Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Gynhadledd 4B - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Liz Jardine
Rhif | Eitem |
---|---|
Cyflwyniadau, ymddiheuriadau a datganiadau o fuddiant Cofnodion: Cafwyd ymddiheuriadau gan Gareth Watts (Pennaeth Llywodraethu ac Archwilio) a Rhuanedd Richards (Cynghorwr
Polisi y Llywydd) |
|
Nodyn cyfathrebu i staff - Sian Wilkins Cofnodion: Bydd Siân Wilkins yn drafftio nodyn am drafodaethau’r Bwrdd Rheoli ar gyfer
tudalen newyddion y staff. |
|
Cofnodion y cyfarfod blaenorol Cofnodion: Cytunwyd bod cofnodion cyfarfod y Bwrdd Rheoli a gynhaliwyd ar 15 Awst yn
gywir. |
|
Diweddariad ynghylch Blaenoriaethau Corfforaethol Eitem lafar Cofnodion: Rhoddodd Manon Antoniazzi y wybodaeth
ddiweddaraf i'r Bwrdd Rheoli ynghylch deilliannau'r Comisiwn o'r diwrnod cwrdd
i ffwrdd a gafwyd ar 12 Medi lle trafododd y Comisiynwyr, ymhlith pethau
eraill, eu blaenoriaethau a dull strategaeth y gyllideb. Clywodd y Bwrdd fod y
Comisiynwyr wedi cytuno i barhau â strategaeth y gyllideb a baratowyd yr adeg
hon y llynedd, ar yr amod y gellir trafod ymhellach a chytuno'n derfynol ar
bethau yng nghyfarfod y Comisiwn ar 25 Medi. Wrth drafod strategaeth y gyllideb, roedd y
Comisiynwyr am gael dealltwriaeth well o'r niferoedd staffio presennol. Mae'r
Llywydd wedi gofyn i Manon gynnal adolygiad capasiti rhwng nawr a diwedd y
flwyddyn er mwyn sicrhau y gall y Cynulliad ddal i gefnogi blaenoriaethau'r
Comisiwn yn wyneb pwysau allanol cynyddol. Byddai'r adolygiad hefyd o gymorth i'r Comisiynwyr
ddeall sut y mae adnoddau wedi'u dyrannu o fewn y sefydliad ar hyn o bryd, a
gwerthuso ai dyma'r defnydd mwyaf effeithiol ac effeithlon o adnoddau i
gyflawni amcanion y Comisiwn ar gyfer y Pumed Cynulliad a thu hwnt. Dywedodd Manon mai tîm y Dadansoddwyr Busnes
fyddai'n arwain yr adolygiad, â chymorth gan gydweithwyr yn y Gwasanaeth
Adnoddau Dynol, Trawsnewid Strategol a'r Undebau Llafur. Byddai'r argymhellion
a ddaw yn sgil yr adolygiad yn cael eu trafod yn eu tro yng nghyfarfod y Bwrdd
Rheoli, lle caiff yr holl wasanaethau eu cynrychioli. Byddai'r adolygiad yn un byr ag iddo ffocws, gan
fwriadu i unrhyw argymhellion gael eu cyflwyno i'r Comisiwn erbyn diwedd y
flwyddyn. |
|
Risgiau Corfforaethol Eitem lafar Cofnodion: Atgoffodd Dave Tosh y Bwrdd fod dechrau'r tymor newydd yn gyfle i
ddiweddaru cofrestrau risg gorfforaethol ar draws y sefydliad. Dylid parhau i roi gwybod ar lefel y Gwasanaeth am risgiau newydd a risgiau
sy'n newid, a dylai Penaethiaid Gwasanaeth a Hyrwyddwyr Risg ystyried beth y
dylid ei nodi ar gyfer y Gofrestr Risg Gorfforaethol, cyn adolygiad ffurfiol y
Bwrdd Rheoli fis Hydref. 1.1
CAM I'W GYMRYD: · Gofynnodd y Bwrdd Rheoli i'r cofrestrau risg gorfforaethol gael eu hadolygu
a'u diweddaru cyn eu trafod yn ffurfiol yng nghyfarfod y Bwrdd Rheoli ar 23
Hydref. |
|
Blaengynllun y Comisiwn a'r Bwrdd Rheoli Papur i’w nodi: Cofnodion: Trafododd y Bwrdd flaenraglen waith y Bwrdd Rheoli a Chomisiwn y Cynulliad.
Gofynnodd Manon i'r Bwrdd nodi'r terfynau amser yn y papur a dywedwyd y
dylid rhoi gwybod i'r ysgrifenyddiaeth mewn da bryd os oes unrhyw broblemau o
ran bodloni'r terfynau amser hynny. |
|
Adroddiad ar Reoli Cyllid - Awst 2017 Papur i’w nodi Cofnodion: Trafododd y Bwrdd yr Adroddiad ar Reoli Cyllid ar gyfer mis Awst, a hynny
cyn i'r adolygiad nesaf gael ei gynnal ddiwedd mis Medi. Mae'r sefyllfa ariannol ar gyfer eleni yn parhau i fod yn heriol, felly
bydd angen bod yn ofalus wrth reoli arian er mwyn cadw o fewn y gyllideb.
Gofynnwyd i'r Bwrdd adolygu'r ffigurau ar gyfer eu meysydd gwasanaeth i sicrhau
eu bod yn fanwl gywir. Nododd Nia Morgan y bydd gofyn i'r Bwrdd gynorthwyo gyda'r gwaith o
gasglu'r wybodaeth ofynnol gan y bydd yn ymddangos gerbron y Pwyllgor Cyllid
a'r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus. Atgoffwyd y
Bwrdd y bydd Catharine Bray yn Bennaeth Cyllid dros dro tra bo Lisa Bowkett ar
gyfnod mamolaeth ac y byddai Catharine yn cwrdd ag aelodau'r Bwrdd Rheoli yn
unigol dros yr wythnosau sydd i ddod. |
|
Grid cynllunio'r cyfryngau Papur i’w nodi Cofnodion: 1.1
Cyflwynodd Non Gwilym y grid i'r Bwrdd, gan egluro y bwriedir iddo ddarparu
rhagolwg o ymrwymiadau'r tîm Cyfathrebu, gan gynnwys cyfnodau penodol o bwysau,
a hynny hyd at ddiwedd 2017. Nododd Non y byddai'r grid yn dibynnu ar
ddiweddariadau rheolaidd gan feysydd gwasanaeth er mwyn iddo fod yn offeryn
defnyddiol a chytunodd y Bwrdd i drafod ymhellach y ffordd fwyaf priodol i
sicrhau y caiff y ddogfen ei rhannu'n fwy hwylus at ddibenion cynllunio. 1.2
Cydnabu'r Bwrdd i'r Cynulliad gael ei ddangos mewn goleuni da yn sgil
digwyddiadau'r haf a dywedwyd y byddai'r grid yn helpu i sicrhau na châi cyfleoedd
eu colli yn y dyfodol drwy ddarparu trosolwg o weithgareddau ar lefel
strategol. 1.3
CAMAU
I'W CYMRYD · Y wybodaeth ddiweddaraf am y grid cyfathrebu i
gael ei hanfon at Non Gwilym |
|
Unrhyw fater arall Cofnodion: Cafwyd cais
gan Kathryn Hughes i ddiweddaru Cynlluniau Gwasanaethau Corfforaethol. |