Cofnodion

Lleoliad arfaethedig: Ystafell Gynhadledd 4B - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Aled Elwyn Jones (Clerk) 

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Cyflwyniadau, ymddiheuriadau a dirprwyon

2.

Cofnodion y cyfarfod blaenorol

Cofnodion:

Diwygiwyd y cofnodion gan y Pwyllgor a chytunwyd arnynt i’w cyhoeddi.

 

3.

Trefn Busnes

Cofnodion:

Busnes yr Wythnos Hon

Byddai'r Prif Weinidog yn gwneud datganiadau am Fil Cymru a Tata Steel.

 

Byddai Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith yn gwneud datganiad am y Pencampwriaethau Pêl-droed Ewropeaidd.
Byddai unrhyw bleidlais yn cael ei chynnal ar ôl pob cynnig ar yr agenda.

Amserlen Busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf

Nododd y Pwyllgor Busnes amserlen busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf.

 

Amserlen Busnes y Cynulliad ar gyfer y tair wythnos nesaf

Cyn pennu amserlen Busnes y Cynulliad ar gyfer y tair wythnos nesaf, bu'r Rheolwyr Busnes yn trafod papur briffio cyfreithiol ar sut y gallai pennu'r amserlen fusnes effeithio ar gyfraniadau'r Aelodau yn ystod y cyfnod cyn refferendwm yr UE.   Roedd yr Aelodau wedi ystyried y papur briffio cyfreithiol ymlaen llaw a chafwyd trafodaeth drylwyr o'r materion a godwyd ynddo a'r opsiynau posibl, gyda holl aelodau'r pwyllgor yn lleisio barn. Ar ôl ystyried y cyngor, gan gynnwys, yn arbennig, y dyletswyddau cyfreithiol amrywiol sydd ar Gomisiwn y Cynulliad, a rôl ganolog y Cynulliad ym mywyd cyhoeddus Cymru, cytunwyd na ddylid cyfyngu ar allu'r Cynulliad i drafod materion Ewropeaidd yn ystod cyfnod y refferendwm.

 

Penderfynodd y Pwyllgor Busnes ar drefn busnes y Cynulliad a chytunodd i gynnwys yr eitemau o fusnes a ganlyn ar yr amserlen:

 

Dydd Mawrth 14 Mehefin 2016 –

·         Cynnig i ddirymu Rheoliadau Personau Anabl (Bathodynnau ar gyfer Cerbydau Modur) (Cymru) (Diwygio) 2016 (30 munud)

 

Dydd Mercher 15 Mehefin 2016 –

·         Cynnig o dan Reol Sefydlog 16.1 i sefydlu Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol dros dro (5 munud)

·         Dadl gan Aelodau Unigol o dan Reol Sefydlog 11.21(iv) (60 munud)

·         Amser a neilltuwyd i Blaid Cymru (60 munud)

·         Amser a neilltuwyd i'r Ceidwadwyr Cymreig (60 munud)

·         Dadl Fer - Llyr Gruffydd (Gogledd Cymru) (30 munud)

 

Dydd Mercher 22 Mehefin 2016 –

·         Amser a neilltuwyd i Blaid Cymru (60 munud)

·         Amser a neilltuwyd i'r Ceidwadwyr Cymreig (60 munud)

·         Amser a neilltuwyd i Blaid Annibyniaeth y Deyrnas Unedig (60 munud)

·         Dadl Fer - Julie Morgan (Gogledd Caerdydd) (30 munud)

 

Dydd Mercher 29 Mehefin 2016 –

·         Cwestiynau i Gomisiwn y Cynulliad (30 munud)

·         Dadl gan Aelodau Unigol o dan Reol Sefydlog 11.21(iv) (60 munud)

·         Amser a neilltuwyd i Blaid Cymru (60 munud)

·         Amser a neilltuwyd i'r Ceidwadwyr Cymreig (60 munud)

·         Dadl fer - Rhianon Passmore (Islwyn) (30 munud)

4.

Papur i’w nodi

Cofnodion:

Cynigion Cydsyniad Deddfwriaethol: Rhaglen Ddeddfwriaethol y DU ar gyfer 2016/2017

Nododd y Pwyllgor Busnes y papur gan Arweinydd y Tŷ sy'n rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am gynnydd Biliau'r DU a gyhoeddwyd yn Araith y Frenhines y mae'n debyg y bydd angen Cynigion Cydsyniad Deddfwriaethol ar eu cyfer.

Unrhyw fater arall

Papurau ar gyfer sesiwn y prynhawn

Atgoffodd y Llywydd y Rheolwyr Busnes i drafod y papurau a gâi eu hystyried yn sesiwn brynhawn y cyfarfod gyda grwpiau'r pleidiau y bore hwnnw.

 

Yng nghyd-destun strwythur ac aelodaeth y pwyllgor, rhoddodd Jane Hutt wybod i'r pwyllgor nad oedd Kirsty Williams am fod yn rhan o'r pwyllgor er bod ganddi hawl i wneud hynny mewn egwyddor, oherwydd ei rôl yn Weinidog.

 

Y Pwyllgor ar Offerynnau Statudol

Cytunodd y Pwyllgor Busnes i gyflwyno cynnig i sefydlu Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol dros dro i graffu ar offerynau statudol ac unrhyw faterion cyfansoddiadol a deddfwriaethol eraill. Cytunodd y Rheolwyr Busnes ar deitl a chylch gwaith y pwyllgor, a chytunwyd i ystyried maint ac aelodaeth y pwyllgor y tu allan i'r Pwyllgor Busnes, cyn cyfarfod yr wythnos nesaf.     

Ffotograffydd

Rhoddodd y Llywydd wybod i'r Rheolwyr Busnes y byddai ffotograffydd yn tynnu lluniau o Aelodau'r Cynulliad yn y Siambr yn ystod y Cyfarfod Llawn y prynhawn hwnnw, i'w defnyddio yn neunydd marchnata Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

Ailymgynnull

Rhoddodd y Llywydd wybod i'r Rheolwyr Busnes y byddai'r Pwyllgor Busnes yn ailymgynnull am 17.15 yn hytrach na 16.00 am fod y Cyfarfod Llawn yn hirach na'r disgwyl.

Gohiriad

Gohiriwyd y Pwyllgor am 9.45.

 

5.

Pwyllgorau

Cofnodion:

Ailymgynullodd y Pwyllgor am 17.18.

 

Yn y cyfarfod ar 25 Mai, bu'r Rheolwyr Busnes yn trafod papur sy'n nodi rôl y Pwyllgor Busnes wrth sefydlu system bwyllgorau. Yn y cyfarfod hwnnw, gofynnodd y Pwyllgor am bapur manwl arall yn amlinellu'r opsiynau ar gyfer strwythur posibl y pwyllgorau, gan gynnwys modelau posibl ar gyfer cylchoedd gwaith y pwyllgorau a gweithdrefnau ar gyfer ethol cadeiryddion pwyllgorau. Cytunwyd i drafod yr opsiynau gyda'r grwpiau yn y cyfamser.

 

Pwyllgorau Polisi a Deddfwriaeth ar y cyd

Y consensws cyffredinol oedd y dylid sefydlu chwe phwyllgor polisi a deddfwriaeth ar y cyd a chwe phwyllgor arbenigol, gan sefydlu pwyllgor wrth gefn i ymdrin ag unrhyw bwysau byrdymor ar y system bwyllgorau yn gyffredinol, yn enwedig o ran deddfwriaeth.

 

Pwysleisiodd Jane Hutt, pe bai pwyllgor wrth gefn yn cael ei sefydlu ar y cychwyn, y byddai angen rhoi cylch gwaith eang iddo os am leihau'r pwysau ychwanegol ar bwyllgorau eraill.

 

Maint pwyllgorau

Ar ôl trafod gyda grwpiau'r pleidiau, nododd Jane Hutt y byddai'n well gan grŵp Llafur gael strwythur o wyth Aelod i'r Pwyllgorau Polisi a Deddfwriaeth ar y cyd, a nododd y byddai hynny, yn unol â threfn D'hondt, yn rhoi pedair sedd i'r blaid Lafur ar bwyllgorau o'r fath.

 

Nododd y Llywydd, pe bai fformiwla D'hondt yn cael ei defnyddio ar gyfer pwyllgorau bach, na fyddai'r pwyllgorau hynny'n adlewyrchu cydbwysedd y grwpiau gwleidyddol y mae'r Aelodau'n perthyn iddynt, a gellid ystyried bod hynny'n groes i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006.

   

Dywedodd Simon Thomas y byddai angen rhywfaint o gyfaddawd er mwyn sicrhau cydbwysedd ar y pwyllgorau'n gyffredinol, gan nad oedd modd cynrychioli'r pleidiau'n gyfrannol. Roedd Mark Reckless a Paul Davies yn cytuno a gofynnwyd am opsiynau ar gyfer strwythurau pwyllgor yn seiliedig ar fodel o saith ac wyth Aelod ac yn seiliedig ar gydbwysedd gwleidyddol y gellid cytuno arnynt drwy gonsensws yn hytrach na dilyn D'hondt i'r gair.

 

Cytunodd y Rheolwyr Busnes i drafod y mater eto mewn cyfarfod yn y dyfodol er mwyn penderfynu ar faint y pwyllgorau ar ôl trafod â grwpiau'r pleidiau.

 

Cylchoedd gwaith pwyllgorau

Roedd y Rheolwyr Busnes yn cytuno'n gyffredinol y dylid sefydlu chwe phwyllgor polisi a deddfwriaeth ar y cyd ac na fyddai angen adlewyrchu portffolios y Gweinidogion, o gofio y gall portffolios y Gweinidogion newid.

 

Roedd y Rheolwyr Busnes o'r farn y byddai sefydlu pwyllgor ychwanegol, yn wahanol i'r Pedwerydd Cynulliad, yn sicrhau bod y cylchoedd gwaith yn fwy cytbwys ac yn ei gwneud hi'n llai tebygol y câi unrhyw bwyllgor unigol ei orlwytho. 

 

Cytunodd y Rheolwyr Busnes y dylid sefydlu chwe phwyllgor arbenigol, fel y gwnaed yn y Pedwerydd Cynulliad, gan gynnwys Craffu ar Waith y Prif Weinidog, Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol, Cyfrifon Cyhoeddus, Deisebau a Safonau Ymddygiad.

 

Roedd y Rheolwyr Busnes o'r farn y gallai'r Pwyllgor Craffu ar Waith y Prif Weinidog gynnwys cadeiryddion pwyllgorau eraill, gyda'r Llywydd neu'r Dirprwy Lywydd yn cadeirio, a gofynnwyd i'r Ysgrifenyddiaeth ystyried yr opsiynau ar gyfer hyn. Gofynnodd y Rheolwyr Busnes hefyd a ellid ystyried opsiynau gwahanol ar gyfer cylch gwaith y Pwyllgor Safonau, gan gynnwys a ellid ei ehangu i gynnwys breintiau, gweithdrefnau a phenodiadau cyhoeddus.

 

Gofynnodd y Pwyllgor i'r Ysgrifenyddiaeth gyflwyno opsiynau pellach ar gyfer cylchoedd gwaith pwyllgorau yn seiliedig ar awgrymiadau'r Rheolwyr Busnes.

 

Y gweithdrefnau ar gyfer ethol cadeiryddion pwyllgorau

Cytunodd y Rheolwyr Busnes y dylid edrych ymhellach ar y posibilrwydd o ethol cadeiryddion pwyllgorau, am fod rhai grwpiau yn llwyr o blaid gwneud hynny ac am nad oedd yr un grŵp yn gwrthwynebu'n gryf. 

 

Awgrymodd Jane Hutt y dylai fod angen gwneud mwy nag ennill pleidlais syml yn y pwyllgor cyn y gellid diswyddo cadeirydd pwyllgor. Awgrymodd Simon Thomas y dylai cynnig o ddiffyg hyder gan bwyllgor gael ei gymeradwyo gan y Cynulliad cyfan cyn iddo ddod i rym.

 

Gofynnodd Paul Davies am ragor o gyngor ynghylch a ddylai aelodau'r Llywodraeth gael pleidleisio i ethol a diswyddo cadeirydd pwyllgor o ystyried mai swyddogaeth pwyllgor yw craffu ar y Llywodraeth. Dywedodd Jane Hutt yr hoffai ddychwelyd at y mater hwn fel rhan o drafodaethau sydd i ddod.

 

Nododd Jane Hutt y byddai angen iddi ystyried ymhellach y cynnig y dylai fod angen i un Aelod arall o grŵp plaid enwebu unrhyw ymgeisydd sydd am fod yn gadeirydd pwyllgor. Gofynnodd i'r Ysgrifenyeddiaeth edrych ar sut y mae seneddau eraill y tu allan i'r DU yn ethol cadeiryddion pwyllgorau.

 

Roedd y Rheolwyr Busnes yn cytuno y dylai cadeiryddion gael eu hethol drwy bleidlais gyfrinachol.

 

Cytunodd y Rheolwyr Busnes y dylai'r Ysgrifenyddiaeth gyflwyno papur yn amlinellu gweithdrefn bosibl ar gyfer ethol cadeiryddion pwyllgorau, ac i ddarparu opsiynau amrywiol o fewn y weithdrefn honno, er mwyn i'r Rheolwyr Busnes eu hystyried.

6.

Amserlen y Cynulliad

Cofnodion:

Dyddiadau toriadau'r Cynulliad

Roedd Paul Davies o blaid parhau i gael pedair wythnos o doriad dros y Nadolig, ac awgrymodd y gellid cael wythnos yn llai o doriad dros yr haf fel dewis amgen. Roedd Simon Thomas a Mark Reckless yn barod i gael wythnos yn llai o doriad dros y Nadolig.

 

Dywedodd Jane Hutt fod rhywfaint o gefnogaeth yng ngrŵp Llafur i'r syniad o gael tair wythnos o doriad dros y Nadolig, a dychwelyd yn gynharach ym mis Ionawr. Roedd cefnogaeth ymhlith y grŵp i'r syniad o gael wythnos ychwanegol o fusnes yn y Cynulliad yn ystod y flwyddyn, yn unol â deddfwrfeydd eraill y DU.

 

Cytunodd y Pwyllgor i ystyried y mater eto mewn cyfarfod yn y dyfodol.

 

Amserlen y Cynulliad

Cytunodd y Rheolwyr Busnes i drafod Amserlen y Cynulliad maes o law fel y gallai unrhyw benderfyniad ar strwythur y pwyllgorau lywio'r trafodaethau hynny.

7.

Papurau i’w nodi

Cofnodion:

Nododd y Rheolwyr Busnes y papurau.