil Iechyd y Cyhoedd (Cymru) Cofnodion: Cytunodd y Rheolwyr Busnes mewn egwyddor i gyfeirio’r Bil
Iechyd y Cyhoedd (Cymru) at y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon
ar gyfer ei ystyried yng Nghyfnod 1. Cytunodd y Rheolwyr Busnes i ohirio’r penderfyniad ar
amserlen y Bil tan gyfarfod yn y dyfodol, i roi amser i ymgynghori â’r Pwyllgor
Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon. |
|
Defnydd o Amser yn y Cyfarfod Llawn |
|
Datganiadau’r Aelodau - canllawiau ar gyfer Aelodau Cofnodion: Ystyriodd y
Rheolwyr Busnes y canllawiau drafft sydd i’w dosbarthu i Aelodau cyn cyflwyno
‘datganiadau 90 eiliad’, a chytunwyd i ddosbarthu’r canllawiau i Aelodau yn
amodol ar wneud rhai newidiadau. Cytunodd y
Pwyllgor i gynnwys y cyntaf o’r datganiadau hyn ar yr amserlen ddydd Mercher 2
Tachwedd. |
|
Adolygiad o Gwestiynau Llafar y Cynulliad Cofnodion: Ystyriodd y
Rheolwyr Busnes bapur a oedd yn crynhoi’r diwygiadau a wnaed yn ystod y
Pedwerydd Cynulliad a’r argymhellion a wnaed gan y pwyllgor a oedd yn ei
ragflaenu ar gynnal Adolygiad o Gwestiynau Llafar y Cynulliad, ochr yn ochr â
phapur ar gyflwyno Cwestiynau Amserol. Gofynnodd y
Rheolwyr Busnes i’r Clerc weithio gyda swyddogion y Llywodraeth i gael eglurhad
o ran ffigurau cymharol â deddfwrfeydd eraill, ac i bapur diwygiedig gael ei
gyflwyno gerbron y Pwyllgor yng nghanol mis Tachwedd. |