Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Cynhadledd Fideo Zoom

Cyswllt: Aled Elwyn Jones 

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Introductions, apologies and substitutions

Cofnodion:

Croesawodd y Llywydd Dai Lloyd, oedd yn eilyddio ar ran Sian Gwenllian

2.

Cofnodion y cyfarfod blaenorol

3.

Trefn Busnes

3.1

Busnes yr wythnos hon

Cofnodion:

Busnes yr wythnos hon

 

Tynnodd y Trefnydd sylw'r Rheolwyr Busnes at un newid i Fusnes yr Wythnos Hon – bydd Dirprwy Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth yn gwneud y datganiad ar Ymateb Llywodraeth Cymru i Argymhellion Terfynol Comisiwn Trafnidiaeth De-ddwyrain Cymru yn lle'r Gweinidog.

 

Dydd Mawrth 

 

·         Caiff y Cyfnod Pleidleisio ei gynnal ar ôl yr eitem olaf o fusnes.  

·         Nid yw'r Cyfarfod Llawn yn debygol o fynd y tu hwnt i 5.35pm. 

 

Dydd Mercher 

 

·         Caiff y Cyfnod Pleidleisio ei gynnal cyn y Ddadl Fer.  

·         Nid yw’r Cyfarfod Llawn yn debygol o fynd y tu hwnt i 6.10pm. 

 

 

3.2

Amserlen busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf

Cofnodion:

Tynnodd y Trefnydd sylw'r Rheolwyr Busnes at y newidiadau a ganlyn:

 

Dydd Mawrth 26 Ionawr 2021

 

·           Datganiad gan y Gweinidog Addysg: Lansio Cynllun Gweithredu'r Cwricwlwm Y wybodaeth ddiweddaraf am Gymwysterau ar gyfer 2021 (30 munud)

·           Datganiad gan y Gweinidog Iechyd Meddwl, Llesiant a’r Gymraeg: Cyhoeddi'r polisi cenedlaethol ar drosglwyddo a defnyddio'r Gymraeg mewn teuluoedd (30 munud) - gohiriwyd o 15 Rhagfyr 2020

·           Cynnig o dan Reol Sefydlog 12.24 i gynnal dadl ar y canlynol gyda'i gilydd ond gyda phleidleisiau ar wahân (30 munud)

o   Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol a Chyfyngiadau) (Diwygio) (Rhif 2) (Cymru) 2021

o   Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) (Diwygio) 2021

·           Cynnig o dan Reol Sefydlog 12.24 i gynnal dadl ar y canlynol gyda'i gilydd ond gyda phleidleisiau ar wahân (60 munud)

o   Cynnig o dan Reol Sefydlog 26.95 i drin Bil a gaiff ei alw’n Fil Etholiadau Cymru (Coronafeirws) fel Bil Brys y Llywodraeth

o   Cynnig o dan Reol Sefydlog 26.98(ii)) i gytuno ar amserlen ar gyfer y Bil a gaiff ei alw’n Fil Etholiadau Cymru (Coronafeirws)

·           Dadl:  Adolygiad Blynyddol y Pwyllgor Cydraddoldeb a Hawliau Dynol 2019-20 (30 munud) – gohiriwyd o 8 Rhagfyr 2020

 

 

Dydd Mawrth 2 Chwefror 2021

 

·         Datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Diweddariad Adolygiad Clinigol Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg (30 munud)

·        Datganiad gan y Gweinidog Cyllid a’r Trefnydd: Cynnydd o ran Trethi Datganoledig (30 munud)

·         Gorchymyn Deddf Llywodraeth Cymru 2006 (Diwygio) 2021 (15 munud)

·         Dadl:  Cyfnod 4 y Bil Rhentu Cartrefi (Cymru) (Diwygio) (15 munud) - gohiriwyd

 

Byddai nodyn yn cael ei anfon at yr Aelodau yn amlinellu'r weithdrefn a'r amserlen arfaethedig ar gyfer y Bil Brys. Byddai copi cynnar yn cael ei ddosbarthu i'r Rheolwyr Busnes.

 

Tynnodd y Llywydd sylw'r Rheolwyr Busnes at amserlennu Cyfnod 3 y Bil Rhentu Cartrefi ddydd Mercher 10 Chwefror, yr un diwrnod â Chyfnod 3 disgwyliedig y Bil Brys.

 

3.3

Amserlen busnes y Senedd ar gyfer y tair wythnos nesaf

Cofnodion:

Cytunodd y Pwyllgor Busnes i drefnu'r eitemau busnes canlynol, a chytunodd i adolygu'r busnes ar gyfer 10 Chwefror ar ôl i'r amserlen ar gyfer y Bil Brys gael ei chadarnhau.

 

Dydd Mercher 10 Chwefror 2021 -

·         Dadl ar Gynnig Deddfwriaethol gan Aelod (30 munud)

·         Amser a neilltuwyd i’r Ceidwadwyr Cymreig (30 munud)

·         Amser a neilltuwyd i Blaid Cymru (30 munud)

 

 

3.4

Dadl Aelodau: Dewis Cynnig ar gyfer Dadl

Cofnodion:

Dewisodd y Pwyllgor Busnes y cynnig a ganlyn ar gyfer dadl ar 27 Ionawr:

 

Dai Lloyd

Neil Hamilton

Huw Irranca-Davies

Adam Price

Andrew RT Davies

Nick Ramsay

 

NNDM7463

Cynnig bod y Senedd:

1.  Yn nodi bod y Gymdeithas Strôc wedi cyhoeddi ymchwil i brofiadau goroeswyr strôc yn ystod pandemig COVID-19, a ganfu fod goroeswyr strôc a gofalwyr yn ei chael hi'n anodd cael gafael ar y gwasanaethau a'r cymorth sydd eu hangen arnynt.

2. Yn nodi bod derbyniadau mewn unedau strôc acíwt yng Nghymru wedi gostwng 12 y cant rhwng mis Ebrill a mis Mehefin 2020 o gymharu â 2019.

3. Yn credu, er gwaethaf pandemig COVID-19, y dylai goroeswyr strôc allu parhau i gael gafael ar y gofal acíwt, y gwasanaethau adsefydlu, y driniaeth iechyd meddwl a'r cymorth sydd eu hangen arnynt i adfer cystal â phosibl.

4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod byrddau iechyd lleol yng Nghymru yn parhau â'u gwaith i wella gofal strôc yng Nghymru ac nad ydynt yn caniatáu i COVID-19 ohirio newidiadau strwythurol y mae mawr eu hangen.

5. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyhoeddi cynllun cenedlaethol newydd ar gyfer gwasanaethau strôc pan ddaw'r cynllun cyflawni presennol ar gyfer strôc i ben er mwyn sicrhau bod gofal i'r rhai y mae strôc yn effeithio arnynt yn cael ei gryfhau ledled Cymru yn y dyfodol.

Cynllun Cyflawni ar gyfer Strôc 2017-2020

 

Wedi’i gefnogi gan:

 

Llyr Gruffydd

Mark Isherwood

Neil McEvoy 

 

 

4.

Deddfwriaeth

4.1

Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol a Chyfyngiadau) (Diwygio) (Rhif 2) (Cymru) 2021

Cofnodion:

Cytunodd y Pwyllgor Busnes i bennu dydd Llun 25 Ionawr fel terfyn amser adrodd i'r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad gyflwyno adroddiad ar y rheoliadau. 

 

 

Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) (Diwygio) 2021

 

Cytunodd y Pwyllgor Busnes i bennu dydd Llun 25 Ionawr fel terfyn amser adrodd i'r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad gyflwyno adroddiad ar y rheoliadau. 

 

 

5.

Pwyllgorau

5.1

Amserlen y Senedd

Cofnodion:

Cytunodd y Pwyllgor Busnes ar slotiau cyfarfod ychwanegol ar gyfer y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Phwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau yn yr wythnosau gwarchodedig.

 

 

6.

Papurau i’w nodi

6.1

Llythyr gan y Bwrdd Taliadau

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor Busnes y llythyr a chytunodd i anfon ateb interim, yn hysbysu'r Bwrdd Taliadau bod y Pwyllgor wrthi'n adolygu'r Rheolau Sefydlog ar grwpiau.