Cofnodion

Lleoliad arfaethedig: Swyddfa’r Llywydd, 4ydd llawr - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Aled Elwyn Jones 

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Cyflwyniadau, ymddiheuriadau a dirprwyon

2.

Cofnodion y cyfarfod blaenorol

Cofnodion:

Cytunodd y Pwyllgor ar gofnodion y cyfarfodydd a gynhaliwyd ar 21 a 22 Mehefin i’w cyhoeddi.

 

 

3.

Trefn Busnes

Cofnodion:

Busnes yr Wythnos Hon

Cafodd yr amser a neilltuwyd i'r ddadl ar ganlyniad Refferendwm yr UE ei gynyddu o 60 i 90 munud. Dygwyd y ddadl ymlaen i’w chynnal yn syth ar ôl Cwestiynau’r Prif Weinidog.

 

Pe bai’r Cynulliad yn cytuno ar newidiadau i'r Rheolau Sefydlog o dan eitem 6, byddai cynnig i ddyrannu cadeiryddion pwyllgorau i grwpiau gwleidyddol yn cael ei gyflwyno a'i ychwanegu at yr agenda yn ystod y cyfarfod.

Byddai'r amser a neilltuwyd i’r datganiad ar y rhaglen ddeddfwriaethol yn cael ei gynyddu o 30 munud i 45 munud.

 

Cafodd yr eitemau canlynol eu tynnu'n ôl:

 

-     Datganiad gan Weinidog Iechyd y Cyhoedd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Lansio'r Ymgynghoriad ar Weithredu Cyfnod 1 y Ddeddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) (30 munud)

-     Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg: Cyrff Llywodraethu Ysgolion (30 munud)

-     Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig: Rheoli Perygl Llifogydd ac Erydu Arfordirol (30 munud)

-     Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith: Strategaeth Ffyrdd a Gwaith Stryd (30 munud)

-     Dadl:  Ail-enwi’r Cynulliad Cenedlaethol yn "Senedd" (60 munud) – wedi ei ohirio tan 5 Gorffennaf

Ethol Cadeiryddion Pwyllgorau fyddai’r eitem olaf heddiw. Eglurodd y Llywydd sut y byddai'r broses enwebu yn cael ei chynnal yn y Cyfarfod Llawn. Pe bai mwy nag un enwebiad ar gyfer unrhyw bwyllgor, byddai pleidlais gudd yn cael ei chynnal ddydd Mercher 29 Mehefin rhwng 12 a 3pm yn ystafell friffio 13. Byddai e-bost yn cael ei anfon at yr Aelodau i roi gwybod iddynt fod y bleidlais gudd wedi agor. Yn amodol ar gynnal pleidlais gudd ddydd Mercher, byddai'r ymgeiswyr llwyddiannus yn cael eu cyhoeddi cyn y Ddadl Fer.

 

Ddydd Mawrth, byddai’r Cyfnod Pleidleisio yn digwydd cyn ethol cadeiryddion pwyllgorau. Byddai'r Cyfnod Pleidleisio yn cael ei gynnal cyn y Ddadl Fer ddydd Mercher.

 

Trafododd y Rheolwyr Busnes a ddylai'r Llywydd a'r Dirprwy Lywydd allu pleidleisio mewn pleidlais gudd i ethol cadeiryddion pwyllgorau a phenderfynwyd na fyddai dim rheswm iddynt beidio â gwneud hynny gan nad yw’r Rheolau Sefydlog yn sôn dim am y mater hwn.

 

Amserlen Busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf

Nododd y Pwyllgor Busnes amserlen busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf.

 

Amserlen Busnes y Cynulliad ar gyfer y tair wythnos nesaf

Ychwanegwyd cynnig i gytuno ar aelodaeth pwyllgorau at amserlen busnes y Cynulliad ar gyfer y tair wythnos nesaf. Hysbysodd y Llywydd y Rheolwyr Busnes y byddai angen iddynt roi gwybod i'r Ysgrifenyddiaeth am yr holl enwebiadau erbyn hanner dydd ddydd Llun 4 Gorffennaf, yn ogystal ag enwebiadau ar gyfer aelodau wrth gefn o'r Pwyllgor Safonau Ymddygiad.

Penderfynodd y Pwyllgor Busnes ar drefn busnes y Cynulliad a chytunodd i gynnwys yr eitemau o fusnes a ganlyn ar yr amserlen:

 

Dydd Mawrth 5 Gorffennaf 2016

·         Cynigion i gytuno ar aelodaeth pwyllgorau.

·         Cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 17.2T yn ymwneud â'r Pwyllgor Craffu ar Waith y Prif Weinidog.

 

Dydd Mercher 14 Medi 2016 –

  • Amser a neilltuwyd i Blaid Cymru (60 munud)
  • Amser a neilltuwyd i'r Ceidwadwyr Cymreig (60 munud)
  • Amser a neilltuwyd i Blaid Annibyniaeth y Deyrnas Unedig (60 munud)
  • Dadl Fer -  (30 munud)

 

 

4.

Deddfwriaeth

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor Busnes bapur gan y Llywodraeth ynghylch Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol mewn perthynas â'r Bil Plismona a Throsedd.

Cytunodd y Rheolwyr Busnes i gyfeirio'r Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol at y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon er mwyn iddo graffu arno. Cytunodd y Pwyllgor Busnes hefyd y dylai’r Pwyllgor gyflwyno adroddiad ar y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol erbyn dydd Iau 22 Medi 2016 er mwyn i’r Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol gael ei drafod yn y Cyfarfod Llawn ddydd Mawrth 27 Medi 2016.

 

5.

Pwyllgorau

Cofnodion:

Trafododd y Rheolwyr Busnes bapur yn amlinellu cynigion ar gyfer amserlen y pwyllgor, a chytunwyd ar amserlen dros dro ar gyfer gweddill y tymor hwn.

 

Cytunodd y Rheolwyr Busnes i drafod dewisiadau o ran amserlennu ar gyfer y tymor newydd gyda’u Grwpiau Plaid a dychwelyd at y mater yng nghyfarfod yr wythnos nesaf.

 

Cytunodd y Pwyllgor y dylai'r pwyllgor wrth gefn roi blaenoriaeth i graffu ar ganlyniad Refferendwm yr UE. Trafododd y Rheolwyr Busnes ymholiad a godwyd gan David Rowlands ynglŷn ag a allai materion eraill barhau i gael eu cyfeirio at y pwyllgor wrth gefn pe bai llwyth gwaith y pwyllgorau polisi a deddfwriaeth yn cynyddu. Cytunodd y pwyllgor y dylai hyn barhau i fod yn wir. Awgrymodd Simon Thomas y gallai pwyllgorau eraill hefyd ddewis craffu ar faterion yr UE sy'n dod o fewn eu cylchoedd gwaith. Eglurodd y Llywydd fod hyblygrwydd wedi ei gynnwys yn Amserlen y Cynulliad er mwyn caniatáu slotiau ychwanegol i'r pwyllgor wrth gefn gyfarfod os bydd yn dewis gwneud hynny.

 

 

 

 

6.

Y Cyfarfod Llawn

Cofnodion:

Roedd y Rheolwyr Busnes yn fodlon ar y trefniadau cyflwyno arfaethedig yn ystod cyfnod toriad yr haf.

 

7.

Pwyllgor Busnes

Cofnodion:

Trafododd y Rheolwyr Busnes raglen waith weithdrefnol a chytunwyd i roi blaenoriaeth i'r defnydd o amser y Cynulliad, gweithdrefnau’n ymwneud â deisebau a deddfwriaeth Aelodau.

 

Unrhyw fater arall

Atgoffodd y Cofrestrydd Buddiannau Aelodau y Rheolwyr Busnes mai’r dydd Gwener hwn, 1 Mehefin yw’r dyddiad cau i Aelodau a gymerodd eu llwon ddydd Gwener 6 Mai gofrestru eu buddiannau.