Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 4 - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Liz Jardine
Rhif | Eitem |
---|---|
Cyflwyniadau, ymddiheuriadau a datganiadau o fuddiant Cofnodion: Cafwyd ymddiheuriadau gan Manon Antoniazzi (Prif Weithredwr a Chlerc) ac Elisabeth Jones (Prif Gynghorydd
Cyfreithiol). Ni chafwyd datganiadau o fuddiant. |
|
Nodyn cyfathrebu i'r staff - Gareth Watts Cofnodion: Byddai Gareth Watts yn drafftio nodyn am drafodaeth y Bwrdd Rheoli ar gyfer
y dudalen newyddion staff. |
|
Cofnodion y cyfarfod blaenorol Cofnodion: Cytunwyd bod cofnodion cyfarfod y Bwrdd Rheoli a gynhaliwyd ar 7 Rhagfyr yn
gywir. Rhoddwyd y cynnydd ar y camau gweithredu o'r cyfarfod blaenorol: ·
Roedd y tîm Llywodraethu wedi
adolygu templed ROAP, ac yn fodlon ei fod yn addas i'r diben yn gyffredinol a
bod y ROAP adolygiad capasiti yn achos ar ben ei hun lle byddai rhagor o
wybodaeth wedi bod yn ddefnyddiol. Nid oeddent yn cynnig newid o ran sylwedd; ·
Byddai arwyddion i gyfleu gwybodaeth
am aflonyddu a'r polisi Urddas a Pharc yn cael eu hystyried yn dilyn
ymgynghoriad y Pwyllgor Safonau ar eu Hymchwiliad i'r Adolygiad o'r Cod
Ymddygiad gan Aelodau’r Cynulliad; a ·
Roedd risgiau rhyngysylltiedig
wedi'u hadolygu ac roedd papur wedi'i ail-linio yn cael ei baratoi ar y cyd gan
aelodau'r Bwrdd Rheoli. |
|
Diwygio Etholiadol Cofnodion: Rhoddodd Adrian Crompton amlinelliad o'r papur sy'n cael ei gyflwyno i
gyfarfod y Comisiwn ar 22 Ionawr, er mwyn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r
Bwrdd am waith y rhaglen Diwygio Etholiadol y Cynulliad a'r penderfyniadau i'w
gwneud ar y cwmpas olaf a'r dull ymgynghoriad cyhoeddus ar argymhellion y Panel
Arbenigol, a materion eraill ynghylch diwygio deddfwriaeth. Byddai'r
Comisiynwyr yn ystyried yn eu cyfarfod ym mis Gorffennaf p'un ai i gyflwyno Bil
Diwygio'r Cynulliad a chwmpas cyffredinol unrhyw ddeddfwriaeth. Trafododd y Bwrdd yr amserlen ar gyfer y gwaith ymgynghori a pharatoi sy'n
cael ei wneud. Roedd swyddogion yn edrych ar yr adnoddau ehangach fyddai eu hangen
er mwyn helpu i gyflawni Bil diwygio, er, heblaw am hynny, nid oedd hi'n bosibl
rhagweld beth fyddai'r penderfyniadau polisi a'r effaith ar adnoddau yn sgil
hynny. Roedd y Llywydd yn cael trafodaethau gyda phleidiau gwleidyddol a'r
Pwyllgor Busnes ynghylch y dull a'r amseriad ar gyfer ceisio mandad penodol gan
y Cynulliad ar gyfer gwaith diwygio'r Cynulliad. CAMAU I’W CYMRYD: ·
Argymhellodd y Bwrdd egluro'r
effaith ar adnoddau lle y bo'n hysbys, ac amlygu'r goblygiadau ynghylch
amserlen y cyfnod ymgynghori. ·
Sulafa Thomas i ychwanegu gofyniad
am oblygiadau adnoddau i'w cynnwys yn nhempled papur y Comisiwn a'i
ail-ddosbarthu gyda'r canllawiau ar baratoi papur. |
|
Adolygiad Capasiti Eitem lafar Cofnodion: Diolchodd Dave Tosh i bawb am eu cyfraniad i'r adroddiad, a fyddai'n cael ei
gyflwyno i'r Comisiynwyr ar 22 Ionawr. Bydd gofyn iddynt ei gadarnhau a
chefnogi'r pedair thema a nodwyd yn yr adolygiad. Yn dilyn hyn, byddai'r camau
sy'n codi o'r adroddiad yn arwain at gam nesaf yr adolygiad, gan edrych ar
oblygiadau'r canfyddiadau a'r adnoddau sydd eu hangen er mwyn ei weithredu,
datblygu cynllun gweithredu realistig a ffordd o ddirprwyo camau er mwyn
cyflawni canlyniadau. Byddai angen i bwysau arall ar y sefydliad gael ei
nodi yn y papur i helpu i flaenoriaethu, gan gynnwys y rhai nad ydynt wedi'u
diffinio eto ond a fyddai'n cael effaith ar adnoddau, fel Brexit a rhaglen
diwygio'r Cynulliad a dylid cynnwys peth hyblygrwydd er mwyn caniatáu ar gyfer
blaenoriaethau i newid. Roedd hefyd yn bwysig adlewyrchu'n gywir holl strwythur
y sefydliad a sut roedd yr holl wasanaethau yn cefnogi gwaith y Cynulliad. Byddai grŵp llywio yn gyfrifol am ystyried sut
i fwrw ymlaen â chanlyniadau'r adolygiad gyda chynrychiolydd o bob un o'r
Cyfarwyddiaethau. CAMAU
I’W CYMRYD: Dave Tosh i ddatblygu Cylch Gorchwyl ar gyfer y
Grŵp Llywio ar gyfer cam 2. |
|
Adroddiad Rheolaeth Ariannol Rhagfyr 2017 Cofnodion: Rhoddodd Nia Morgan amlinelliad byr o'r Adroddiad
Rheolaeth Ariannol ar gyfer mis Rhagfyr, gan ailadrodd bod y sefyllfa ariannol
yn parhau i fod yn heriol iawn, ond bod gwarged y Gronfa Fuddsoddi wedi gwella
o ganlyniad i ddiweddariad i'r rhagolygon a adroddwyd, gan roi clustog mwy
synhwyrol ar gyfer unrhyw gostau anhysbys yn y dyfodol. Gofynnwyd i'r Bwrdd roi gwybod i Nia am unrhyw
newidiadau sy'n dod i'r amlwg i'r rhagolygon neu'r gwariant brys, cyn cyfarfod
y Bwrdd Buddsoddi ac Adnoddau yr wythnos ganlynol. Roedd taenlenni newydd yn cael eu cyflwyno i hwyluso
cyllidebu a rhagolygu mwy cywir ar gyfer 2018-19 a gofynnwyd i'r Bwrdd ystyried
sut i wneud arbedion ar gyllidebau ar draws Cyfarwyddiadau er mwyn darparu
cronfa wrth gefn. Cafodd y Bwrdd Rheoli wybod hefyd y byddai gwaith ar y
gyllideb 2019-2020 yn dechrau cyn bo hir. |
|
Diweddariad y Bwrdd Buddsoddi ac Adnoddau Eitem lafar |
|
Grid Cyfryngau Cyflwyniad electronig Cofnodion: Rhoddodd Non Gwilym drosolwg o'r
grid cyfredol a oedd yn cynnwys gweithgareddau cyfathrebu corfforaethol a
busnes i hwyluso gwaith cynllunio. Roedd y Cynulliad wedi bod yn brysur iawn yn ystod yr wythnos diwethaf, a oedd yn cynnwys nifer o ymweliadau, digwyddiad Facebook Live gyda thros
2,000 o bobl unigolyn yn edrych arno a nifer o sylwadau a chwestiynau, a
lansio'r Adroddiad Lobïo. Er bod yr wythnos ganlynol yn llai beichus, roedd
nifer o ymgynghoriadau’n cael eu lansio, ac roedd adroddiadau pwyllgor i ddod
yn ystod yr ychydig wythnosau nesaf. |
|
Y Wybodaeth Ddiweddaraf am Risgiau Corfforaethol Cofnodion: Dywedodd Gareth Watts y byddai'r gofrestr risg
gorfforaethol yn cael ei chyflwyno i ACARAC ym mis Chwefror a chytunodd y Bwrdd
nad oedd angen adolygiad dwfn gan ACARAC ar yr achlysur hwn. |
|
Blaenraglen waith y Bwrdd Rheoli/y Comisiwn Papur i’w nodi |
|
Unrhyw fater arall Cofnodion: Rhoddodd Dave
amlinelliad o gyfarfod strategaeth yr uwch dîm ym mis Rhagfyr, a oedd yn gyfle
i drafod yr adolygiad capasiti yn estynedig, ynghyd â strwythur y sefydliad a'r
camau nesaf. Ystyriwyd y berthynas hefyd a chyfrifoldebau gwneud penderfyniadau
y Bwrdd Rheoli a'r Bwrdd Buddsoddi ac Adnoddau ac roedd Manon Antoniazzi yn paratoi
papur cynnig. Nododd y
Llywydd ei bod yn awyddus i edrych ar y posibilrwydd i fynd â'r Cyfarfod Llawn
i leoliad arall yng Nghymru. Byddai angen amserlen dros dro yng ngwanwyn 2020 a
byddai angen cronfeydd ychwanegol i gefnogi hynny, pe byddai'n mynd yn ei
flaen. Dave Tosh ac Adrian Crompton i roi asesiad o oblygiadau cost ac adnoddau
i'r Comisiwn eu hystyried. Cynhelir y
cyfarfod nesaf ar 8 Chwefror. |