Lleoliad arfaethedig: Swyddfa’r Llywydd, 4ydd llawr - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Aled Elwyn Jones
Eitemau
Rhif |
Eitem |
1. |
Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon
|
2. |
Cofnodion y Cyfarfod Blaenorol
Cofnodion:
Adolygodd y Pwyllgor y cofnodion a chytunodd ar y fersiwn i’w chyhoeddi.
|
3. |
Trefnu busnes - y Pwyllgor Busnes
Cofnodion:
Busnes yr wythnos hon
Dydd Mawrth
- Bydd Ysgrifennydd y
Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig yn gwneud datganiad am
Adeiladu ar ein Llwyddiant Ailgylchu i greu Economi Gylchol (30 munud)
- Bydd y Gweinidog
Sgiliau a Gwyddoniaeth yn gwneud datganiad am Brentisiaethau yng Nghymru
(30 munud)
- Bydd Ysgrifennydd y
Cabinet dros Gymunedau a Phlant yn gwneud datganiad am yr Wythnos
Gwirfoddoli (30 munud)
- Bydd Ysgrifennydd y
Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol yn gwneud datganiad am adroddiad y
Gweithgor ar yr Iaith Gymraeg a Llywodraeth Leol (30 munud)
- Caiff y Cyfnod
Pleidleisio ei gynnal ar ôl yr eitem olaf o fusnes.
- Mae’r Cyfarfod
Llawn yn debygol o ddod i ben erbyn 05:45.
Dydd Mercher
- Cynnig i ethol
Aelodau i bwyllgorau (5 munud)
- Dywedodd y Llywydd wrth y Rheolwyr Busnes ei bod yn
bwriadu neilltuo 3 munud yn hytrach na'r 5 munud arferol i Aelodau sy'n
dymuno siarad yn y ddadl gan Aelod Unigol a gofynnodd i’r grwpiau roi ryw
syniad o bwy fyddai’n hoffi siarad.
- Caiff dadl y Ceidwadwyr Cymreig ei symud a’i chynnal
cyn dadl Plaid Cymru.
- Caiff y Cyfnod Pleidleisio ei gynnal cyn y Ddadl
Fer.
- Mae’r Cyfarfod Llawn yn debygol o ddod i ben erbyn
06:40.
Trefn busnes
- Cytunodd y Rheolwyr
Busnes i ohirio'r gwaith o amserlennu Busnes y Cynulliad ar gyfer dydd
Mercher 6 Gorffennaf tan y cyfarfod yr wythnos nesaf.
- Penderfynodd y
Pwyllgor Busnes ar drefn busnes y Cynulliad a chytunodd i gynnwys yr
eitemau o fusnes a ganlyn ar yr amserlen:
Dydd Mercher 22 Mehefin
2016 -
Cynnig enwau a chylchoedd gwaith y pwyllgorau (5 munud)
|
4. |
Pwyllgorau
Cofnodion:
Cytunodd y Rheolwyr
Busnes i gyflwyno cynnig i benodi aelodau a chadeirydd y Pwyllgor Materion
Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol dros dro er mwyn i’r Cynulliad gytuno arno ar
15 Mehefin a chytunwyd y dylid cynnig enw David Melding (Ceidwadwyr) fel
cadeirydd y pwyllgor.
|
5. |
Amserlen y gyllideb
Cofnodion:
Nododd y Pwyllgor lythyr gan
Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol yn dweud wrth y Rheolwyr
Busnes ei fod yn bwriadu cyflwyno'r cynnig cyllideb atodol cyntaf ar 21 Mehefin
a chynnig y cynnig ar 12 Gorffennaf.
Byddai hynny’n rhoi tair wythnos i un o bwyllgorau’r Cynulliad graffu ar y
cynnig. Cytunodd y Rheolwyr Busnes i gyflwyno cynnig ar enwau a chylchoedd
gwaith y pwyllgorau ar 22 Mehefin fel y gellir sefydlu pwyllgor i ystyried y
Gyllideb Atodol.
|
|
Unrhyw Fusnes Arall
Roedd y Llywydd yn awyddus i’r swyddogion sicrhau y bydd y broses o
amserlennu busnes yn addas yn y dyfodol er mwyn cynnwys penderfyniadau y bydd y
Pwyllgor Busnes yn debygol o’u gwneud mewn cyfarfodydd yn y dyfodol, er mwyn
osgoi unrhyw oedi diangen.
Holodd Simon Thomas am fwriad y Llywodraeth i gyflwyno Cynnig Cydsyniad
Deddfwriaethol ar Fil Cymru. Dywedodd Jane Hutt wrth y Rheolwyr Busnes y
byddai'n rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Pwyllgor yn cyfarfod
yr wythnos nesaf.
|