Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Gynhadledd 4B - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Liz Jardine
Rhif | Eitem |
---|---|
Cyflwyniadau, ymddiheuriadau a datganiadau o fuddiant Cofnodion: Ni
chafwyd unrhyw ymddiheuriadau. Ni
chafwyd datganiadau o fuddiant. Cydnabu'r Bwrdd ymddeoliad Mike Snook a dymunodd yn dda iddo, gan gytuno y
byddai colled fawr ar ei ôl. |
|
Nodyn cyfathrebu i staff - Craig Stephenson Cofnodion: Bydd Craig Stephenson yn drafftio
nodyn ynghylch trafodaethau’r Bwrdd Rheoli ar gyfer y dudalen newyddion. |
|
Cofnodion y cyfarfod diwethaf - 14 Ebrill Cofnodion: Cytunwyd bod cofnodion cyfarfod y
Bwrdd Rheoli a gynhaliwyd ar 14 Ebrill yn gofnod cywir. |
|
Trafodaeth yn dilyn yr etholiad Eitem lafar. Cofnodion: Ystyriodd y Bwrdd etholiad y Cynulliad a dyddiau cynnar y Pumed Cynulliad,
gan gynnwys cyfarfodydd cychwynnol gyda'r Llywydd newydd. Rhoddodd Aelodau
newydd ac Aelodau a ailetholwyd adborth cadarnhaol iawn ynghylch y croeso
cyfeillgar a phroffesiynol a'r trefniadau tyngu llw a gawsant. |
|
Dangosfwrdd pontio i'r Pumed Cynulliad - Mai 2016 Cofnodion: Nododd y Bwrdd y dangosfwrdd
pontio terfynol a chytunwyd pa mor dda y gweithiodd pawb i gyflawni cymaint. |
|
Strategaeth y Comisiwn 2016-2021 Cofnodion: Adolygwyd drafft pellach o'r strategaeth i sicrhau'r Bwrdd ei bod yn
adlewyrchu'r trafodaethau, yn gysylltiedig â'r gyllideb ac yn dangos y lefel
gywir o uchelgais, gan sicrhau parhad ar yr un pryd. Trafododd y Bwrdd rai mân
newidiadau, ond cytunwyd bod y drafft yn dda fel arall. Bydd y strategaeth yn cael ei chyflwyno i gyfarfod y Comisiwn ar 30
Mehefin. Cytunwyd na fyddai papurau drafft y Comisiwn yn cael eu cyhoeddi'n fewnol
ac y byddai Dave Tosh yn egluro Cylch Gorchwyl y Bwrdd Rheoli. |
|
Adroddiad blynyddol a chyfrifon 2015-16 Eitem lafar. Cofnodion: Roedd yr Adroddiad blynyddol a'r cyfrifon ar fin cael eu cwblhau a
gofynnwyd i'r Bwrdd roi gwybod am unrhyw sylwadau erbyn hanner dydd 13 Mai, cyn
i'r drafft terfynol gael ei anfon i Swyddfa Archwilio Cymru ei adolygu.
Rhoddodd y Bwrdd ganmoliaeth i Nia Morgan a'r tîm Cyllid, Chris Warner ac
eraill am eu gwaith ar yr adroddiad. |
|
Diweddariad Dangosfwrdd Adnoddau Dynol Cofnodion: Gwelodd y Bwrdd gopi o’r Dangosfwrdd Adnoddau Dynol i'w nodi ac fe'i
hysbyswyd y byddai trafodaeth lawn ar reoli absenoldeb yn cael ei chynnal yng
nghyfarfod y Bwrdd ar 20 Mehefin. Nid oedd lwfansau wedi'u cynnwys yn y
dangosfwrdd oherwydd y cytunwyd i gadw'r dangosfwrdd yn syml. Fodd bynnag,
roedd hyn yn rhan o'r trafodaethau rhwng Partneriaid Busnes Adnoddau Dynol a
Phenaethiaid Gwasanaeth. |
|
Adroddiad Rheolaeth Ariannol - Ebrill 2016 Cofnodion: Hefyd, derbyniodd y
Bwrdd yr adroddiadau Cyllid ar gyfer mis Mawrth a mis Ebrill i'w nodi. Dywedodd
Nia Morgan wrth y Bwrdd fod costau'r etholiad o fewn y gyllideb o hyd, gan
ddisgwyl costau diswyddo staff cymorth Aelodau'r Cynulliad, nad oeddent ar gael
eto. |
|
Cloi'r cyfarfod |
|
Unrhyw Fusnes Arall Cofnodion: Er mwyn symud ymlaen â phrosiect y system gyllid,
gofynnwyd i'r Bwrdd roi adborth ar y strwythur codio i Lisa Bowkett cyn gynted
â phosibl. Cyhoeddodd y tîm Ymchwil ai adroddiad 'Materion o
Bwys' heddiw. Gofynnodd Claire Clancy i'r Penaethiaid ddiolch i'w timau
a rhoi gwybod iddynt ei bod yn falch iawn o'u gwaith mewn perthynas â'r gwaith
o bontio i'r Pumed Cynulliad. Cynhelir cyfarfod nesaf y Bwrdd Rheoli ar 20 Mehefin. |