Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Gynhadledd 4B - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Liz Jardine 

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Cyflwyniadau, ymddiheuriadau a datganiadau o fuddiant

Cofnodion:

Ni chafwyd unrhyw ymddiheuriadau. Datganodd Chris Warner fuddiant ynghylch yr eitem amrywiaeth a chynhwysiant oherwydd ei rôl fel ymddiriedolwr a chyfarwyddwr anweithredol gyda Chwarae Teg, sef elusen genedlaethol sy'n gweithio i greu Cymru lle mae merched yn cyflawni ac yn ffynnu.

 

 

2.

Nodyn cyfathrebu i staff – Mair Parry Jones

Cofnodion:

Bydd Mair Parry-Jones yn drafftio nodyn ar drafodaeth y Bwrdd Rheoli ar gyfer y dudalen newyddion.

 

 

3.

Cofnodion y cyfarfod blaenorol

Cofnodion:

Cytunwyd bod cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 3 Tachwedd yn gywir.

 

 

4.

Strategaeth Amrywiaeth a Chynhwysiant Ddrafft 2016-21 ac Adroddiad Cydraddoldeb Blynyddol 2015-16

Cofnodion:

Croesawodd y Bwrdd Holly Pembridge, Pennaeth Amrywiaeth a Chynhwysiant, i gyflwyno'r Adroddiad Cydraddoldeb Blynyddol 2015-2016, a oedd yn nodi bod y cynnydd o ran cydraddoldeb wedi bod yn dda ar y cyfan, gan roi llwyfan cadarn i symud ymlaen ymhellach yn ystod y Pumed Cynulliad.

 

Oherwydd pryderon ynghylch crynhoad uwch o weithwyr BME mewn swyddi is, gwnaed newidiadau, er enghraifft drwy hysbysebu mwy o swyddi'n fewnol er mwyn cyrraedd cynulleidfa ehangach. Mae'r tîm Amrywiaeth a Chynhwysiant hefyd yn gweithio'n agos gyda'r rhwydwaith REACH i benderfynu ar gyfleoedd i gefnogi cydweithwyr BME i wireddu eu potensial. Nid yw'r ystadegau anabledd wedi gwella, felly bu'n rhaid rhoi cynllun gweithredu ar waith i fynd i'r afael â'r mater drwy hysbysebu a recriwtio a'r rhwydweithiau cymorth.

 

Hefyd, cyflwynodd Holly y Strategaeth Amrywiaeth a Chynhwysiant ddrafft newydd ar gyfer 2016-21, sydd wedi cael ei halinio'n fwy strategol â Strategaeth Comisiwn y Cynulliad na chynlluniau blaenorol. Mae hefyd yn adlewyrchu blaenoriaethau sydd wedi codi, fel y Tasglu Digidol a'r Senedd Ieuenctid.

 

Cafwyd adborth ar y strategaeth gan y Bwrdd Rheoli, y rhwydweithiau cydraddoldeb, Ochr yr Undebau Llafur a 'chyfeillion beirniadol' allanol. At hynny, lansiwyd arolwg cyffredinol ar hygyrchedd y Cynulliad er mwyn llywio datblygiad y Cynllun Gweithredu. Gofynnodd Joyce Watson, Comisiynydd y Cynulliad dros gydraddoldeb, am farn grwpiau plaid, ac ymgynghorwyd â staff cymorth Aelodau'r Cynulliad hefyd.

 

Bydd y Strategaeth yn cael ei chyflwyno i'r Comisiwn yn ei gyfarfod ar 5 Rhagfyr, ac ar ôl cytuno arno, bydd Holly yn gweithio gyda'r Penaethiaid Gwasanaethau i gytuno sut y bydd y meysydd gwasanaeth yn bodloni'r rhwymedigaethau yn y Strategaeth drwy eu cynlluniau gwasanaeth, gan sicrhau bod dull holistaidd yn cael ei fabwysiadu mewn perthynas â'r blaenoriaethau eraill sydd wedi codi.

 

Diolchodd y Bwrdd i Holly am y gwaith sydd wedi'i gwblhau, gan groesawu'r Strategaeth a natur fwy strategol y ddogfen, a'r pwyslais ar Asesiadau o'r Effaith ar Gydraddoldeb fel bod cydraddoldeb yn cael ei ymgorffori mewn arferion gwaith. Argymhellodd y Bwrdd y dylid cyflwyno mwy o naratif ymlaen llaw ar berfformiad y sefydliad o ran cydraddoldeb. Mynegwyd diddordeb y Bwrdd Taliadau o ran cofnodi data Aelodau a Staff Cymorth, a dywedodd Holly fod y ffordd y caiff y data ei ddefnyddio yn fater sy'n cael ei ystyried.

 

Cytunodd y Bwrdd y byddai'n ddefnyddiol cael diweddariadau rheolaidd ynghylch y Cynllun Gweithredu.

 

Camau i’w cymryd: Bydd Holly Pembridge yn dod â Chynllun Gweithredu, wedi'i ddatblygu gyda'r Penaethiaid Gwasanaethau, yn ôl i'r Bwrdd Rheoli yn y flwyddyn newydd. 

 

 

 

5.

Caffael gan y Cynulliad

Cofnodion:

Croesawyd Jan Koziel i'r cyfarfod a rhoddodd amlinelliad i'r Bwrdd o'r papur i'w gyflwyno i'r Comisiwn ar 5 Rhagfyr a fydd yn rhoi gwybod i'r Comisiynwyr am ddulliau caffael strategol y Cynulliad. Mae hyn yn cynnwys gosod y strwythur caffael cywir; arbedion o ran caffael a chyflawni contractau; ymgysylltiad y Cynulliad â busnesau bach a chanolig; y Gwasanaeth Caffael Cenedlaethol; a'r effaith ar gaffael yn y sector cyhoeddus yn sgil gadael yr Undeb Ewropeaidd. Mynegodd y Comisiwn ddiddordeb hefyd mewn gwybod a oes gan y Cynulliad gontractau â chwmnïau y tu allan i'r DU.

 

Gan ystyried yr eitem flaenorol mewn perthynas â chydraddoldeb, cafodd y Bwrdd ei sicrhau bod y tîm Caffael yn gweithio'n agos gyda chontractwyr sy'n rhannu gwerthoedd y Comisiwn, gan eu holi'n fanwl ynghylch eu polisïau cydraddoldeb ac amrywiaeth, a chan sicrhau bod yr egwyddorion cydraddoldeb hyn yn greiddiol yn amodau a thelerau'r contractwyr. Anogwyd y tîm Caffael i gydweithio â'r tîm Cydraddoldeb a Chynhwysiant.

 

Nodwyd nad yw'r Gwasanaeth Caffael Cenedlaethol bob amser yn diwallu anghenion y Cynulliad, ac er bod y Cynulliad yn defnyddio llawer o'r fframweithiau, nad yw contractwyr sydd wedi gweithio'n dda gyda'r Cynulliad bob amser yn llwyddo i gael lle gyda'r gwasanaeth. Pwysleisiwyd yr egwyddor o roi cyfleoedd i gyflenwyr o Gymru.

 

Gwnaeth y Bwrdd rai argymhellion i wella'r wybodaeth a ddarperir yn y papur, gan gynnwys gofyn am fwy o enghreifftiau o arbedion o ran caffael.

 

 

 

5.

Unrhyw fater arall

Cofnodion:

Cadarnhaodd Non Gwilym y bydd Dippy y Diplodocws, y deinosor mwyaf enwog yn y DU sydd yn yr Amgueddfa Hanes Natur yn Llundain ar hyn o bryd, yn mynd ar daith o fis Ionawr 2016, ac y bydd yn y Senedd yn 2019.

 

Hysbyswyd y Bwrdd bod y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau i swydd y Prif Weithredwr bellach wedi mynd heibio ac y bydd asiantaeth recriwtio Penna yn cyflwyno pecyn rhestr hir i'r panel ei adolygu ar 21 Tachwedd.